Statws newydd y genhinen Gymreig o unrhyw werth?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cennin Cymreig

Bydd cennin sydd wedi'u tyfu a'u cynaeafu yng Nghymru yn cael cydnabyddiaeth arbennig.

Mae'n rhan o gynllun i amddiffyn enw da a dilysrwydd cynnyrch rhanbarthol.

Dim ond cynhyrchwyr cennin wedi'u tyfu yng Nghymru fyddai â'r hawl i'w galw yn gennin Cymreig.

Cafodd Dynodiadau Daearyddol (GI) y Deyrnas Unedig eu sefydlu yn 2021 ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cennin yw'r trydydd cynnyrch o Gymru i gael eu hychwanegu'n ddiweddar at y rhestr gyfyng, ar y cyd â chig oen o forfa heli'r Gŵyr a chig oen mynyddoedd Cambria.

Ond yn sgil y ffaith mai dim ond dwy ardal o'r wlad sy'n tyfu cennin yn fasnachol - yn Sir y Fflint a Sir Benfro, ar gyfanswm o tua 700 erw - mae rhai'n cwestiynu gwerth ariannol statws o'r fath.

Disgrifiodd un sylwebydd ar y diwydiant bwyd Cymreig y datblygiad fel un "cyfyng iawn" ond un fydd "yn ysgogi cynnydd mewn gwerthiant ac yn ychwanegu gwerth ariannol i'r cynnyrch".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cennin a Chymru wedi bod ynghlwm ers canrifoedd - ond does yna ddim un math arbennig o genhinen Gymreig.

Mae'r mathau sy'n cael eu tyfu yma'n gyfuniad o groesrywiau gwahanol sy'n cael eu tyfu ar draws Prydain.

Yn ôl dynodiad GI, un o nodweddion y llysieuyn Cymreig yw'r "darn deiliog gwyrdd tywyll, sy'n cynnwys dros 40% o'r hyd" a blas "pupurog" nodedig.

O gawl i ddathliadau Gŵyl Ddewi, mae cennin yn rhan o draddodiadau'n cenedl.

Mae 'na sôn amdanyn nhw'n cael eu defnyddio gan luoedd brenhinoedd Gwynedd yn y seithfed ganrif fel symbolau i wahaniaethu rhag milwyr y gelyn, ac yn nrama Henry V Shakespeare.

Troi cefn ar gennin?

Ond yn nhermau gwerthiant llysiau'r Deyrnas Unedig mae cennin - rhai Cymru neu beidio - yn gynyddol amhoblogaidd.

Yn ôl ymchwil diweddaraf cwmni Nielsen, fe gwympodd y llysieuyn gwraidd i rif 25 yn nhermau gwerthiant, tu ôl i seleri, betys a bresych hyd yn oed.

Ac fe syrthiodd cennin hyd yn oed ymhellach yn ddiweddar.

Tra syrthiodd gwerthiant llysiau'r DU 7.6% ar gyfartaledd y llynedd i gyfanswm o £5.5 biliwn fe gwympodd gwerthiant cennin ddwywaith cymaint dros yr un cyfnod.

Ychwanegwch at hyn ffaith arall sef bod Cymru'n cynhyrchu llai na 10% o gennin y Deyrnas Unedig bellach. Sir Lincoln yw'r prif gynhyrchydd bellach o bell ffordd.

Cwmni Puffin Produce yw un o ddau brif gynhyrchwyr Cymru a nhw aeth ati i ymgeisio am ddynodiad GI i gennin Cymru.

Maen nhw'n tyfu tua 200 erw o gennin ar ffermydd yn Sir Benfro, gan anelu i gynaeafu 10 tunnell yr erw ar gyfartaledd.

Yn ôl un o'r rheolwyr, Charlie Felstead, mae "eu holl gennin yn cael eu cynaeafu â llaw".

Mae cael statws GI yn rhoi cyfle i ychwanegu at statws gwerthu unigryw cennin Cymru ac yn fodd o ychwanegu gwerth.

Yn ôl Huw Thomas, ei brif swyddog gweithredol, "mae'r statws GI yn hynod bwysig i hyrwyddo ansawdd a threftadaeth y cnwd mawreddog hwn".

'Falch iawn' o'r statws

Yn ôl y gweinidog bwyd a ffermio Mark Spencer "drwy warchod [cennin] fel Dynodiad Daearyddol yn y DU, gallwn wneud yn siŵr bod siopwyr yn gwybod beth sydd ganddynt ar eu plât, a bod cynhyrchwyr yn cael eu gwarchod ac yn derbyn clod am eu gwaith".

Ychwanegodd Is-ysgrifennydd Seneddol Swyddfa Cymru Dr James Davies: "Bydd siopwyr yn awr yn gallu adnabod y genhinen eiconig o Gymru yn rhwydd gyda'i blas unigryw, gan roi mantais i gynhyrchwyr cennin o Gymru, a'u helpu i ehangu a thyfu eu busnesau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cig oen o forfeydd heli Gŵyr yn gynnyrch arall o Gymru sydd wedi cael y statws

Mae cynyddu adnabyddiaeth byd eang o Gymru a hybu allforion yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru fel ffordd allweddol o ddatblygu a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.

O hyn ymlaen, bydd Cennin Cymru, sy'n cael eu gwerthu â logo GI y DU, yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths: "Mae hyn yn newyddion gwych, ac rwy'n falch iawn o weld y cynnyrch yma'n ennill y gydnabyddiaeth a'r bri y mae'n ei haeddu."