Cludo cerddwr i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi iddo gael ei daro gan gar yn Noc Penfro.
Cafodd swyddogion heddlu eu galw i Stryd Laws yn gynnar brynhawn Gwener wedi'r gwrthdrawiad rhwng car a'r cerddwr, oedd yn defnyddio ffrâm gerdded.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys car Chrysler Grand Voyager du.
Fel rhan o'r ymchwiliad mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.