Llafur Cymru: 'Peiriant etholiadol mwyaf llwyddiannus y byd'
- Cyhoeddwyd
Mae record ddi-dor y Blaid Lafur o lwyddiant mewn etholiadau yng Nghymru yn hirach nag unrhyw blaid yn y byd, yn ôl ymchwilwyr.
Mae'n ganrif ers i Lafur ennill mwy o seddi a phleidleisiau yng Nghymru na phleidiau eraill am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol.
Mae'r un peth wedi digwydd ym mhob etholiad i San Steffan ers Tachwedd 1922 ac ym mhob un o'r chwe etholiad i Senedd Cymru.
Dywed yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd taw Llafur Cymru yw "peiriant etholiadol mwyaf llwyddiannus y byd democrataidd o bell ffordd".
'Dim cystadleuaeth'
Mae data a gasglwyd gan ei gydweithiwr, Jac Larner, yn dangos pa mor llwyddiannus fu Llafur yng Nghymru o gymharu â phleidiau eraill mewn etholiadau rhanbarthol neu is-wladwriaeth ledled y byd.
Mae'r South Tyrolean People's Party wedi ennill pob etholiad yn ei thalaith o'r Eidal ers 1948 ac mae'r Christian Social Union wedi bod yn curo gwrthwynebwyr yn Bavaria, yr Almaen, ers 1953.
Ond hyd yn oed pe bai Llafur yn dechrau colli yng Nghymru, fe fyddai'n cymryd degawdau i'r pleidiau yma ddal i fyny gyda Llafur.
Mae'r Institutional Revolutionary Party wedi bod yn ennill etholiadau ym Mecsico ers 1929, ond doedd y cystadlu yno ddim wastad yn ddemocrataidd.
Mae archif ddigidol yn olrhain hanes Llafur wedi ei greu mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Disodli'r Rhyddfrydwyr
Nid Llafur yw'r blaid gyntaf i deyrnasu yng Nghymru: fe wnaeth y Rhyddfrydwyr yr un peth rhwng 1867 a 1918.
Dros Brydain, y Ceidwadwyr enillodd yr etholiad cyffredinol yn 1922, ond fe lwyddodd Llafur i oddiweddyd y Rhyddfrydwyr fel yr ail blaid.
Dywed yr hanesydd Syr Deian Hopkin fod Llafur wedi'i threfnu'n dda a bod ganddi faniffesto clir ym 1922.
Roedd Llafur hefyd wedi elwa o greu etholaethau newydd ym maes glo de Cymru, meddai, sy'n dal i ffurfio sylfaen ei chefnogaeth.
Mewn darlith ar hanes etholiad 1922, dywed Syr Deian fod Llafur wedi dal ei gafael ar ei seddi yn de, ond roedd ei llwyddiant yng ngweddill Cymru "yn stori fwy cymysg".
Er bod yr undebau llafur a gododd y Blaid Lafur wedi colli llawer o'u statws, 'dyw ffiniau'r etholaethau sydd wedi aros yn ffyddlon i Lafur heb newid rhyw lawer.
Dywedodd Daryl Leeworthy - awdur Labour Country, am wleidyddiaeth de Cymru - fod canlyniadau etholiad y Senedd yn 2021 yn dangos bod Llafur yn dal i ddibynnu'n drwm ar yr un diriogaeth ag a enillodd yn 1921.
Mae Dr Leeworthy yn dweud hefyd bod rôl menywod o fewn y Blaid Lafur yn hollbwysig, er bu rhaid aros tan 1928 iddyn nhw dderbyn yr un hawliau pleidleisio â dynion.
"Ry'n ni'n tueddu meddwl am wleidyddiaeth Llafur yn cael ei ddominyddu gan ffederasiwn y glowyr a diwydiant dynion, ond roedd menywod yr un mor bwysig â dynion," meddai.
Bu llwyddiannau ysgubol i Lafur yn 1945, 1966 a 1997, ond mae 'na un sedd - Sir Drefaldwyn - nad yw'r blaid erioed wedi'i hennill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd27 Medi 2021