Dyn, 19, yn cyfaddef iddo ladd golffiwr yn Nhrefynwy

  • Cyhoeddwyd
Andrew NicholasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Andrew Nicholas ei fod yn berson arbennig ac yn olffiwr o fri

Mae dyn, 19, wedi cyfaddef iddo ladd dyn o Poole a oedd wedi teithio i Gymru i chwarae golff yn ystod haf eleni.

Cafwyd hyd i Andrew Nicholas, 43, yn anymwybodol yn Nhrefynwy yn ystod oriau mân bore Sul, 26 Mehefin a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Morgan Wainewright bledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad yn Llys y Goron, Caerdydd.

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth Wainewright y bydd yn wynebu dedfryd o garchar.

Yn gynharach eleni dywedodd teulu Mr Nicholas bod ei farwolaeth wedi'u gadael "yn dorcalonnus" ac nad oedd geiriau i ddisgrifio y golled.

Roedd e'n fab, brawd ac yn ewythr i dair nith ac yn cael ei ystyried gan aelodau o'i glwb golff fel "dyn bonheddig".

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Mr Nicholas ar stryd yn Nhrefynwy ym Mehefin eleni

Mae Wainewright o Drefynwy wedi'i gadw'n y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.