Pryder am 'argyfwng' recriwtio athrawon, yn enwedig yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Gall pwysau cynyddol ar athrawon arwain at "argyfwng" mewn lefelau staffio ysgolion, meddai undebau athrawon.
Mae yna boeni y bydd y sefyllfa bresennol yn arwain at broblemau recriwtio a chadw athrawon yn y dyfodol.
Y pryder yw y gallai'r broblem fod hyd yn oed yn waeth ar gyfer ysgolion Cymraeg.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos fod lefelau recriwtio a chadw athrawon yn sefydlog, meddai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wrth raglen Wales Live "nad oedd ganddo'r adnoddau" i roi codiad cyflog sy'n fwy na'r 5% gafodd ei gynnig fis Gorffennaf.
Mae pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, Owain Gethin Davies, wedi wynebu problemau recriwtio fel sawl pennaeth arall ar draws y wlad.
Dywedodd i un swydd gael ei hysbysebu'n ddiweddar, ond nad oedd yr un ymgeisydd.
"Be' sy'n cadw pobl draw o ddysgu ydy be' maen nhw'n clywed am y proffesiwn," meddai.
"Mae lot yn siarad am y pwysau gwaith a'r problemau ariannol - y tâl mae athrawon yn ei gael.
"Be' 'dan ni eisiau gwneud yw cael mwy o sgôp i bobl ddod i fewn i'r proffesiwn, ac un posibiliad ydy agor y drws i fwy o bobl o ran eu cymwysiadau TGAU."
Ddydd Iau fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles y byddai'n gostwng y radd TGAU sydd ei angen mewn Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg i hyfforddi i fod yn athro o B i C.
Dywedodd pennaeth Ysgol Garth Olwg yn Rhondda Cynon Taf, Trystan Edwards: "Mae'n beth hurt bod modd hyfforddi yn Lloegr a dysgu yng Nghymru [gydag C] ond methu hyfforddi a dysgu yng Nghymru, felly rwy'n croesawu'r newid.
"Mae'n rhoi sylfaen llawer tecach. Rwy'n gwybod fod nifer o athrawon rhagorol yn y sector ond sydd efallai ddim â gradd B yn maths, er enghraifft."
Dywedodd Mr Edwards mai un o'r problemau ers y pandemig yw bod nifer o sectorau eraill bellach yn cynnig yr opsiwn i weithio o adref, ond dyw hynny ddim yn bosib yn y proffesiwn dysgu.
"Mae'r gofyn i deithio yn fwy costus, a gan fod codiadau cyflog am fod llawer is na chwyddiant, does dim dianc rhag y costau," meddai.
Ychwanegodd bod angen mwy o barch o fewn cymdeithas tuag at y proffesiwn hefyd, ac y byddai hynny'n help i ddenu mwy o bobl i'r sector.
Mae pryder fod myfyrwyr hefyd yn gweld y sector addysg yn llai deniadol, meddai ysgrifennydd cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones.
"Does dim dwywaith ein bod mewn sefyllfa argyfyngus o ran recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru bellach," meddai.
"Rhaid derbyn bod y niferoedd wnaeth wneud cais i hyfforddi yng Nghymru wedi codi yn ystod dwy flynedd y pandemig, ond mae'r ffaith bod y farchnad waith wedi sefydlogi bellach yn golygu bod yr hyn oedd yn wir cyn y pandemig yn wir eto eleni.
"Mae lleihad amlwg yn y niferoedd sydd wedi gwneud cais i gael eu hyfforddi fel athrawon, a'r niferoedd heb fod yn agos at darged y llywodraeth.
"Mae recriwtio athrawon yn parhau'n her, yn fwy felly mewn ysgolion Cymraeg ac mewn rhai pynciau penodol, fel ffiseg, cemeg a mathemateg.
"Mae'n rhaid cydnabod bod y llywodraeth yn ceisio cymell darpar athrawon, ac mae datganiad y gweinidog i'w groesawu, fodd bynnag, mae'n anodd gweld sut bydd modd i ni gyrraedd miliwn o siaradwyr heb weld buddsoddiad pellach a gweithredu mwy pendant i sicrhau gweithlu fydd yn gallu addysgu yn unol â'r gofyn."
Mwy yn gadael yn Lloegr
Fel rhan o becyn o gymhellion i geisio denu mwy o bobl i'r proffesiwn, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd athrawon dan hyfforddiant yn gymwys i dderbyn mwy o arian ar gychwyn eu cyfnod hyfforddi yn hytrach nag ar ddiwedd y cyfnod.
Ychwanegodd ei fod yn cydnabod bod dal mwy i'w wneud ond bod cyfradd gadael y proffesiwn yn uwch yn Lloegr nag yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022