Cymraes a dalodd am fabanod wedi ei thrin yn 'annheg'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Sir y Fflint wnaeth dalu £8,200 i fabwysiadu gefeilliaid yn yr Unol Daleithiau wedi honni ei bod hi a'i gŵr wedi cael eu trin yn annheg.
Daeth Judith a'i diweddar ŵr Alan Kilshaw â'r efeilliaid o'r UDA i Gymru yn 2000, ond mi wnaeth y llysoedd eu dychwelyd nhw i'w mamwlad.
Dywedodd Judith fod yr achos dadleuol, ddaeth i gael ei adnabod fel yr achos "talu am fabanod" ("cash for babies"), wedi troi ei bywyd "ben i waered".
Mae hi'n gobeithio y bydd rhaglen ddogfen newydd am y digwyddiad yn dangos beth ddigwyddodd mewn gwirionedd, ac yn "dangos yr ochr ddynol o fabwysiadu".
Menyw fwyaf atgas Prydain?
Ail-ddweud y stori o'i safbwynt ei hun oedd y rheswm y cytunodd Judith Kilshaw i gymryd rhan yn y rhaglen Three Mothers, Two Babies And a Scandal ar wasanaeth ffrydio Prime Video.
"Y rheswm y gwnes i'r rhaglen ddogfen - aethon nhw ati o safbwynt menyw," meddai.
"Roedd hi'n wahanol, ac yn rhoi cyfle i bob ochr i roi eu safbwynt."
Mae Judith wedi dweud yn y gorffennol ei bod yn dal i feddwl am yr efeilliaid.
Roedd 'na sylw enfawr i'r stori 20 mlynedd yn ôl, gydag un papur newydd yn cyhoeddi'r pennawd 'Is This The Most Hated Woman In Britain?'
Dywedodd y prif weinidog ar y pryd, Tony Blair y byddai camau'n cael eu cymryd i atal y fasnach "resynus" mewn babanod.
Mewn cyfweliad â BBC Radio Wales, dywedodd Ms Kilshaw: "Gafodd llawer o bapurau eu gwerthu... ro'n i'n sefyll prawf ger bron y wasg... sut fedrai barnwr ddim ei glywed, na'i weld, na'i ddarllen?"
Cafodd yr efeilliaid, sydd bellach wedi graddio, eu dychwelyd i'r UDA yn Ebrill 2001 a'u gosod yng ngofal rhieni maeth cyn mynd i fyw at drydydd teulu.
Dywedodd Ms Kilshaw ei bod hi bob amser wedi meddwl beth ddigwyddodd i'r menywod eraill oedd yn gysylltiedig â'r stori - yr efeilliaid, y fam roddodd enedigaeth iddyn nhw a'r rheini wnaeth eu magu.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw [yr efeilliaid] wedi cael bywyd hapus ac mae hynny'n beth da," meddai.
O safbwynt gweld yr efeilliaid eto, o bosib yn y dyfodol, dywedodd: "Mae hynny i fyny iddyn nhw.
"O leia' maen nhw'n gwybod fod pawb eu heisiau nhw."
Gan siarad am y mabwysiadu na ddigwyddodd, mynnodd nad oedd hi wedi gwneud dim o'i le.
"Roedd o'n gwbl gyfreithlon - roedd Prydain yn ei dderbyn. Pe bawn i wedi torri'r gyfraith mi fyddwn i wedi bod yn y carchar yn byddwn."