Pryder am brinder diffoddwyr tân yn y canolbarth a'r gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "bryder sylweddol" am brinder diffoddwyr tân yn y canolbarth a'r gorllewin, yn ôl prif swyddog gwasanaeth yr ardal.
Dywedodd Roger Thomas bod o leiaf 125 o swyddi gwag i ddiffoddwyr ar alw ar draws siroedd Caerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.
Mae argaeledd diffoddwyr ar alw wedi lleihau o 95% yn 2005 i tua 83% erbyn hyn.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, ychwanegodd Prif Swyddog Gwasanaeth Tân y Gorllewin a'r Canolbarth bod y drefn bresennol yn "anghynaladwy".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen "meddwl yn greadigol i ddatrys y broblem a byddwn yn trafod hyn gyda chyflogwyr ac undebau'r gwasanaeth tân".
Galw am fwy o gyflog
Diffoddwyr ar alw yw asgwrn cefn y gwasanaeth yng nghefn gwlad, a nhw sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth mewn 43 o'r 56 gorsaf yn ardal y gorllewin a'r canolbarth.
Mae Roger Thomas wedi gofyn am gynnydd o hyd at 13% yn y lefi sy'n dod o'r awdurdodau lleol, yn rhannol, er mwyn ceisio gwella cyflogau i ddiffoddwyr ar alw.
"Mae'r bobl sydd yn gweithio ar y system ar alwad, ni'n colli nhw," meddai Mr Thomas.
"Maen nhw'n ffindo fe'n anodd cadw ar y model ni'n rhedeg ar y foment. Mae'r niferoedd yn mynd lawr bob blwyddyn.
"Un o'r problemau yw'r arian maen nhw'n cael. So fe'n mynd lan, a'r oriau ni'n gofyn iddyn nhw roi i ni.
"Er enghraifft, am gytundeb 100% mae'n 120 o oriau bob wythnos. Am 75% mae'n 90 awr bob wythnos ac mae hwnna'n lot.
"Mae'n rhaid cofio bod nhw yn gweithio mewn llefydd eraill. Mae teuluoedd gyda nhw ac mae lot o bethau yn effeithio ar bobl sydd yn gweithio ar y system ar alwad."
Mae diffoddwyr ar alw fel arfer yn gwneud swyddi eraill ac yn gorfod gadael eu gwaith ar amrantiad er mwyn ymateb i argyfyngau.
Maen nhw yn gorfod bod yn barod i ymateb i argyfyngau am rhwng 90 a 120 awr yr wythnos.
Maen nhw yn cael ychydig filoedd o dâl sylfaenol, sydd yn ddibynnol ar brofiad, a thaliad am bob galwad frys.
'Dim cymuned ar gael'
Yn y gorffennol, mae yna ddigonedd o ddiffoddwyr tân wedi bod yng ngorsaf Crymych, ond mae'r sefyllfa wedi newid.
Mae angen recriwtio hyd at bedwar diffoddwr ar alwad, yn ôl y prif swyddog yn yr orsaf.
Mae'r orsaf hefyd yn cynnig gwasanaeth cyd-ymatebwyr i argyfyngau meddygol yn yr ardal.
Mae Euros Edwards wedi rhoi 43 mlynedd o wasanaeth, a fe yw rheolwr y watch yng Nghrymych.
"Mae'n eitha' diflas - mae'r oes wedi newid," meddai. "S'im y bechgyn we yn dod ar alwad i helpu'r gymuned - wel, dyw hynny ddim ar gael ddim mwy.
"S'dim incentive i'r bechgyn ifanc. Mae'r bois yn gweld bod e'n ormod o broblem i aros ar yr alwad am yr arian maen nhw'n cael nôl. Nid yr arian yw popeth.
"We'r genhedlaeth oedran fi mo'yn helpu'r gymuned. Nawr s'im y gymuned ar gael.
"Mae un bachgen 'da fi nawr ar gwrs ond mae'n rhaid iddo roi lan pythefnos o'i waith ei hunan - ei wyliau - i wneud y cwrs.
"Nes 'mlaen, bydd e'n gorfod 'neud pythefnos 'to i wneud y breathing apparatus. Mae hwn yn clymu'r bois lawr ac mae teulu yn bwysig iawn i ni gyd."
Mae'n dweud eu bod yn chwilio am ddynion a menywod i ymuno gyda'r gwasanaeth.
Mae ei frawd, Dylan, wedi cwblhau 34 mlynedd o wasanaeth.
"Mae pob un sydd gyda ni yng Nghrymych yn rhoi 100%. Dyna'r unig broblem yw ni jyst ffili cael pobl," meddai.
"Ni wedi bod yn mynd mas i nosweithiau tân gwyllt i drio cael pobl ifanc, a s'dim incentive i joino.
"We ni mo'yn neud e achos o'dd e yn y teulu ers blynyddoedd, a ro'n i mo'yn cadw fe fynd. Arian yw diwedd y gân yn anffodus."
Yn ôl Roger Thomas, mae angen gwella cyflogau i ddiffoddwyr ar alwad, a rhoi mwy o hyblygrwydd o ran cytundebau.
"Ni ffili cario mlaen fan hyn. Mae'r broblem yn tyfu ac mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth amdano cyn bo hir," meddai.
"I drio sorto un o'r problemau mas, mae'n rhaid i ni ffindo mwy o arian achos mae'r argaeledd yn mynd lawr a lawr, a dwi ddim eisiau i hynny ddigwydd yn y dyfodol."
'Methu byw ar gariad ac ymroddiad yn unig'
Mae aelod o Awdurdod Tân y Gorllewin a'r Canolbarth, y Cynghorydd John Davies, wedi galw am adolygiad cenedlaethol o dâl ac amodau gwaith i ddiffoddwyr ar alw.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar y gyfundrefn nid yn unig yn y gorllewin a'r canolbarth, ond ar draws Cymru gyfan," meddai.
"Mae hi wedi dod i groesffordd hanfodol bwysig o ran cynnal y gwasanaeth achos gallwch ddim byw ar gariad ac ymroddiad yn unig.
"Ni'n gwybod bod yna genhedlaeth o ddiffoddwyr wedi gwneud y gwaith yma o'i gwirfodd er lles y gymuned. Dyw hynny ddim yn talu'r biliau yn yr oes sydd ohoni."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan "Wasanaethau Tân ac Achub Cymru lawer i fod yn falch ohono".
"Erbyn hyn mae llai na hanner cymaint o danau ag oedd yn 2005, ac mae tanau preswyl yn agos at y lefel isaf erioed," meddai llefarydd.
Ychwanegodd fod hyn yn cael "effaith ar recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig".
"Mae hyn yn cael ei waethygu gan newidiadau hirdymor mewn patrymau cyflogaeth gwledig sy'n golygu bod llai o bobl yn gallu gwasanaethu fel diffoddwyr tân wrth gefn nag a fu.
"Mae angen meddwl yn greadigol i ddatrys y broblem a byddwn yn trafod hyn gyda chyflogwyr ac undebau'r gwasanaeth tân yn y fforwm partneriaeth gymdeithasol a gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol yr wythnos diwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd27 Medi 2017