Parth atal ffliw adar ar draws Cymru wedi achos ym Môn

  • Cyhoeddwyd
DofednodFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru gyfan bellach wedi cael ei rhoi dan barth atal ffliw adar, yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion.

Yn gynharach cafodd presenoldeb ffliw adar ei gadarnhau ar safle yn Ynys Môn, a hynny'n dilyn achosion o'r ffliw yn Sir Benfro a Gwynedd fis diwethaf.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynnydd yn yr achosion yn Lloegr yn ddiweddar yn golygu bod angen cyflwyno mesurau i gadw adar yn ddiogel rhag y feirws "hynod heintus hwn".

Ychwanegodd y llywodraeth bod asiantaethau iechyd y DU wedi cynghori mai isel iawn yw'r risg i iechyd y cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r mesur newydd yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gymryd camau sy'n cynnwys:

  • Bwydo a dyfrio adar mewn ardal gaeedig;

  • Cadw adar cadw oddi ar dir sy'n cael ei ddefnyddio gan adar dŵr gwyllt;

  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosib o fannau caeedig lle mae adar yn cael eu cadw;

  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw;

  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill.

Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i bob aderyn cadw, gan gynnwys heidiau bach o lai na 50 o adar.

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, mae gofyn iddyn nhw gymryd camau ychwanegol hefyd.

Mae'r rheiny'n cynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw'n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â'r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i fannau caeedig, a glanhau a diheintio cerbydau.

Dim rhaid cadw dan do

Fe wnaeth Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, gadarnhau nad yw'r parth atal yn golygu ei bod "yn orfodol i gadw adar mewn siediau".

Dywedodd Ms Griffiths y bydd y parth atal yn parhau tan bod y "risg yn gostwng i lefel sy'n dweud wrthym nad oes ei angen mwyach".

Mae perchnogion adar wedi eu cynghori i fod yn wyliadwrus am yr haint a chysylltu gyda milfeddyg yn y lle cyntaf os yw'r adar yn ymddangos yn sâl.

Mae gofyniad cyfreithiol hefyd i gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.