Pryder am doriadau i staff ysgolion i arbed costau - NAHT Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid ysgolion yn rhybuddio y gallai pwysau ar eu cyllidebau olygu toriadau i staff ledled Cymru.
Daw'r canfyddiadau yn dilyn arolwg o 670 o'r tua 1,500 o ysgolion yng Nghymru gan undeb y prifathrawon, NAHT Cymru.
Yn ôl cyfarwyddwr yr undeb, Laura Doel, does "dim ar ôl i'w dorri" yn dilyn degawd o lymder a thanariannu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod fod chwyddiant a chostau ynni yn achosi pwysau ariannol, a bod cynghorau ac ysgolion yn edrych i ddefnyddio arian wrth gefn.
"Mae'r lefelau sylweddol o gyllid sydd angen yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU weithredu ar frys," meddai llefarydd.
Dywedodd Llywodraeth San Steffan fod cyfrifoldeb am ariannu gwasanaethau cyhoeddus "wedi'i ddatganoli i raddau helaeth ar draws y Deyrnas Unedig, ond rydyn ni wedi rhoi'r swm uchaf erioed i Lywodraeth Cymru o £18bn y flwyddyn".
Mae arolwg NAHT Cymru yn dweud fod 61% o'r rheiny wnaeth ymateb yn edrych ar ostwng nifer yr athrawon neu'r oriau mae staff yn gweithio.
Mae toriadau eraill sy'n cael eu hystyried yn cynnwys llai o wariant ar gymorth ychwanegol fel cwnsela ar faterion fel iechyd meddwl neu help ychwanegol i ddisgyblion sydd ei angen, dim tripiau ysgol a gwersi cerddoriaeth, a defnyddio llai o ynni.
Mae awgrym hefyd y bydd angen defnyddio arian wrth gefn i helpu cydbwyso'r cyfrifon.
Faint sydd gan ysgolion wrth gefn?
Fe ddangosodd ffigyrau yr wythnos ddiwethaf bod gan ysgolion £301m yn y coffrau wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mae hyn yn gynnydd ers y cyfnod cyn y pandemig, ond cynnydd am nad oedd ysgolion yn gwario cymaint tra'u bod ynghau, ac wedi cael arian ychwanegol i ymdopi â'r pandemig.
Ond dywedodd Ms Doel, tra bod hynny'n ymddangos fel swm iach, mai talu cyflogau staff am bum mis fyddai hynny.
Ychwanegodd fod yr arian hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer gwelliannau ac atgyweiriadau na gafodd eu gwneud yn ystod y pandemig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion, sydd "eisoes yn trafod sut i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn".
Yr wythnos ddiwethaf daeth i'r amlwg fod syniad wedi'i awgrymu ym Mhowys y gallai disgyblion gael eu haddysg ar-lein am ddiwrnod yr wythnos fel ffordd o gwtogi ar gostau fel gwresogi adeiladau.
Roedd gwisgo cotiau yn y 'stafell ddosbarth, peidio llenwi swyddi gwag a chwilio am wirfoddolwyr yn rhai o'r camau eraill a gafodd eu crybwyll mewn dogfen i benaethiaid ysgolion y sir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022