Rhestrau aros: Llawer mwy yn prynu yswiriant iechyd
- Cyhoeddwyd
Gyda rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru nawr yn hirach nag erioed, mae cwmni sy'n gwerthu yswiriant iechyd yn dweud bod eu gwerthiant wedi bron â dyblu dros y ddwy flynedd ddiwetha'.
Mae Active Quote yn dweud bod gwerthiant i fyny 89% yng Nghymru o'i gymharu 2020 gyda 2022 hyd yn hyn.
Ar draws y Deyrnas Unedig mae'r cynnydd wedi bod ychydig yn llai - 73%.
"Dros dair blynedd 'dan ni 'di sylwi bod mwy a mwy o bobl yn holi am yswiriant iechyd, a mwy o bobl yn prynu fe," meddai pennaeth gwerthiant y cwmni, Rod Jones.
"Mae'r math o bobl sy'n prynu fe wedi newid lot dros y tair blynedd ddiwetha'."
Mae ffigyrau'r cwmni'n dangos mai 48 oed ydy oedran pobl sy'n prynu yswiriant iechyd yng Nghymru ar gyfartaledd erbyn hyn. Dwy flynedd yn ôl, roedd yr oedran bron yn 51.
Nid bod hynny'n golygu y bydd llai o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, yn ôl Mr Jones.
"Yr un doctoriaid sy'n gwneud y gwaith yn breifat ac ar y gwasanaeth iechyd, felly maen nhw angen mwy o oriau preifat yn hytrach na gyda'r gwasanaeth iechyd.
"Mae jyst yn meddwl bod pobl sy'n gallu fforddio fe yn cael triniaeth yn fwy clou. Yn anffodus mae'r bobl sy'n gorfod aros, fel 'dach chi'n gweld, mae'r amser aros yn mynd yn fwy."
Gwrthod mynd yn breifat
Er bod Gwenda Vaughan o Bandy Tudur yn Sir Conwy wedi bod yn aros am glun newydd ers tair blynedd a mwy, mae'n dweud na fyddai hi'n talu am driniaeth.
"Mae'n erbyn y'n egwyddorion i. Mae 'na sawl un 'di d'eud wrtha fi am 'neud, ond na, mae'n ddrwg gen i.
"Dwi'n teimlo y dylwn i gael y driniaeth gan y bwrdd iechyd. Rhaid i mi aros fath â sawl un arall."
Yr anhawster mwyaf, yn ôl cadeirydd Cyngor BMA Cymru, ydy prinder meddygon a nyrsys yn y gwasanaeth iechyd.
"Mae dwy broblem sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd - does dim digon o feddygon a nyrsys, a does dim digon o adnoddau i roi'r driniaeth," meddai Dr Iona Collins.
"Mae'n ddiflas i feddwl bod y gwasanaeth iechyd mor ddrwg nawr - mae 'na two tier system yn datblygu ac rydyn ni'n colli'n ffordd efo'r gwasanaeth iechyd."
Fe ddangosodd ffigyrau mis Hydref fod 589,000 o bobl - 19% o boblogaeth Cymru - ar restr aros am driniaeth ysbyty.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd nag erioed o'r blaen, ac eleni mae £262m yn cael ei fuddsoddi ar addysg a hyfforddiant.
Maen nhw hefyd yn gweithio ar gynllun tymor byr i ddelio â'r pwysau ar y gweithlu.
Yn Yr Alban fe fu arweinwyr y gwasanaeth iechyd, yn ôl cofnodion un cyfarfod, yn trafod a ddylid codi tâl ar bobl gyfoethog am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd.
Mae Prif Weinidog Yr Alban wedi dweud na fydd hynny'n digwydd - ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad oes unrhyw gynlluniau i wneud hynny yng Nghymru chwaith.
Mae Gwenda Vaughan yn gobeithio na fydd hi'n aros llawer yn hirach am ei thriniaeth hi.
"Dwi'n cael y trydydd pre-op ddechrau Rhagfyr," meddai.
"Mae'n para [yn ddilys am] 12 wythnos. Dwi'n gobeithio y byddai wedi cael [llawdriniaeth] hwyrach ym mis Ionawr, ond mae'r ddau arall, ddoth na ddim byd o gael rheiny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022