Casnewydd: Carchar am oes i ddyn am lofruddio menyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio menyw 79 oed.
Cafodd Mari O'Flynn ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mhentref Betws fis Mai eleni.
Fe blediodd Simon Parks, 52, yn euog i lofruddio mam ei bartner oedd yn "fenyw fregus".
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Parks yn anhapus fod Ms O'Flynn wedi symud i fyw gydag ef a'i bartner yn Hydref 2021.
Roedd Parks, oedd yn alcoholig, wedi dechrau yfed am 06:50 ar y bore cafodd Ms O'Flynn ei lladd - 24 Mai 2022.
Clywodd y llys ei fod wedi prynu wyth can o gwrw o siop cyn dychwelyd am bedwar diod arall a sigaréts.
Roedd wedi dychwelyd i'r tŷ erbyn 08:00.
Dywedodd yr erlynydd, Michael Jones KC, ei fod wedi "cerdded drwy'r drws ac ymosod, llofruddio ac ymosod yn rhywiol" ar Mrs O'Flynn yn ei gwely.
Cafodd Parks ei weld awr a hanner yn ddiweddarach yn cerdded i siop gyfagos gydag anafiadau ar ei wyneb ac yn "ei drin gyda hances".
Clywodd y llys ei fod wedi prynu mwy o alcohol gan yfed tu allan nes iddo gyfogi. Cafodd ambiwlans ei alw, ond fe wrthododd driniaeth yn yr ysbyty.
Cafodd deunydd fideo o gyrff swyddogion heddlu ei ddangos yn y llys.
Mae'r fideo'n dangos Parks yn cyfaddef ymosod a llofruddio Mrs O'Flynn, er iddo ddweud "dim sylw" mewn cyfweliadau swyddogol yr heddlu.
Dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke: "Mae'n glir fod yr hyn ry'ch chi wedi gwneud wedi achosi trawma a galar na ellir ei ddychmygu i deulu Mrs O'Flynn.
Dywedodd wrth Parks na fyddai'n cael ei ystyried ar gyfer cael ei ryddhau am 25 o flynyddoedd.
'Chwe mis dychrynllyd'
Mewn datganiad, dywedodd teulu Ms O'Flynn y byddan nhw'n "cofio eu Mam am ei disgleirdeb a thrwy ailadrodd eu straeon doniol".
"Mae heddiw, a'r chwe mis diwethaf wedi bod yn ddychrynllyd, ond mae 'na rywfaint o hedd o wybod bod y dyn sy'n gyfrifol yn y carchar."
Fe wnaeth y teulu ddiolch i swyddogion yr heddlu, y barnwyr a Gwasanaeth Erlyn y Goron am eu cefnogaeth, ynghyd â'u ffrindiau a'u teulu.
Ychwanegodd uwch swyddog ymchwilio'r achos, Ditectif Brif Uwcharolygydd Leanne Brustad, bod eu meddyliau gyda theulu Ms O'Flynn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022