Caerdydd: Cyn-hostel Nos Da wedi troi'n fan 'anniogel'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hostel poblogaidd yng Nghaerdydd wedi troi yn fan "anniogel" ers iddo gau ar ddechrau'r cyfnod clo, yn ôl trigolion Glan-yr-Afon.
Y pryder mwyaf yw sbwriel a nodwyddau sydd wedi'u gadael ar lawr hen ardd gwrw'r dafarn, ar ddarn o dir sydd dan berchnogaeth Cyngor Caerdydd.
Fe wnaeth llefarydd ar ran y cyngor gadarnhau wrth Newyddion S4C y bydd y tir ger hostel Nos Da, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn cael ei glirio.
Roedd Nos Da yn hostel a bar oedd yn denu nifer o ymwelwyr a phobl leol, ond dyw'r safle heb ailagor ers iddo gau ar ddechrau cyfnod clo'r pandemig.
Erbyn hyn mae 'na sbwriel ar hyd y llawr tu allan i'r safle, sy'n cynnwys caniau cwrw ac offer cymryd cyffuriau.
"Oedden ni'n dod yma lot, oedd e mor agos i dref," meddai Gwilym Hughes, sy'n byw yn lleol.
"Roedd o reit ar bwys lle oedden i'n byw, ro'n i'n cwrdd â lot o bobl dros y byd yma.
"Wedyn, o ran pêl-droed Cymru, dyma lle oedd ffans yn casglu ar gyfer y gemau oedd yn digwydd tu fas i Gymru.
"Mae e'n gutting really, does unman tebyg yn yr ardal rhagor. Mae e jyst yn drist iawn.
"Dyw e ddim y ffaith bod y lle yn edrych yn flêr a bach yn salw - ma' fe'n fater o iechyd cyhoeddus."
Mae'r cwmni oedd yn gyfrifol am yr hostel bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mewn datganiad, dywedodd y cyn-berchennog, Siôn Llywelyn, fod hynny o achos Covid-19 a chyflwr yr economi.
Mae wedi bod yn gyfnod "arbennig o anodd", meddai, a gyda "chalon drom iawn" y bu i'r cwmni ddod i ben.
Troi'r safle yn gartrefi fforddiadwy?
Mae BBC Cymru yn deall mai'r bwriad nawr yw gwerthu'r adeilad.
Er bod yr adeilad yn nwylo preifat, mae un grŵp yn galw am newid y llety i ddarparu cartrefi fforddiadwy.
"Rydym yn ymwybodol iawn am yr angen am gartrefi fforddiadwy," meddai Tamsin Stirling o Gymdeithas Ddinesig Caerdydd.
"Rydym yn gweld llawer o gartrefi moethus yn cael eu codi mewn rhannau o ganol y ddinas.
"Dwi jyst yn meddwl y byddai'n wych pe bai dwy neu dair enghraifft lle mae adeilad problematig yn cael ei ddefnyddio - yn ddelfrydol ar gyfer cartrefi fforddiadwy, dan berchnogaeth y gymuned."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020