Uwch aelod o staff Plaid Cymru yn wynebu honiad ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae honiad o ymosodiad rhyw wedi'i wneud yn erbyn uwch aelod o staff Plaid Cymru.
Mae BBC Cymru yn deall bod y cyhuddiad yn ganolog i'r ymchwiliad gan gwmni allanol i honiadau o gamymddwyn o fewn y blaid.
Dywedodd cyn-aelod o staff bod y digwyddiad honedig wedi digwydd tua phedair blynedd yn ôl, pan oedden nhw'n gweithio i'r blaid.
Dyw Plaid Cymru ddim wedi gwneud sylw am yr honiadau.
Mae person arall wedi dweud bod yr un uwch aelod o staff wedi gwneud iddyn nhw deimlo yn anghyfforddus ar sawl achlysur.
Mewn datganiad blaenorol dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones, ei fod eisiau "rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'".
Dyw'r BBC ddim wedi gallu cysylltu â'r aelod o staff sydd wedi'i gyhuddo.
Mae'r honiadau yma ar wahân i'r honiadau yn erbyn Aelod o'r Senedd Rhys ab Owen.
'Dim lle i droi'
Dywedodd y cyn-aelod o staff wrth y BBC bod y digwyddiad honedig wedi gwneud iddyn nhw deimlo "nad oedd ganddyn nhw unrhyw le i droi".
"Roedd yn teimlo fel lle, ble y dylen i fod yn saff, ond roeddwn i wastad yn teimlo ar bigau'r drain, ychydig fel plentyn yn y gwely yn cael hunllef.
"Roedd yna ddeuoliaeth ryfedd rhwng teimlo nad oeddwn i'n gallu gwneud dim ond hefyd eisiau cael fy nghynnwys."
Ychwanegodd y cyn-aelod o staff nad oedden nhw eisiau "corddi'r dyfroedd" a dweud wrth eraill be ddigwyddodd "gan ei fod yn deulu hapus, ond un gyda chyfrinach".
Fe ddywedon nhw nad oedden nhw'n gwybod sut neu at bwy i wneud cwyn.
Mae BBC Cymru hefyd wedi clywed honiadau gan ail unigolyn.
Maen nhw'n honni i'r uwch aelod o staff wneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus iawn ar nifer o achlysuron, a'u bod wedi derbyn negeseuon awgrymog ganddyn nhw.
Maen nhw'n dweud nad oedden nhw wedi dweud wrth unrhyw un beth ddigwyddodd am eu bod ofn yr uwch aelod o staff a'r goblygiadau posib iddyn nhw eu hunain.
"Ar y pryd fe deimlais nad oedd o'n werth yr ymdrech i wneud cwyn swyddogol yn erbyn ffigwr mor bwerus o fewn y blaid, yn enwedig gan na fuaswn i'n ymddiried yn arweinyddiaeth y blaid i ddelio efo hyn yn iawn ac i warchod fy lles i.
"Mae nifer o aelodau, staff a gwleidyddion Plaid yn teimlo yn lwcus iawn i fod yn rhan o'r llinach hanesyddol yma sy'n mynd yn ôl mor bell a ddim eisiau bod yn gyfrifol am niweidio'r blaid sydd wedi chwarae rôl mor allweddol yn siapio Cymru fodern.
"Wrth gwrs, nid y rheiny sy'n gwneud honiadau sy'n niweidio'r blaid, yn hytrach mae'n glir mai'r troseddwyr a'r rheiny sy'n eu galluogi yw'r broblem go iawn."
Fe wrthododd Plaid Cymru â gwneud sylw am y pryderon penodol yma.
Yn hytrach fe gyfeiriwyd BBC Cymru at ddatganiad wnaed mewn ymateb i'r adroddiadau bod cwmni adnoddau dynol allanol yn cael eu penodi i edrych ar honiadau o gamymddwyn.
'Cymryd y materion o ddifri'
Yn y datganiad yna, dywedodd cadeirydd y blaid Marc Jones: "Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'.
"Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda'n gwaith.
"Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethu eu lles. Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i'n penderfyniadau yn y dyfodol.
"Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser."
Mae'r honiadau yn dilyn honiadau eraill o ddiwylliant tocsig o fewn y blaid a gwaharddiad Rhys ab Owen, AS Canol De Cymru o grŵp y blaid.
Deallir iddo gael ei wahardd yn sgil honiad difrifol am ei ymddygiad, tra eu bod yn aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd.
Mae BBC Cymru wedi siarad â sawl ffynhonnell sy'n dweud bod yna anesmwythder sylweddol o fewn y blaid ynglŷn â'r ffordd y cafodd yr honiadau eu trin, a bod pryderon wedi'u mynegi am ymddygiad Rhys ab Owen flwyddyn yn ôl.
Fe gyfeiriodd un ffynhonnell at "ddiwylliant ofnadwy" yn y blaid a "diffyg arweinyddiaeth".
Pan gafodd Mr ab Owen ei wahardd, dywedodd llefarydd ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru o Blaid Cymru, a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd wedi cytuno ar y cyd i'w atal dros dro o grŵp Plaid Cymru.
"Mae hon yn weithred niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd."
Roedd y BBC wedi gofyn i Mr ab Owen am sylw, ond ni chafwyd ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022