Gollwng achos wedi cyhuddiad o dreisio ar draeth

  • Cyhoeddwyd
traethFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud ag ymosodiad honedig yn ardal Traeth Penial, Llanfachraeth

Mae'r achos yn erbyn dyn 34 oed a gafodd ei gyhuddo o dreisio merch, a throseddau rhyw eraill, ar draeth ym Môn wedi cael ei ollwng.

Roedd Lee Howland o Fethesda, Gwynedd yn wynebu cyhuddiad o ymosod ar ferch yn ei harddegau yn ardal Traeth Penial, Llanfachraeth.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug na fyddai'r erlyniad yn cynnig tystiolaeth wedi i'r ferch wneud datganiad gwrthdynnu.

Fe gofnododd y barnwr John Philpotts reithfarnau dieuog a gorchymyn i Mr Howland gael ei ryddhau o garchar y Berwyn, Wrecsam.

Pynciau cysylltiedig