Abertawe: Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur 19 oed wedi marw ac mae modurwr arall wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad wedi i'r heddlu ymgeisio i stopio traffig.
Bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle ar Ffordd San Helen, Abertawe, nos Wener tua 20:00.
Cadarnhaodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod yn cynnal ymchwiliad wedi i Heddlu De Cymru gyfeirio ei hun at y sefydliad.
Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: "Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur a cherbyd arall, y ddau yn cael eu gyrru gan aelodau'r cyhoedd, yn dilyn ymgais gan Heddlu De Cymru i stopio traffig.
"Yn drist iawn bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle a chafodd gyrrwr yr ail gerbyd ei gludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth."
'Meddyliau gyda'r teulu'
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi eu hysbysu am y digwyddiad nos Wener a bod ymchwilwyr wedi'u hanfon i'r lleoliad.
"Mae ein meddyliau gyda'r teulu sydd mewn galar yn ystod yr amser anodd hwn ac rydym wedi bod mewn cysylltiad â nhw i gydymdeimlo ac egluro ein rôl," ychwanegodd.
"Byddwn hefyd mewn cysylltiad â gyrrwr y cerbyd arall dan sylw. Mae'n gyfnod cynnar iawn yn ein hymchwiliad."
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn darparu cefnogaeth i deulu'r dyn ar yr "amser anodd yma".