Oedi cynllun trenau'r gogledd wedi i gwmni fynd i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i redeg mwy o drenau rhwng gogledd Cymru a Lerpwl wedi cael eu hatal am y tro ar ôl i'r cwmni sy'n cyflenwi'r trenau fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu darparu gwasanaethau o'r gogledd i Lerpwl bob hanner awr, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Gogledd Cymru.
Ond aeth Vivarail Ltd, y cwmni o Sir Warwick sy'n cyflenwi'r trenau, i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Iau.
Bwriad Trafnidiaeth Cymru yw dod â'r trenau hybrid newydd, Dosbarth 230, sy'n rhedeg ar danwydd disel a batri, i mewn yn 2023.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni bod trigolion Sir Y Fflint a Wrecsam wedi cael "eu gadael i lawr".
Roedd yr unedau 125 sedd, i fod i ddechrau gwasanaethu rhwng Wrecsam a Bidston yn 2019 fel rhan o fuddsoddiad o £5 biliwn gan Drafnidiaeth Cymru.
Ond cafodd y cynllun ei ohirio bryd hynny.
'Dal yn obeithiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod yn dal i obeithio cyflawni "gwasanaeth llawn, dwywaith bob awr, ac yn fwy aml yn uniongyrchol i Lerpwl ar gyfer Metro Gogledd Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n holl bartneriaid i ehangu capasiti'r lein yn y dyfodol".
"Rydym yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth dwywaith bob awr ar lein Wrecsam-Bidston unwaith y bydd y trenau Dosbarth 230 mewn gwasanaeth.
"Serch hynny, mae profion a hyfforddiant wedi eu hatal dros dro yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Vivarail.
"Byddwn yn gallu gwneud datganiad pellach yn y dyddiau nesaf, ond mae ein ffocws yn dal i fod ar ddod â'r unedau Dosbarth 230 i wasanaethu ar ein rhwydwaith... yn ystod 2023."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gyhoeddi dyddiadau pendant ar gyfer cyflwyno'r trenau newydd.
Dywedodd eu llefarydd trafnidiaeth, Natasha Asghar AS: "Heb ddim trenau newydd a dim dyblu'r gwasanaethau, mae'r gwelliant hwn nawr dair blynedd ar ei hôl hi tra bod addewidion i gymunedau ar lein y ffin wedi cael eu torri.
"Fe ddylai'r trenau hyn fod wedi dechrau gwasanaethu yn 2019, ond mae oediad ar ôl oediad yn golygu nad ydyn nhw byth mewn gwasanaeth."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddynt unrhyw beth i'w ychwanegu at ddatganiad Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Jon Roden ar ran y gweinyddwyr, cwmni Grant Thornton, eu bod wedi cefnogi Vivarail wrth geisio sicrhau buddsoddwyr.
"Yn yr amser prin oedd ar gael, nid ydym wedi gallu adnabod ffynhonnell fyddai'n gallu cyflenwi hynny," meddai.
Roedd y gweinyddwyr wedi cadw tua 30 o weithwyr Vivarail ymlaen, wrth iddynt geisio datrys y sefyllfa, meddai.
"Mae'r ffocws nawr ar weithio ochr yn ochr â chwsmeriaid Vivarail gyda'r gobaith o wella'r derbyniadau ariannol i gredydwyr o dan amgylchiadau anodd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017