Apêl heddlu wedi i ddyn o Geredigion fynd ar goll

  • Cyhoeddwyd
dyfedFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn sy'n cael ei adnabod fel Dyfed ei weld ddiwethaf yn hwyr nos Sadwrn

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i ddyn o Dal-y-bont yng Ngheredigion.

Cafodd Dyfed (dyw plismyn ddim wedi nodi ei gyfenw) sydd yn oddeutu 5 troedfedd 10 modfedd ei weld ddiwethaf oddeutu 22:30 neu 23:00 nos Sadwrn, 3 Rhagfyr.

Dywed plismyn ei fod yn ŵr canolig o ran maint, bod ganddo wallt brown byr a barf fer gochlyd.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd e'n gwisgo trowsus llwyd gwrth-ddŵr dros jîns, crys siec tew glas, het wlân a welingtons.

Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig