Carchar i bedoffeil, 86, a gafodd ei recordio yn cyfaddef

  • Cyhoeddwyd
Keith EdmondsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Keith Edmonds yn euog o 11 achos o ymosodiadau rhyw rhwng 2001 a 2015

Mae pedoffeil a gafodd ei recordio gan ddau o'i ddioddefwyr yn cyfaddef iddo eu cam-drin pan oedden nhw'n blant wedi cael ei garcharu am 21 mlynedd.

Dywedodd barnwr nad oedd ganddo "fymryn o gydymdeimlad" o wybod y byddai Keith Edmonds, 86, fwy na thebyg yn marw yn y carchar.

Doedd Edmonds ddim yn gwybod fod un o'r bobl oedd yn ei gyhuddo o'i gam-drin yn recordio'r sgwrs ar ei ffôn symudol pan ddywedodd: "Mae'n ddrwg gen i.

"Pe bawn i'n medru troi'r cloc yn ôl yna fyddwn i ddim wedi gwneud hynny."

Cafodd y recordiad ei roi i'r heddlu ac fe gafodd Edmonds ei arestio a'i gyhuddo o gyfres "arswydus" o ymosodiadau rhyw ar bedwar o blant dan 13 mlwydd oed.

Roedd y tad i ddau wedi gwadu'r cyhuddiadau i gyd, gan honni ei fod wedi blino adeg y cyfaddefiad a'i fod yn ysu i fynd i'r gwely.

Yn Llys y Goron Caerdydd fe ddywedodd: "Wnes i ddim byd iddyn nhw. Wnes i ond dweud beth oedden nhw eisiau ei glywed er mwyn iddyn nhw fynd i ffwrdd."

Ond ar ôl i'r rheithgor glywed Edmonds yn cyfaddef, fe'i cafwyd yn euog o 11 achos o ymosodiadau rhyw rhwng 2001 a 2015.

Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys y bydd Edmonds yn 100 oed cyn y caiff wneud cais am barôl

Roedd Edmonds, o Ffynnon Taf ger Caerdydd, yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog pan gafodd ei ddedfrydu ddydd Mercher.

Mae'r pedwar a gafodd eu cam-drin bellach yn oedolion, ond fe ddywedodd un wrth y llys eu bod nhw i gyd yn dioddef o byliau o banig, o ôl-fflachiadau ac wedi ystyried hunanladdiad yn dilyn blynyddoedd o gam-drin.

"Mi gollais blentyndod hapus," meddai un dioddefwr. "Mae'r cwmwl du sydd wedi fy nilyn byth ers hynny yn dal yno."

Marw yn y carchar yn 'anochel'

Clywodd y llys fod Edmonds yn dioddef o iechyd gwael a'i fod yn derbyn triniaeth oherwydd calon wan.

Dywedodd y Barnwr Michael Fitton wrtho: "Rwy'n derbyn ei bod yn anochel y byddwch yn marw yn y carchar.

"Ond dyw'r ffaith yna ddim yn ennyn mymryn o gydymdeimlad tuag atoch.

"Rydych yn ddyn heb foesau sydd heb ddangos unrhyw edifeirwch. Rydych wedi dinistrio plentyndod pedwar o blant, gan achosi cywilydd, poen a chwalfa emosiynol arnyn nhw.

"Mi fydd yr effaith yn byw gyda nhw am gyfnod na ellir ei ddirnad a'r cyfan am eich bod chi yn bedoffeil ac rydych yn gadael gyda'r cywilydd a'r gwarth yna ar eich enw."

Clywodd Edmonds y bydd yn treulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd yn y carchar, sy'n golygu y bydd yn 100 oed cyn y caiff wneud cais am barôl.

Pynciau cysylltiedig