Tonypandy: Dim camau pellach ar ôl sgrinio am y diciâu

  • Cyhoeddwyd
Welcome Inn, TonypandyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y broses sgrinio ei chynnal yn y dafarn ei hun

Nid oes angen camau pellach mewn cymuned yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn ymarferiad sgrinio ar ôl i achos o'r diciâu ddod i'r fei, yn ôl tystiolaeth gychwynnol.

Roedd yr achos yn gysylltiedig â thafarn y Welcome Inn yn Nhonypandy, ac fe ddywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ar y pryd bod dim byd i awgrymu bod y claf wedi dal y clefyd yno.

Fe gafodd tua 70 o bobl oedd wedi dod i gysylltiad agos â'r unigolyn oedd wedi heintio wahoddiad i gael eu sgrinio.

Cadarnhaodd ICC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddydd Llun bod "nifer fach iawn o unigolion wedi eu nodi â chanlyniadau sy'n gyson â haint TB cudd".

Ond maen nhw'n dweud bod yr ymchwiliad wedi amlygu "bod unrhyw drosglwyddiad o fewn y dafarn wedi bod yn gyfyngedig".

Ychwanegodd y ddau gorff bod yr unigolion dan sylw wedi cael gwybod ac wedi cael cynnig gofal clinigol.

Gan fod nifer yr achosion mor fach, maen nhw wedi penderfynu bod dim angen rhagor o sgrinio, ond fe fyddan nhw'n parhau i fonitro'r sefyllfa.

Maen nhw hefyd yn cynghori pobl i barhau i gadw golwg am symptomau'r cyflwr, a mynd i weld meddyg yn syth os oes angen. Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • Peswch parhaus am gyfnod hir;

  • Blinder a syrthni;

  • Tymheredd uchel, twymyn, chwysu gyda'r nos;

  • Colli pwysau heb esboniad.