Y wefr o redeg marathon ar ôl trawiad ar y galon

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhedodd Dilwyn Marathon Eryri, bron i flwyddyn a hanner wedi iddo gael trawiad ar y galon.

"Yn y misoedd cyntaf o'n i'n ofn cerdded ar ben fy hun. O'n i'n meddwl 'no we dwi'n mynd am walk de'."

Ar 16 Ebrill 2021 cafodd Dilwyn Rowlands, 51, o'r Felinheli drawiad ar y galon wrth reidio ei feic gyda'i wraig Sioned ar lwybr beicio Lôn Eifion ym Mhenygroes ger Caernarfon.

Deunaw mis yn ddiweddarach ar 29 Hydref 2022, yn rhyfeddol iawn, mi lwyddodd i gyflawni un o farathonau anoddaf y calendr rhedeg - Marathon Eryri.

Mae gorffen y marathon yn nodi carreg filltir enfawr i Dilwyn gan "dynnu llinell" o dan 18 mis heriol yn dod i delerau a'r trawiad a cheisio dod dros y digwyddiad yn gorfforol ac yn feddyliol.

Roedd cyrraedd llinell terfyn y ras gyda'i fab Jac, 5, yn rhedeg wrth ei ochr yn un o brofiadau mwyaf gwerthfawr ei fywyd. Fel meddai Dilwyn: "Dwi'n made up."

Ffynhonnell y llun, Dilwyn Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Dilwyn a'i fab Jac yn gwneud eu ffordd at y llinell

'Ofn cerdded ar ben fy hun'

Yn fuan ar ôl cael gosod stent yng Nghanolfan Gofal Cardiaidd Gogledd Cymru (NWCC) ar ôl y trawiad yn 2021, cafodd Dilwyn brawf geneteg wnaeth gadarnhau bod ganddo ffurf ddifrifol o Familial Hypercholesterolaemia (FH).

"Yn amlwg roedd y pedwar i chwe mis gyntaf yn anodd - yn gorfforol ac i fy iechyd meddwl," meddai Dilwyn.

"O'n i'n ofn cerdded ar ben fy hun. O'n i'n meddwl 'no we dwi'n mynd am walk de, be os fysa 'na rwbath yn digwydd? Roedd Sioned neu un o fy ffrindiau yn gorfod dod efo fi.

"Ond yn slo' bach wnaeth fy iechyd meddwl wella ac efo hynna wnaeth fy nghorff i wella."

Ag yntau yn rhedwr brwd ers blynyddoedd roedd y trawiad wedi bygwth tynnu rhan fawr o'i fywyd oddi wrtho ond mi ddyfalbarhaodd a hynny gyda help doctoriaid, teulu a ffrindiau.

"Un bore dydd Sadwrn, fel hen routine fi, nes i jest rhoi fy nillad ymlaen a mynd am run. 'Nath Sioned weld be' o'n i'n gwneud a jest deud ddim byd. O'n i hanner ffordd rownd y run a 'nes i feddwl i fy hun 'wow, dwi ar ben fy hun a does 'na ddim byd wedi digwydd, a chario mlaen'.

"Nes i gymryd step a meddwl, ma' gen rhein hyder ynddo fi - fy nheulu, ffrindiau a doctoriaid. Ma' rhein isio fi wneud, felly dyma fi'n mynd."

Disgrifiad,

Cyfweliad Cymru Fyw gyda Dilwyn o fis Awst 2021, bedwar mis wedi'r trawiad

'Ffordd fi o fyw'

Gyda hanes o glefyd y galon yn nheulu Dilwyn roedd cael trawiad wedi codi ofn arno erioed. Bu farw ei dad yn 39 oed o drawiad ar y galon ac fe brofodd ei frawd drawiad pan yn 36 oed. Mae rhedeg wedi cadw Dilwyn, 51, yn heini ers ei arddegau.

"Ffordd fi o fyw sydd wedi nadu rhag trawiad y galon ddigwydd yn y gorffennol," meddai Dilwyn.

"Sw'n i ddim 'di bod efo'r ffordd yna o fyw mi fasa fo wedi digwydd yn fy 30au. Dwi erioed wedi smocio, oce... dwi yn yfad, ond ddim yn crazy, ond ma' deiet fi yn weddol dda ers blynyddoedd."

Roedd Dilwyn wedi rhedeg Marathon Eryri saith gwaith o'r blaen ac ar ôl adennill ei hyder mi benderfynodd gosod y gôl i'w hun o redeg ei wythfed.

Meddai Dilwyn: "O'n i'n meddwl, 'na'i ofyn i'r doctor yn Wrecsam dechrau'r flwyddyn os ydi o'n iawn i fi rasio blwyddyn yma.

"'Nath o ddeud 'cei, ond paid a byw yn Zone 5 ar y heart rate - gei di rasio ond dim ond fewn rheswm."

'Nes i jest enjoio fo'

Dechreuodd redeg ar fynydd a lôn unwaith eto a phan gafodd 3ydd safle i grŵp oedran dros 50 yn ras 10k Caernarfon mi feddyliodd fod Marathon Eryri o fewn ei gyrraedd.

"Nes i wneud rhan fwyaf o training Marathon Eryri ar ben fy hun a wnaeth 'na ddim byd digwydd, dim poena' yn chest fi na ddim byd."

Llwyddodd i redeg y ras mewn 4 awr a 15 munud, ac er mai dyma'i amser arafaf erioed - a'i fod wedi ei redeg mewn 3 awr 31 munud yn 2015 - roedd o'n "reit shocked."

Ffynhonnell y llun, Dilwyn Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Daeth ffrindiau Dilwyn i redeg rhannau gwahanol o'r ras wrth ei ochr

"Hon oedd y marathon slofa erioed, ond o'n i ddim yn mynd am amser, nes i jyst enjoio fo," meddai.

"Nes i drio rhedeg yn gall, cadw pace, aeth o yn rili da. Ond highlight y marathon i fi oedd cal fy ffrindiau efo fi a chael Jac y mab efo fi ar y chwarter milltir dwytha. Oedd hynna yn massive.

"Nes i weld y consultant yn Wrecsam ar ôl y ras a nes i sôn bo' fi wedi gwneud y marathon. Oedd hi wedi gwirioni bo' fi wedi gwneud o a gaethon ni sgwrs am redeg i'r beat.

"Nath hi ddeud 'erbyn hyn Dilwyn, mae'n iawn i chdi rhedeg i sut ti'n teimlo', a dyna dwi di bod yn gwneud."

Ffynhonnell y llun, Dilwyn Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Dilwyn ati i wneud taith feic i godi arian i'r British Heart Foundation ym mis Awst 2021

'Rhoi llinell o dan y peth'

Mae Dilwyn yn hynod falch o'r lle mae o wedi cyrraedd mewn blwyddyn a hanner ac roedd gwneud y ras yn ffordd iddo ddod i delerau a'r trawiad, yn enwedig yn feddyliol.

"Ar ôl neud o nes i feddwl, reit... dwi di neud y marathon, dwi 'di rhoi llinell o dan y peth a fedra'i gario mlaen yn normal efo mywyd i.

"Roedd o'n gôl i fi. Nes i sôn wrth y doctor 'ella wnâi ddim gwneud y marathon eto' ond wnaeth hi ddeud 'pam lai? Gen ti llwyth o amser o dy flaen di, ma gen ti lwyth o marathons fedri di wneud - jest cario mlaen be ti'n gwneud. Dal i fyw yn iach a dal i gadw'n heini a dal i wneud be ti'n gwneud ers blynyddoedd."

Ffynhonnell y llun, Dilwyn Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Dilwyn Rowlands a'i fab Jac ar ôl gorffen Marathon Eryri

"Dwi'n rhedeg ers dwi'n ifanc. Dydi o ddim jest yn dda yn gorfforol ond mae o'n dda i dy ben di. Os ti'n cael diwrnod prysur neu reit stressful yn gwaith, ti'n mynd am run ac mae'n helpu. Ti'n cal switch off ag amser i chdi dy hun."

Mae Dilwyn yn edrych tua'r nesa yn barod, sef ras 25k Berlin ym mis Mai, a dydi o ddim yn edrych fel fod y rhedwr am roi'r gorau iddi yn fanno chwaith.

"Mae cymryd y steps a dechrau neud be' ti isio neud eto yn bwysig. Dyna be nes i, a dyna be dwi am gario 'mlaen i wneud."

Pynciau cysylltiedig