Gwynedd: Ail-gyflwyno cais am barc hamdden gwerth £60m

  • Cyhoeddwyd
Safle Ferodo
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd ffatri Friction Dynamics/Ferodo ei drysau yn 2008

Mae datblygwyr wedi ail-gyflwyno cais i adeiladu parc hamdden yng Ngwynedd gwerth £60m.

Yn Nhachwedd 2021 fe wrthodwyd cais cynllunio gan Maybrook Investments i ddatblygu hen safle Ferodo ar gyrion Caernarfon.

Roedd y cwmni am adeiladu datblygiad hamdden 72 erw o faint, gan gynnwys dros 250 o gabanau a fflatiau gwyliau, parc dŵr, bwytai, a bar.

Ond penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd oedd gwrthod y cais.

Roedd hyn wedi i swyddogion cynllunio godi pryderon bod diffyg gwybodaeth wedi ei gyflwyno gan y datblygwyr am fesurau i leihau'r effaith tebygol ar dirwedd yr ardal a'r iaith Gymraeg.

Serch hynny, mae'r datblygwyr bellach wedi cyflwyno cais o'r newydd, ac yn dweud y gall hyd at 800 o swyddi anuniongyrchol gael eu creu yn sgil y cynllun.

'Effaith arwyddocaol ar yr economi'

Yn ôl Maybrook Investments, byddai'r datblygiad newydd "5 seren" yn cael ei farchnata fel Parc Gwêl y Fenai, ac yn cynnwys dros 200 o fythynnod gwyliau.

Hefyd yn cwmpasu safle Plas Brerton gerllaw, mae'r cynllun yn cynnwys parc dŵr, spa, canolfan bowlio deg a mannau bwyta ac yfed.

Dywed y cwmni byddai'n cael "effaith arwyddocaol ar yr economi leol".

Ffynhonnell y llun, Maybrook Investments
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r cynllun gwreiddiol ar gyfer y datblygiad ger y Fenai

Byddai rhan o adeilad ffatri Ferodo hefyd yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer unedau busnes newydd.

"Bydd £60m yn cael ei fuddsoddi gan y sector preifat, gan greu nifer sylweddol o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol, a chodi'r bar o ran yr arlwy twristiaeth yng Ngwynedd," dywedodd y datblygwyr fel rhan o'r cais cynllunio.

"Bydd safleoedd newydd Gwel y Fenai yn defnyddio ffrâm ddur adeilad y ffatri i greu dwy uned fasnachol fawr, gyda gweddill hen safle Ferodo a Phlas Brereton yn cael eu datblygu fel cyrchfan hamdden pen uchel i drigolion preifat."

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd drafod y cais dros y misoedd nesaf.

Gwrthwynebiad cynllunio

Yn ymateb i'r cais gwreiddiol roedd swyddogion Cyngor Gwynedd wedi adnabod 13 rheswm cynllunio i wrthod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plasdai Brereton a Thŷ Coch yn wag ers blynyddoedd

Roedd Cyngor Tref Caernarfon hefyd wedi gwrthwynebu ar sail pryderon am lifogydd, gan ei fod mor agos i lannau'r Fenai.

Er i'r cais hwnnw gael ei wrthod o wyth pleidlais i dri, roedd sawl aelod yn awyddus i bwysleisio nad oeddent yn wrthyn i'r egwyddor o ddatblygu'r safle segur ar gyfer creu swyddi a budd economaidd.

Ar y pryd dywedodd y Cynghorydd Steve Churchman, a bleidleisiodd i wrthod y cais, ei fod yn bwysig "anfon neges glir" nad oedd Gwynedd yn erbyn datblygu'n gyffredinol, ond mai nid "y cynllun gwallus yma oedd y cais cywir fel mae'n sefyll rŵan".

Mae'r datblygwyr wedi derbyn cais i wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig