'Rhowch hawl yn gyntaf i gymunedau brynu adeiladau lleol'

  • Cyhoeddwyd
Hen Ysgol Craig-Cefn-Parc
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gais cynllunio i droi hen Ysgol Craig-cefn-parc yn adeiladau preswyl

Cymunedau lleol ddylai gael yr hawl cyntaf i brynu adeiladau cyhoeddus cyn eu bod yn cael eu gwerthu'n breifat, yn ôl un ymgyrchydd ynni.

Daw'r alwad wedi i ddwy ysgol fach yng Nghwm Tawe gael eu gwerthu i brynwyr preifat mewn arwerthiant yn Llundain.

Yn ôl Dyfan Lewis o Ynni Cymunedol Cymru, mae cymunedau'n colli cyfleoedd i fanteisio ar adeiladau a rhybuddiodd fod Cymru "ar ei hôl hi".

Mae Llywodraeth Cymru wedi argymell ffurfio comisiwn i ystyried yr holl ffactorau sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol.

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Gynradd Cwm-gors a gafodd ei phrynu bedair blynedd yn ôl gan Awel Aman Tawe

Yn 2015 fe gaeodd Ysgol Gynradd Cwm-gors yng Nghwm Tawe. Er yn ergyd i'r gymuned ar y pryd, fe brynodd elusen ynni lleol, Awel Aman Tawe, yr adeilad yn 2018.

Mae Hwb y Gors yn gobeithio agor ei ddrysau yn 2023.

Roedd y pryniant yn bosib o ganlyniad i elw o fferm wynt Mynydd y Gwrhyd - menter lle mae pobl leol yn berchen ar gyfranddaliadau.

'Mor hapus'

Yn ôl Eira McCallum o Awel Aman Tawe roedd hi'n bwysig cadw adeilad yr ysgol yn rhan o'r gymuned.

"Trwy siarad gyda phobl oedd wedi mynd i'r ysgol maen nhw mor hapus byddan nhw'n gallu dod 'nôl i 'neud pethau yma," meddai.

"Mae'r adeilad ddim wedi'i gymryd i ffwrdd ohonyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr hen ysgol ar ei newydd wedd yn cynnig pob math o wasanaethau, medd Emily Hinshelwood, a fydd yn helpu pobl mewn cyfnod heriol

Bydd yr adeilad yn cynnig ystod o gyfleusterau gan gynnwys desgiau aml-ddefnydd [hot-desks], caffi, stiwdio gelf a neuadd gymunedol.

Yn ogystal bydd yna adnoddau i helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd yn yr argyfwng costau byw, gan gynnwys ystafelloedd cynnes, cawodydd a pheiriannau golchi.

Roedd yn bwysig i gynnig y fath cyfleusterau i gymuned Cwm-gors yn ôl un o'r trefnwyr, Emily Hinshelwood.

"Ni mo'yn i'r adeilad fod yn lle i bawb i ddod a chwrdd gyda'i gilydd," dywedodd

Mae'n bwysig ar hyn o bryd achos mae energy crisis. Ni mo'yn i'r adeilad i fod yn warm bank. Hefyd mae wet room a cawod i bawb i ddefnyddio."

Cadw adnodd i'r gymuned

Yn ôl ymgyrchwyr byddai mwy o gymunedau yn elwa o gyfleusterau tebyg.

Dywedodd Dyfan Lewis o Ynni Cymunedol Cymru: "Beth mae Hwb y Gors yn dangos i chi yw bod modd i gymuned feddiannu adeilad fel hen ysgol a'i gadw fe'n adnodd ar gyfer y gymuned

"Dyna'r fath o freuddwyd byddai rhywun sydd wedi colli ysgol yn dymuno cael yn eu pentref nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Caeodd sgol Craig-Cefn-Parc dair blynedd yn ôl

Yn 2019 fe gollodd Cwm Tawe ddwy ysgol leol - Ysgol Felindre ac Ysgol Craig-cefn-parc - ac yn ôl pobl leol roedd y ddau adeilad yn rhan ganolog o'u cymunedau.

Cafodd y ddwy eu gwerthu mewn arwerthiant yn Llundain ar yr un diwrnod, a'u prynu gan brynwyr preifat.

Mae Ysgol Felindre bellach yn cael ei defnyddio'n breifat ac mae yna gais gynllunio o dan ystyriaeth i droi Ysgol Craig-cefn-parc yn adeiladau preswyl.

Yn ôl Dyfan Lewis, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Felindre, ni chafodd pobl Felindre ddigon o gyfle i brynu'r adeilad, ac mae ased cymunedol wedi ei golli.

"Mae'r golled o ysgol fach, wledig fel hyn yn un anferthol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai Cymru ddilyn esiampl Yr Alban o ran cadw adeiladau cyhoeddus i'r gymuned, medd Dyfan Lewis

"Beth hoffwn ni weld fel Ynni Cymunedol Cymru yw'r hawl gyntaf yna yn cael ei rhoi i gymunedau i allu prynu asedau wrth iddyn nhw fynd o'r sector gyhoeddus.

"Ni 'di gweld y peth yn digwydd yn Yr Alban ugain mlynedd yn ôl ac mae Cymru tu ôl iddi, a dweud y gwir."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi perchnogaeth gymunedol o dir ac asedau, ac yn argymell ffurfio comisiwn i ystyried yr holl ffactorau sy'n ymwneud â pherchnogaeth gymunedol.

Ychwanegodd eu bod eisoes wedi buddsoddi £1m i gefnogi banciau cynnes ar draws Cymru.

Pynciau cysylltiedig