Mwy o ofal iechyd preifat yn 'peryglu dyfodol y GIG'
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n prynu polisïau iechyd preifat yn peryglu dyfodol y gwasanaeth iechyd, yn ôl economegydd iechyd amlwg.
Dywedodd Dr Mary Lynch o Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor wrth raglen Newyddion S4C y gallai'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd oherwydd y pandemig greu system iechyd ddwy haen, lle'r rheiny sy'n gymharol gefnog sy'n derbyn y driniaeth orau.
Mae cwmni sy'n gwerthu yswiriant iechyd preifat yn dweud bod nifer y bobl sy'n eu prynu wedi cynyddu'n aruthrol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.
Dywedodd un dyn sy'n aros am lawdriniaeth i gael clun newydd ei fod wedi rhoi "cannoedd ar filoedd mewn i'r system" iechyd gyhoeddus, ond nawr, "pan dwi angen i'r GIG ddelifro i fi, dyw e ddim yna".
Dywedodd Dr Lynch wrth raglen Newyddion S4C fod "pwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i'r pandemig".
"Mae gan hynny'r potensial i gynyddu niferoedd sydd yn prynu polisïau gofal iechyd preifat ymhellach, yn enwedig o gofio'r oedi i driniaethau.
"Gallai hynny olygu bod y rheiny sydd ag incwm uwch [yn gallu] fforddio prynu polisïau a sicrhau canlyniadau iechyd gwell na'r rheiny sydd yn methu fforddio talu.
"Gallai hynny wedyn greu system lle mae pobl yn medru cael mynediad i driniaeth well yn seiliedig ar eu hincwm yn unig."
Fe gadarnhaodd cwmni ActiveQuote.com, sydd a'i phencadlys ym Mae Caerdydd, eu bod wedi gweld y niferoedd sydd yn prynu polisïau iechyd preifat yn cynyddu'n aruthrol dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.
Dywedodd eu pennaeth gwerthu a gweithredu, Rod Jones, wrth BBC Cymru iddyn nhw werthu 88% yn rhagor o bolisïau ym mis Hydref eleni o'i gymharu â llynedd.
Rhwng Ionawr a Hydref 2021, roedd cynnydd o 43% ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig mewn polisïau a werthwyd. Yng Nghymru, roedd cynnydd uwch fyth o 48%.
Doedd y cwmni ddim yn barod i ddatgelu faint yn union o bolisïau a werthwyd, ond fe gadarnhaon nhw eu bod yn uwch na 1,000 bob mis, gyda chwsmeriaid yn talu ymhell dros £1m bob mis am y polisïau.
Yn ôl Rod Jones, mae'r math o gwsmeriaid sydd yn prynu hefyd wedi newid ers dechrau'r pandemig.
"Yn draddodiadol, pobl hyn sydd wedi bod yn cymryd polisïau fel hyn mas. Ond dros y 18 mis diwethaf, ni'n gweld mwy o bobl ifanc yn gwneud.
"Pan maen nhw'n darllen am amseroedd aros o fewn i'r Gwasanaeth Iechyd, mae elfen o banig.
"Dy'n nhw ddim eisiau aros a pan maen nhw'n clywed am deulu a ffrindiau sydd yn aros am driniaeth, dyw pobl ifanc ddim yn deall pam bod angen aros.
"Mae popeth yn instant. Dyw aros i weld doctor ddim yn rhywbeth mae pobl yn disgwyl gorfod gwneud."
Un dyn sydd yn deall awydd rhai i brynu polisïau o'r fath yw Steve Dimmick, sydd yn wreiddiol o Flaenau ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Yn 46 oed, mae'n aros am lawdriniaeth i gael clun newydd.
"Mae fy mywyd nawr yn troi rownd lle alla'i barcio sydd agosaf at yr apwyntiad neu gyfarfod nesaf.
"Yn y gorffennol, byddwn i'n cerdded neu'n seiclo i lefydd, ond nawr mae popeth yn dibynnu ar ba mor bell fi'n gorfod cerdded mewn diwrnod. Mae'n broblem fawr."
Mae'n dweud iddo gael gwybod y byddai'n rhaid aros o leiaf 18-24 mis i gael llawdriniaeth drwy'r Gwasanaeth Iechyd. Gan ei fod mewn poen yn barhaus, mae'n dweud iddo gymryd y cam anodd, a chostus, i dalu am driniaeth breifat.
"Rwy' wedi gweithio am 30 blynedd, wedi talu cannoedd ar filoedd mewn i'r system. Nawr, pan rwy' ar y point of need, pan dwi angen i'r GIG ddelifro i fi, dyw e ddim yna."
"Mae'n boenus. Dwi'n ddiolchgar i'r GIG am beth mae'n gwneud. Ond rwy' mewn lle ble alla'i ddim cario ymlaen.
"Rwy' wedi bod yn ffodus i bigo tam' bach o waith ychwanegol lan fydd yn helpu gyda'r costau, a dyna beth dwi am wneud."
Pan ofynnwyd a fyddai nawr yn ystyried prynu polisïau yswiriant iechyd o edrych yn ôl, dywedodd Mr Dimmick: "Byddwn. Ond mae hynny'n hawdd dweud nawr.
"Roeddwn i'n ddyn ffit ac iach. Roeddwn i'n chwarae rygbi, pêl-droed, golff, rhedeg marathons. Ro'n i'n mwynhau bywyd. Ond byddai angen i bobl feddwl sut fydd eu cyrff yn ymdopi tair i bum mlynedd yn y dyfodol.
"Mae'n hawdd dweud nawr byddwn i'n prynu polisi, ond i fi, mae hynny'n ddŵr dan bont."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021