Dim ond 10% o staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio yn y swyddfa
- Cyhoeddwyd
Ychydig dros 10% o staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio yn y swyddfa bob dydd ar hyn o bryd.
Gyda chynifer o weision sifil yn gweithio o'r cartref, mae'r llywodraeth yn anelu at gynnig lle yn ei 10 swyddfa o amgylch Cymru i weithwyr eraill yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai ei gweledigaeth yw "gwneud y mwyaf o fuddion gweithio mewn swyddfa, gweithio o bell a gweithio hybrid".
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai gweithio o'r cartref "fod yn sail i batrymau gweithio safonol i'r mwyafrif o weision sifil".
Llywodraeth yn 'esiampl'
Nod y llywodraeth yw i 30% o weithlu Cymru fod yn gweithio o'r cartref neu'n agos i'w cartrefi erbyn 2026.
Fel rhan o'i strategaeth, mae'r llywodraeth yn gobeithio "bod yn esiampl" ar gyfer gweithio o bell gyda "dim mwy na 50%" o'i gweithlu yn gweithio yn un o'i swyddfeydd ar y tro.
Ym mis Medi, roedd 10.4% o staff yn mynychu amrywiol swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn ddyddiol.
O'r dros 5,200 o staff a gontractiwyd i weithio i'r llywodraeth, roedd 549 ar gyfartaledd yn mynd i'r swyddfa bob dydd.
Roedd y presenoldeb uchaf yn swyddfa Caernarfon (13.8%) a'r isaf ar safle Merthyr Tudful (5.9%).
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod presenoldeb dyddiol cyfartalog ym mis Hydref wedi cyrraedd 11%.
Mae'r llywodraeth yn cynnal trafodaethau â chyrff cyhoeddus eraill ynghylch a allent ddefnyddio rhywfaint o'r gofod swyddfa sbâr.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd bod y Senedd yn bwriadu cau ei swyddfa ym Mae Colwyn gyda staff yn symud i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
Pan ofynnwyd a oedd yn bwriadu cadw pob un o'i 10 swyddfa graidd, dywedodd y llywodraeth y byddai'n asesu'r angen am bob swyddfa cyn i brydlesi'r safleoedd unigol ddod i ben.
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, James Williams
Er yr holl sôn am Covid-19 yn cyflwyno 'normal newydd', efallai mai normaleiddio gweithio gartref neu weithio hybrid yw un o'r newidiadau cymdeithasol mwyaf.
Mae'n amlwg wedi arwain at yr hyn a allai fod yn newid mawr a pharhaol yn y diwylliant gwaith ymhlith gweision sifil Llywodraeth Cymru.
Ni allai agwedd Llafur yng Nghymru fod yn fwy gwahanol i'r Ceidwadwyr ar lefel y DU - mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i annog ei staff i weithio'n hyblyg, tra bod gweinidogion yn San Steffan wedi bod yn galw ar weision sifil i ddychwelyd i'r swyddfa.
Ond gyda'r fath newid sylweddol ym mhatrymau gwaith gweision sifil Cymru, mae'n codi cwestiynau ynglŷn â'r hyn y mae'r llywodraeth yn bwriadu ei wneud gyda'i swyddfeydd niferus ar draws y wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cael hyblygrwydd swyddfa, gweithio o bell a gweithio hybrid yn dod â manteision i economïau lleol, busnesau, unigolion, a'r amgylchedd.
"Mae'r hyblygrwydd hwn yn cynyddu cynhyrchiant, yn gwella cydbwysedd bywyd a gwaith, ac yn sicrhau llai o lygredd aer a sŵn.
"Ein gweledigaeth yw gwneud y mwyaf o fanteision gweithio mewn swyddfa, gweithio o bell a gweithio hybrid ar gyfer ein pobl a'n sefydliad.
"Rydym am gefnogi ein staff i gadw buddion gweithio o bell tra hefyd yn eu galluogi i ddod at ei gilydd mewn amgylchedd swyddfa i gysylltu a chydweithio."
Dywedodd Gareth Hills, swyddog cenedlaethol undeb y gwasanaeth sifil FDA Cymru Wales, fod y ffigyrau'n dangos "bod y pandemig wedi newid byd gwaith a dwi'n meddwl bod y newid yn barhaol".
Mae Mr Hills hefyd yn credu bod gweithio hybrid yn "agor cyfleoedd" i bobl mewn ardaloedd gwledig i gael cyflogaeth gyda'r llywodraeth fel y "gall adlewyrchu'n well y cyhoedd y mae'n eu gwasanaethu".
'Testun pryder'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod "yn destun pryder bod cyn lleied o weision sifil yn y swyddfa i sicrhau bod gweithrediadau'r llywodraeth yng Nghymru yn rhedeg yn esmwyth".
Ychwanegodd: "Mae'n golygu bod rhannau enfawr o stad Llywodraeth Cymru ddim yn cael eu defnyddio, rhai'n wag, ac mae goblygiadau cost i hyn. Er enghraifft, ydy'r llywodraeth yn gwresogi llawr cyfan ar gyfer un gweithiwr, os oes unrhyw un yno o gwbl?"
"Pan fo amgylchiadau'n mynnu hynny, ni fyddai neb yn gwarafun i weision sifil nac unrhyw un arall i weithio gartref, ond nid wyf yn credu y dylai fod yn sail i batrymau gwaith safonol y mwyafrif o weision sifil.
"Mae gennym ni gyfleusterau eithriadol i'n gweision cyhoeddus weithio ynddynt. Os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio, ble mae'r gwerth am arian i'r trethdalwr?"
'Arbed costau a'r amgylchedd'
Ar ran Plaid Cymru dywedodd Llyr Gruffydd, y llefarydd ar Gyllid a Llywodraeth Leol: "Mae rhoi cynnig i weithwyr y sector gyhoeddus weithio'n hybrid yn un o'r pethau positif a ddaeth allan o'r pandemig ac yn rhywbeth a ddylai barhau.
"Nid yn unig mae cael llai o bobl yn teithio i'r gwaith yn dda i'r amgylchedd - mae'n arbed costau i'r sector cyhoeddus hefyd.
"Ond does neb am weld adeiladau cyhoeddus yn wag ac felly mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer y swyddfeydd hyn mor fuan â phosib fel bod modd cael gwerth am arian."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020