Diwedd cyfnod yn Aberystwyth wrth i siop 'eiconig' gau

  • Cyhoeddwyd
siopFfynhonnell y llun, Tegwen Morris

Mae'n ddiwedd cyfnod yn Aberystwyth wrth i berchnogion siop T J Davies a'i Fab baratoi at arwerthiant i gau'r busnes, a hynny wedi iddyn nhw fod yn gwasanaethu'r dref ers 1948.

Mae siop emwaith a llestri T J Davies yn un o nifer o fusnesau yn Aberystwyth sydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau yn fuan.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Angharad Davies bod y teulu wedi trafod cau cyn y pandemig ond bod marwolaeth sydyn ei thad yn 2021 yn reswm arall.

"Mae'n brofiad rhyfedd meddwl am gau. Mae'r siopau wastad wedi bod yn rhan o'n bywyd ni gyd - er bo fi a'm mrawd Rhodri wedi dewis dilyn gyrfa fel cerddorion proffesiynol.

Disgrifiad o’r llun,

'Ry'n ni wedi gwerthu modrwyau priodas a dyweddïo i dair cenhedlaeth o'r un teulu,' medd Angharad Davies

"Dad oedd yn edrych ar ôl y siop emwaith a mam y siop lestri. Fi ddim yn gwybod a fyddai 'nhad wedi gallu cau'r siop.

"Ro'dd e'n caru cymuned Aberystwyth gymaint ac yn cael nerth o fod ymysg pobl - falle dyna beth a'i cadwodd e mor ifanc ac a wnaeth iddo weithio reit tan ei ddiwrnod ola', er ei fod yn 80!

"Mae Mam bellach yn 78 a ni'n credu bod hi'n bryd cau. Roedd cyfnod y pandemig yn anodd i ni fel busnes ond colli Dad mor sydyn o'dd yr ergyd fwyaf."

Cyffro 'bod Catherine Zeta wedi dewis ni!'

Wedi'r cyhoeddiad am gau'r siop mae nifer fawr wedi mynegi siom a rhannu atgofion ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae sawl cenhedlaeth wedi prynu modrwyau priodas a dyweddïo 'ma," medd Angharad Davies, sydd wedi bod yn rhedeg y siop gyda'i mam a'i brawd yn ystod y 18 mis diwethaf.

"Ma'n beth cyffredin clywed pobl yn dweud mai fan hyn gafodd mam a mam-gu eu modrwyau - ni wedi gwerthu modrwyau i dair cenhedlaeth."

Fe ddaeth y siop i gryn enwogrwydd ar ddechrau'r mileniwm wedi i'r newyddion ledaenu bod sêr Hollywood, Catherine Zeta-Jones a Michael Douglas, wedi prynu modrwy o'r siop.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Modryb Catherine Zeta-Jones awgrymodd bod hi a Michael Douglas yn prynu modrwy o siop T J Davies a'i Fab

"Mi o'dd e'n gyffrous iawn bod modrwy Michael Douglas oddi wrth Catherine Zeta yn dod o'n siop ni", meddai Angharad.

"Mae'r diolch i fodryb Catherine - roedd hi'n byw yn Aberystwyth ac fe wnaeth hi argymell ein siop ni fel bo nhw'n gallu cael modrwy o siop yng Nghymru.

"Wnaethon ni ddim rhannu'r stori â neb. Mi oedd gan Dad bolisi preifatrwydd cadarn a fyddai fe byth yn sôn wrth neb be fyddai rywun yn ei brynu ond fe lwyddodd y papurau newydd i gael y stori gan geisio dyfalu sut un oedd y fodrwy."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd John Davies Ysgol Gadeiriol Llandaf yn 16 oed i weithio yn y siop emwaith yn Aberystwyth

Titus John Davies, a anwyd ym Mhencader, a agorodd y siop wreiddiol yn 1948.

Wedi cael hyfforddiant fel optegydd a gemydd yn Llandysul fe brynodd fusnes Winstanley a Hughes ar Rodfa'r Môr ac yn fuan wedi hynny fe agorodd ei wraig, Annie Felix Davies, siop lestri drws nesaf.

Yn 1957 fe ddaeth John eu mab 16 oed i weithio yn y siop emwaith, ac wedi ymddeoliad ei rieni yn 1978 fe ehangodd ef a'i wraig Ann y ddwy siop.

'Stori fach gan bawb'

"Dyna oedd eu bywyd nhw," meddai Rhodri Davies, "roedd pob sgwrs yn y cartref yn troi o gwmpas y ddwy siop".

"Roedd y ddau wrth eu boddau a mor egnïol wrth iddyn nhw geisio gweld be' oedd y ffasiwn diweddaraf a beth fyddai'n plesio pobl Aberystwyth a'r ardal. Ro'n wrth eu boddau yn mynd i trade fairs yn Llundain a dod â'r cynnyrch yn ôl i gefn gwlad."

Ffynhonnell y llun, Tegwen Morris
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y staff - Heledd Jones, Ann Colledge, Ray Evans a Wendy Evans - eu bod fel 'un teulu'

Mae dros 100 o staff wedi gweithio yn y siop ers 1948 gyda'r mwyafrif yn siarad Cymraeg.

"Rydym yn ymfalchïo ein bod ni'n gallu rhoi gwasanaeth drwy'r gyfrwng y Gymraeg - mae hynny wastad wedi bod yn bwysig i ni," meddai Ann Davies.

Mae nifer o'r rhai sy'n gweithio yn y siop wedi bod yna am flynyddoedd lawer - yn eu plith Ann Colledge sydd wedi bod wrth y cownter ers iddi adael ysgol 45 mlynedd yn ôl.

"Ma'n le gwych i weithio - ni fel un teulu. Wel i ddweud y gwir roedd fy modryb yn gweithio 'ma, mae fy chwaer Ray yn gweithio yma a bu Siân - chwaer arall i ni hefyd yn gweithio 'ma."

'Lot o hwyl'

"Yn y siop lestri fi wedi bod fwyaf. Mae'r ffasiwn wedi newid ar hyd y blynyddoedd ond ro'n i'n gwybod yn iawn beth o'dd y rhan fwyaf yn mo'yn wrth iddyn nhw ddod trwy'r drws!

"Roedd hwn a hwn yn casglu Royal Albert Old Country Roses, rhywun arall yn casglu Mason Ironstone ac yna do'th yr Evesham yn boblogaidd a'r llestri bach Ainsley 'na - o'dd rhai wedyn yn dod i brynu llestri capel.

"Ni hefyd wedi bod yn 'neud rhestri priodas ac ar un adeg roedd y siop yn anfon llestri ar long i gwsmeriaid yn America.

"Mae wedi bod mor neis gweithio 'ma. Mae wedi bod yn lot o hwyl a fi wedi dod i 'nabod lot o bobl - mae ryw stori fach gan bawb sy'n dod i'r siop. Mae'n siop eiconig."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y siopau gwreiddiol eu hagor gan Annie Felix a Titus John Davies

Rhannu yr un profiadau mae chwaer Ann, Ray Evans.

"Yn y siop emwaith fi wedi bod ac mae wedi bod yn ddiddorol gweld y ffasiwn yn altro. Aur melyn oedd yn arfer bod yn boblogaidd, yna aur gwyn a phlatinum ond nawr ma'r duedd i fynd nôl at aur melyn eto.

"O'dd hi'n gyffrous pan o'dd Mr Davies yn mynd i chwilio am eitemau newydd i'r siop - roedd e fel petai e'n gwybod beth o'dd pobl yr ardal yma yn chwilio amdano."

Cwsmeriaid ffyddlon

"Mae 'na gwsmeriaid diddorol a ffyddlon iawn wedi bod yn dod yma," ychwanegodd Wendy Evans sydd wedi bod yn gweithio yn y siop ers dros 37 mlynedd.

"Ni'n teimlo bo ni wedi bod yn gwmni i lawer o bobl. Ni byth yn gweud pwy sydd wedi bod yn y siop ond anghofiai fyth un o'r Chippendales yn dod 'ma i brynu watch.

"Roedd aelod arall o'r staff wedi'i weld mewn sioe yn Neuadd y Celfyddydau noson gynt ond doedd hi ddim wedi'i adnabod e gyda'i ddillad 'mlaen! A 'na beth o'dd 'wherthin!'"

"Bydd yr wythnosau nesa' 'ma yn anodd i ni gyd wrth gwrs," ychwanega Angharad Davies, "ond ar y llaw arall mae'n gyfnod cyffrous gan fod cymaint o'r pethe prydferth sydd yma wedi cael eu dewis gan Mam a Dad ar hyd y blynyddoedd a dyma sydd wedi'i gwneud yn siop annibynnol mor unigryw."

Pynciau cysylltiedig