Adar caeth i gael eu cadw dan do i atal ffliw adar

  • Cyhoeddwyd
Iar goch yn pigo tu allanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mesurau'n cael eu cymryd am bod ffliw adar yn heintus iawn ac yn lladd nifer o adar

Bydd yn rhaid i adar caeth yng Nghymru gael eu cadw dan do neu eu gwahanu rhag adar gwyllt o 2 Rhagfyr.

Mae mesurau gorfodol newydd yn cael eu cyflwyno gyda'r disgwyl y bydd risg ffliw adar yn cynyddu dros y gaeaf.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Interim Cymru, Dr Gavin Watkins, y dylai pobl sy'n cadw adar baratoi dros yr wythnos nesaf trwy wneud gwelliannau i'w siediau adar os nad ydyn nhw'n addas.

Mae'r mesurau yma yn ychwanegol i'r Parth Atal Ffliw Adar Cymru a gafodd ei gyflwyno fis Hydref.

Yn ogystal â sicrhau nad oes cyswllt rhwng eu hadar ag adar gwyllt, bydd yn rhaid i berchnogion adolygu mesurau bioddiogelwch ar y safle ble maen nhw'n eu cadw.

Diben hynny yw cadw'r feirws rhag mynd i siediau'r adar, gan ei fod yn farwol i lawer ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gallai ffliw adar effeithio ar dyrcwn sy'n cael eu magu ar gyfer y Nadolig

Mae achosion digynsail o ffliw'r adar wedi cyrraedd y DU ac Ewrop yn 2022.

Ond bychan iawn yw risg y feirws i iechyd pobl, ac mae'r cyrff safonau bwyd wedi dweud bod risg ffliw'r adar i ddiogelwch bwyd siopwyr hefyd yn fach iawn.

Rhybudd am brinder tyrcwn

Mae mesurau tebyg eisoes mewn grym yn Lloegr, ble mae ffermwyr wedi rhybuddio y gallai tyrcwn fod yn brin y Nadolig yma oherwydd yr haint.

Dywedodd y Dr Watkins: "Mae'r data diweddara'n awgrymu y bydd ffliw'r adar yn lledaenu tua'r gorllewin i Gymru yn y misoedd nesaf gan gynyddu'r risg y caiff adar yn yr awyr agored eu heintio.

"Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth, rydym ni am gymryd camau pellach i helpu i amddiffyn dofednod ac adar caeth.

"Bydd y mesurau cadw dan do a bioddiogelwch rydym yn eu cyflwyno yng Nghymru yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i'r adar ac yn cryfhau'r sector dofednod.

"Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa."