Rhybudd am gyflenwi cyffur i AS: Heddlu'r De yn cadw at benderfyniad

  • Cyhoeddwyd
Stephen DoughtyFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiheurodd yr AS "yn ddiamod am unrhyw gamgymeriad a wnaeth".

Mae Heddlu De Cymru yn "cadw at y penderfyniad gwreiddiol" ar ôl cael cais i ail-ystyried pam eu bod wedi trin dyn gafodd ei rybuddio am gyflenwi diazepam i AS yn wahanol i'r gwleidydd ei hun.

Llynedd, cyfaddefodd Stephen Doughty, AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, iddo ofyn i Byron Long am y cyffur presgripsiwn ar un achlysur.

Nid yw Mr Doughty wedi cael rhybudd gan yr heddlu.

Fe wnaeth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) gefnogi yn rhannol rhai o gwynion Mr Long mewn adolygiad cychwynnol ym mis Mai.

Mae Heddlu De Cymru bellach wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi "adolygu yr ymchwiliad" a'u bod wedi "ateb Mr Long gan egluro a chadw at y penderfyniad gwreiddiol".

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: "Rydym yn ymwybodol bod Heddlu De Cymru wedi ymateb i'r achwynydd yn dilyn eu hymchwiliad pellach."

Gwrthododd Mr Long, y Blaid Lafur a Mr Doughty wneud sylw.

Beth ddigwyddodd cyn yr adolygiad pellach?

Gwadodd Mr Doughty honiad Mr Long iddo roi tabledi iddo mewn hyd at 20 cyfarfod mewn siop goffi yng Nghaerdydd, gan ddweud mai dim ond unwaith y digwyddodd hynny.

Fis Mai y llynedd, ymddiheurodd yr AS "yn ddiamod am unrhyw gamgymeriad a wnaeth".

Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Mr Doughty bod yr AS wedi gofyn i "ffrind personol" am rai tabledi i'w cymryd cyn hediad hir mewn awyren.

Ychwanegodd y llefarydd bryd hynny: "Roedd e mewn panig ar y pryd ac wedi methu trefnu apwyntiad gyda'i feddyg teulu.

"Felly fe wnaeth e ofyn i ffrind - rhywun yr oedd wedi bod yn siarad ag ef am ei broblemau iechyd meddwl - am rai tabledi diazepam - tabledi yr oedd wedi arfer eu cymryd.

"Mae Stephen yn ymddiheuro am unrhyw gam gwag - ond gwneud cais i ffrind yr oedd wedi ymddiried ynddo ar hyd y blynyddoedd wnaeth ef.

"Yn y pendraw aeth Stephen ddim ar y trip - a doedd e ddim angen y tabledi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, wedi gwadu unrhyw ran yn yr achos.

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, hefyd wedi gwadu unrhyw ran yn yr achos.

Roedd Mr Long, yn ei gŵyn, wedi gofyn ai'r rheswm na chafodd unrhyw gamau eu cymryd yn erbyn Mr Doughty oedd oherwydd ei gysylltiadau â Mr Michael.

Mewn datganiad, dywedodd y Comisiynydd bryd hynny: "Mae tad Stephen Doughty wedi bod yn ffrind ac yn gydweithiwr ers blynyddoedd lawer.

"Cafodd Stephen ei ddewis gan aelodau'r blaid Lafur leol, nid gennyf fi, a'i ethol gan etholwyr De Caerdydd a Phenarth.

"Gallaf ddweud yn bendant nad wyf wedi cael unrhyw ran o gwbl yn y modd y deliodd yr heddlu â'r achos."

'Gwahaniaeth yn y canlyniadau'

Mewn datganiad ym mis Mai, dywedodd yr IOPC: "Gallwn gadarnhau ein bod yn rhannol wedi ategu adolygiad o'r modd yr ymdriniwyd â chwyn gan Heddlu De Cymru.

"Rydym wedi penderfynu bod angen ymchwiliad pellach gan yr heddlu i agweddau o'r gŵyn, gan gynnwys mynd i'r afael â gwahaniaeth yn y canlyniadau i'r unigolion dan sylw.

"Er ein bod wedi cynghori y dylai Heddlu De Cymru adolygu ei broses o wneud penderfyniadau, ni allwn ac nid ydym wedi gofyn i'r heddlu gynnal ymchwiliad troseddol."

Mae bod ym meddiant diazepam, cyffur dosbarth C heb bresgripsiwn, yn drosedd ac yn gallu golygu dedfryd o hyd at ddwy flynedd o garchar.

Mae'n cael ei ddefnyddio yn feddygol ar gyfer pryder, ffitiau a sbasm o'r cyhyrau.