Chwilio am ferched dawns flodau Eisteddfod Aberdâr 1956

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Seremoni'r Orsedd yn Aberdâr yn 1956Ffynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Un o seremonïau awyr agored yr Orsedd yn Aberdâr yn 1956

Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn gobeithio clywed gan ferched oedd yn rhan o'r ddawns flodau y tro diwethaf y cafodd y Brifwyl ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r ŵyl yn dychwelyd i'r sir am y tro cyntaf ers 1956 pan gafodd ei chynnal yn Aberdâr.

Fe fyddai'r merched a oedd yn rhan o ddawns y blodau ym mhrif seremonïau'r Orsedd wedi bod rhwng wyth a 10 oed ar y pryd ac yn eu 70au canol erbyn hyn.

Dywed y trefnwyr y buasai tîm yr Eisteddfod, sy'n gweithio ar ŵyl a phrosiect 2024, "wrth eu boddau'n clywed gan ferched a gymerodd ran yn seremonïau ar lwyfan y Pafiliwn 66 o flynyddoedd yn ôl".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Brifwyl yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers 1956

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: "Mae blynyddoedd lawer ers i ni ddod â'r Eisteddfod i ardal Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi colli llawer iawn o'r rheini fu'n rhan o'r ŵyl a'r trefnu nôl yn 1956.

"Rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni gael hyd i rai o'r merched a threfnu aduniad yn lleol dros y misoedd nesaf.

"Erbyn hyn bydd y merched tua 74-76 oed, a gobeithio y bydd rhai ohonyn nhw'n awyddus i'n cyfarfod ni a rhannu eu hatgofion ac unrhyw luniau teuluol sydd ganddyn nhw o'r cyfnod."