Cyhoeddi enw dyn fu farw wrth gerdded yn Eryri
- Cyhoeddwyd
![Glyder Fach](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/045C/production/_123061110_gettyimages-629599695.jpg)
Mae Glyder Fach yn 3,261 troedfedd, neu 993 o fetrau, o uchder
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos cerddwr a fu farw yn Eryri wythnos yn ôl.
Clywodd wrandawiad yng Nghaernarfon bod Raymond Charles Turvey, peiriannydd wedi ymddeol 72 oed o ardal Milton Keynes, wedi marw wrth gerdded ar Glyder Fach.
Dywedodd y Crwner, Sarah Riley, fod Mr Turvey wedi bod yn aros yn hostel Pen-y-Pass ger Llanberis pan aeth i gerdded ar y Glyderau fore Mercher 16 Tachwedd.
Cysylltodd staff yr hostel â'r gwasanaethau brys pan fethodd â dychwelyd fin nos, ac fe gafodd ei gorff ei ddarganfod y bore canlynol.
Anafiadau niferus
Mewn adroddiad dros dro dywedodd patholegydd fod y pensiynwr wedi marw o ganlyniad i anafiadau niferus, ac mai'r dybiaeth yw ei fod wedi syrthio.
Roedd timau achub mynydd Llanberis, Ogwen a Llu Awyr Y Fali, ynghyd â hofrennydd Gwylwyr y Glannau, wedi bod yn chwilio am Mr Turvey dros ardal eang mewn cymylau isel a glaw trwm.
Cafwyd hyd i'w gorff ar lwybr sgri, ger Y Grib Bigog, ac fe gafodd ei gludo ar stretsier i ganolfan Tîm Achub Mynydd Ogwen.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal rhagor o ymchwiliadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022