Pêl-droedwyr ifanc i orfod dewis rhwng academi a chlwb

  • Cyhoeddwyd
pêl-droediwr ifancFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd newidiadau i bêl-droed ieuenctid yng Nghymru yn golygu y bydd yn rhaid i rai plant orfod dewis rhwng arwyddo i academi a gallu parhau i chwarae yn yr un tîm â'u ffrindiau.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn ymgynghori ar gynlluniau i gyflwyno rheol 'un chwaraewr, un clwb', gan olygu na fyddai plant bellach yn cael arwyddo i academi a chlwb lleol.

Maen nhw bellach wedi penderfynu bwrw 'mlaen gyda'r cynlluniau hynny, gan ddweud fod pwysau arnynt gan FIFA i wneud y newidiadau.

Ond mae nifer o hyfforddwyr a rhieni yn poeni am y newid, gan ddweud y gallai effeithio ar fwynhad y plant, yn ogystal â pheryglu dyfodol timau ar lawr gwlad.

Mae deiseb yn erbyn y newidiadau wedi denu dros 2,900 o lofnodion, gyda nifer yn bryderus am yr effaith bosib ar glybiau ar lawr gwlad.

Bydd chwaraewyr ifanc hefyd yn wynebu dewis anodd - dilyn eu breuddwyd o fod yn bêl-droediwr proffesiynol wrth ddilyn y llwybr academi, neu barhau i fwynhau chwarae pêl-droed gyda'u ffrindiau.

'Methu ffrindiau fi'

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Zac ddim yn hapus gyda 'rheol un clwb'

"Bydden i'n dewis academi fi'n meddwl, achos os fi eisiau 'neud pêl-droed, bydde fe'n well," meddai Zac, 12, sy'n chwarae i'w glwb lleol Barry Athletic yn ogystal ag academi Ffynnon Taf.

"Fi'n meddwl bod y rheol un clwb yn rybish - mae chwarae i ddau dîm yn iawn, mae'n cael ffitrwydd i fyny.

"Os bydden i ddim yn chwarae i dîm grassroots bydden i'n methu ffrindiau fi, achos maen nhw'n chwarae i academi gwahanol felly fydden i ddim yn gweld nhw cymaint."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lloyd ei fod yn "styc yn y canol"

Mae ei gyd-chwaraewr Lloyd, 12, yn hyfforddi gydag academi Pontypridd ac yn wynebu'r un penderfyniad.

"Fi rili ddim yn gwybod, fi'n styc yn y canol achos fi ddim yn 'nabod lot o bobl yn Ponty," meddai.

"Fi'n 'nabod rhai, mae'r hyfforddwyr yn neis - ond yn Barry Athletic fi'n 'nabod pawb a ni wedi bod gyda'n gilydd fel tîm o'r dechrau.

"Mae'n annheg. Os chi'n 18 neu hŷn byddai'n haws achos chi'n gwybod lle mae'ch llwybr [mewn pêl-droed] yn mynd, ond dwi ddim yn meddwl mae'n deg i orfod dewis pan chi'n 12, neu llai."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai gorfod dewis rhwng dau dîm yn gur pen i Taylor

Mae Taylor, 12, gydag academi Tref Y Barri ac yn poeni am y penderfyniad "lletchwith" o'i flaen.

"Fi ddim yn hoffi e achos ni'n cael llai o bêl-droed, llai o amser i ddatblygu, a dim cymaint o amser i chwarae," meddai.

"Fi wir ddim yn gwybod. 'S gen i ddim syniad."

Beth am dimau llawr gwlad?

I'r hyfforddwr Richard Harris, a ddechreuodd y ddeiseb, y pryder yw y bydd pawb ar eu colled - chwaraewyr academi yn cael llai o amser chwarae, a'r ffrindiau maen nhw'n eu gadael ar ôl yn ceisio rhoi tîm at ei gilydd o'r rheiny sy'n weddill.

"Dwi wedi bod yn siarad gyda rhieni achos mae fy mab i'n chwarae i glwb llawr gwlad ac academi, ac mae lot o rieni'n poeni am ddatblygiad y gêm i'w plant," meddai.

"Dwi'n poeni'n fawr am glybiau llawr gwlad. Mae tua 20 tîm am bob grŵp oedran ym Mro Morgannwg, ac fe allech chi golli tua 20, 25, 30% o'r timau yna.

"Yn amlwg os oes llai o dimau, bydd llai o gyfleoedd i chwarae pêl-droed."

Disgrifiad o’r llun,

Richard Harris yw trefnydd y ddeiseb

Ond mae hyfforddwyr eraill yn dweud eu bod yn cefnogi'r newidiadau, gan ddadlau fod mwy o amser yn chwarae pêl-droed academi o fudd i'r chwaraewyr mwyaf talentog.

"Dwi'n meddwl, hir dymor, fydd 'na lwyth o benefits," meddai Justin Gallagher, sy'n hyfforddwr ieuenctid gydag academi CPD Tref Caernarfon.

"Academi ydy'r safon gorau mae chwaraewr ifanc yn gallu chwarae, a dwi'n meddwl bod y 'rheol un clwb' yn sicrhau fod y chwaraewr yn gallu rhoi 100% i'w tîm academi nhw.

"Mae pob hyfforddwr a thîm academi yn cael eu auditio gan CBDC i 'neud yn siŵr bod 'na safon da. Hefyd mae gemau academi ar gaeau gwell... a'r mwyaf o sialens mae chwaraewyr yn cael mewn gêm, gwell chwaraewyr fyddan nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd CBDC y bydd yna bleidlais ynghylch y newidiadau arfaethedig yn eu cyfarfod blynyddol, ac y bydd unrhyw reolau newydd yn dod i rym o 1 Mehefin.

Mae'n "glir", medd y datganiad yn enw'r prif weithredwr, Noel Mooney, bod chwaraewyr â chytundeb gyda dau glwb "yn effeithio ar gyfleoedd ar gyfer chwaraewyr cyfredol a/neu newydd allai fod yn cymryd rhan yn hytrach".

Mae CBDC hefyd "yn anelu at gefnogi pêl-droed llawr gwlad i fod yn amgylchedd mwy positif ac addas o ran datblygiad chwaraewr trwy osgoi clybiau'n colli'n drwm, yn aml am fod gwrthwynebwyr â nifer uchel o chwaraewyr academi".

Wrth baratoi ar gyfer y newid, mae CBDC wedi cyflwyno camau fel categoreiddio academïau er mwyn cynnal safonau'r ddarpariaeth a sicrhau bod chwaraewyr yn cymryd rhan mewn gemau "sy'n unol â lefel eu gallu".

Pwysau gan FIFA i newid

Mae'r datganiad yn cadarnhau bod FIFA, yn ystod dwy flynedd o drafodaethau, yn mynnu'r newidiadau cyn tymor 2022-23 a bod hi'n "gwbl glir" y byddai peidio â chydymffurfio'n arwain at "ganlyniadau disgyblu sylweddol, yn cynnwys cosbau ariannol".

Ond mae CBDC yn bwriadu caniatáu i chwaraewyr oedrannau dan-6 i dan 11 gofrestru gyda chlwb ieuenctid a pharhau i fynd i sesiynau hyfforddi a gemau cyfeillgar academi.

"Mae CBDC yn cydnabod gwerth parhau i chwarae gyda ffrindiau mewn clwb ieuenctid tra'n elwa o hyfforddi gydag academi gydnabyddedig," dywedodd.

Dywed CBDC mai nifer gymharol fach o chwaraewyr fydd yn cael eu heffeithio gan y newid, ond mae'n derbyn trafferthion "tymor byr" yn achos nifer fach o glybiau sy'n "dibynnu'n ormodol ar niferoedd uwch o chwaraewyr" sydd gyda mwy nag un clwb, a bydd rhaid addasu sut maen nhw'n mynd ati i ddenu chwaraewyr.

'Mwynhad ac atgofion sydd bwysicaf'

James Vaughan yw hyfforddwr Bridgend Street FC - pencampwyr Dan-13 Adran A Caerdydd a'r Cylch.

Mae'n dweud bod naw o'r bechgyn wedi ymuno ag academi yn ogystal â chlwb, ond wedi penderfynu aros gyda'r clwb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae naw o chwaraewyr Bridgend Street FC hefyd yn perthyn i academi

"Yn bersonol, rwy' yn y lleiafrif ond rwy'n credu bod y rheol un clwb yn beth da," meddai.

"Rwy'n gweld impact positif yr academïau yn nhermau rhyngweithio cymdeithasol, ffitrwydd, hyfforddiant ac yn y blaen.

"Gyda hynny mewn golwg, ry'n ni fel tîm llawr gwlad yn cynyddu ein hyfforddiant wythnosol fel nad yw ein chwaraewyr yn colli mas.

"Maen nhw i gyd wedi penderfynu aros gyda ni a pharhau i ddysgu, gyda'u cyd-chwaraewyr.

"Does dim amheuaeth bod adnoddau'r academïau'n ddigyffelyb o'u cymharu â'r timau llawr gwlad, ond ry'n ni ar hyn o bryd wedi cyrraedd cymal pwysig o addysg y plentyn ble rwy'n credu mai mwynhad ac atgofion sydd bwysicaf, yn hytrach na conveyor belt o gynnyrch pêl-droed ieuenctid."