Cwpan y Byd: Pa mor dda ydych chi'n nabod carfan Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae carfan Cymru bellach wedi cyrraedd Qatar, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd.
Bydd y 26 chwaraewr nawr yn paratoi ar gyfer eu gêm agoriadol yn erbyn yr UDA ddydd Llun, gydag Iran a Lloegr hefyd yn sefyll yn eu ffordd wrth iddyn nhw geisio cael allan o Grŵp B ac i rownd yr 16 olaf.
Ond pa mor dda 'dych chi'n 'nabod y rheiny fydd yn cynrychioli'r crys coch yn y twrnament - a pha mor dda maen nhw'n adnabod ei gilydd?
Wrth i ni brofi'r chwaraewyr gyda'n cwis 'Pwy ydw i?', dyma ambell i ffaith ddifyr i chi am bob un yn y garfan.
Wayne Hennessey
Fe wnaeth y cawr o Fôn naw arbediad wrth i Gymru drechu Wcráin yn y gemau ail gyfle, a hynny'n record Ewropeaidd ar gyfer ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022. Fe enillodd ei gefnder, Terry Hennessey, 39 cap dros Gymru yn y '60au a'r '70au.
Danny Ward
Danny Ward wnaeth ddechrau gêm agoriadol Cymru yn Euro 2016, yn erbyn Slofacia yn Bordeaux, wedi i Wayne Hennessey frifo ei gefn - a hynny lai na thri mis yn unig ar ôl ennill ei gap cyntaf.
Adam Davies
Cafodd Adam Davies ei eni yn Rinteln, tref fechan yng ngogledd-orllewin yr Almaen, a hynny am fod ei dad yn gwasanaethu yno gyda'r lluoedd arfog ar y pryd. Ef yw'r unig chwaraewr yn y garfan gafodd ei eni y tu allan i Brydain.
Chris Gunter
Chris Gunter oedd y dyn cyntaf i gyrraedd 100 o gapiau dros Gymru, a rhwng 2011 a 2018 fe chwaraeodd 63 gêm ryngwladol yn olynol - gan gynnwys troi fyny unwaith pan oedd ei reolwr Chris Coleman yn meddwl ei fod wedi anafu.
Ben Davies
Fe dreuliodd cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Ystalyfera gyfnod yn byw yn Denmarc pan oedd yn blentyn. Mae'n cael ei adnabod fel un o chwaraewyr mwyaf peniog y garfan, ac yn ddiweddar fe enillodd radd 2:1 mewn Economeg o'r Brifysgol Agored.
Neco Williams
Mae brawd bach Neco, Keelan Williams, hefyd yn bêl-droediwr, gan chwarae i Burnley a thimau ieuenctid Cymru, ac mae ei dair chwaer yn ddawnswyr proffesiynol.
Ethan Ampadu
Yn fab i gyn-chwaraewr Abertawe, Kwame Ampadu, gallai Ethan fod wedi dewis chwarae pêl-droed rhyngwladol dros bedair gwlad - Cymru, Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon neu Ghana. Yn 15 oed, bu'n ymarfer gyda charfan Cymru cyn Euro 2016.
Chris Mepham
Ar ôl cael ei wrthod gan Chelsea, Watford a QPR yn 14 oed, bu bron i Chris Mepham roi'r gorau ar ei freuddwyd o fod yn bêl-droediwr - ond cafodd ei berswadio gan ei fam i roi un cyfle arall arni, wedi iddo ddal llygad sgowt o Brentford wrth chwarae i'w dîm amatur.
Joe Rodon
Fe chwaraeodd tad Joe Rodon, Keri, bêl-fasged dros Gymru, tra bod ei daid Peter a'i ewythr Chris yn bêl-droedwyr proffesiynol ar un adeg hefyd.
Connor Roberts
Mae'r amddiffynnwr o Abertawe wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn gwrando ar 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan cyn pob gêm i roi "ychydig o dân" yn ei fol. Oddi ar y cae pêl-droed, mae'n ymlacio drwy wneud ychydig o waith coed.
Ben Cabango
Ben Cabango yw unig aelod y garfan sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg gyda'r Seintiau Newydd o Abertawe. Mae ei frawd bach, Theo, yn asgellwr i dîm Rygbi Caerdydd.
Tom Lockyer
Daeth Tom Lockyer yn ôl i mewn i dîm Cymru ar gyfer pedair gêm olaf ymgyrch ragbrofol Euro 2020, wedi iddyn nhw golli dwy allan o'r bedair gyntaf. Fe aethon nhw'n ddi-guro am weddill yr ymgyrch, ond yn anffodus i Lockyer fe fethodd y twrnament gydag anaf.
Joe Morrell
Wedi ei eni yn Ipswich, daeth Joe Morrell yn un o berchnogion CPD Tref Merthyr yn gynharach eleni gan mai o'r ardal honno y mae ei deulu'n dod.
Matt Smith
Daeth Matt Smith drwy academi Manchester City gyda chwaraewyr fel Jadon Sancho a Phil Foden, ond ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg gyda phum clwb gwahanol fe adawodd City heb wneud yr un ymddangosiad i'r tîm cyntaf.
Joe Allen
Mae cyn-ddisgybl Ysgol y Preseli yn cadw ieir, ac un tro fe serennodd ar glawr 'Chicken and Egg Magazine'.
Dylan Levitt
Daeth Dylan Levitt drwy system ieuenctid Manchester United, cyn i Ryan Giggs roi ei gap rhyngwladol cyntaf iddo yn 2020 - a hynny wedi iddo gael ei gap cyntaf i dîm dan-19 Cymru gan neb llai na Rob Page.
Sorba Thomas
Cafodd Sorba Thomas ei enwi yng ngharfan 'Lloegr C' i wynebu 'Cymru C' yn 2020, cyn i Covid olygu bod y gêm yn cael ei chanslo. Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, fe enillodd ei gap cyntaf dros Gymru.
Rubin Colwill
Cafodd Rubin Colwill ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Euro 2020 er nad oedd o wedi ennill ei gap cyntaf ar y pryd. Mae ei frawd bach, Joel, yn rhan o academi Caerdydd.
Aaron Ramsey
Fe gymerodd Aaron Ramsey ei gamau cyntaf yn y byd pêl-droed mewn twrnament Yr Urdd, ac yn 2011 fe ddaeth cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn gapten ieuengaf Cymru, ag yntau ond yn 20 oed.
Harry Wilson
Daeth Harry Wilson y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru pan enillodd ei gap cyntaf yn 16 oed - ac fe enillodd ei daid £125,000 ar ôl betio pan oedd Wilson yn blentyn y byddai'n cynrychioli ei wlad ryw ddydd.
Dan James
Ers ennill ei gap cyntaf, mae Dan James wedi dechrau 34 gêm gystadleuol yn olynol dros Gymru, ac fe sgoriodd goliau pwysig yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn yr ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd.
Jonny Williams
Bellach yn chwarae yn Adran Dau gyda Swindon, mae 'Joniesta', fel mae'n cael ei alw gan gefnogwyr Cymru, wedi sgorio mwy o goliau (6) dros ei glwb y tymor yma nag unrhyw un arall yn y garfan.
Gareth Bale
Mae cyfoedion Gareth Bale yn ystod ei gyfnod yn ysgol Whitchurch High yn cynnwys cyn-gapten rygbi Cymru a'r Llewod, Sam Warburton, enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, a'r dawnsiwr iâ Lloyd Jones a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Kieffer Moore
Yn 21 oed, roedd Kieffer Moore yn dal i chwarae pêl-droed rhan amser tra'n gweithio fel achubwr bywyd (lifeguard) mewn pwll nofio - saith mlynedd yn ddiweddarach fe sgoriodd dros ei wlad yn Euro 2020.
Mark Harris
Er bod Mark Harris wedi ei eni yn Abertawe, mae wedi chwarae dros Gaerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn ystod ei yrfa hyd yma - ond nid i'r Elyrch.
Brennan Johnson
Brennan Johnson oedd prif sgoriwr Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni gyda dwy gôl - a'r rheiny yn dod yn erbyn Gwlad Belg a'r Iseldiroedd, y ddau ymhlith 10 uchaf y byd yn ôl rhestr detholion FIFA.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022