Menyw, 34, yn pledio'n euog i ddynladdiad ei chymar

  • Cyhoeddwyd
Steven John DaviesFfynhonnell y llun, Family Photo
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steven Davies, oedd yn cael ei nabod gan lawer fel Hagi, ei ddarganfod yn farw gan gymydog

Mae menyw 34 oed o Rondda Cynon Taf wedi cyfaddef iddi ladd ei chymar, a gafodd ei ddarganfod wedi ei drywanu i farwolaeth.

Bu farw Steven Davies, 39, yn ei gartref yng Nglyn-coch, ger Pontypridd ar 15 Mehefin eleni.

Roedd Carrie McGuinness, 34 oed ac o bentref Rhydyfelin, ger Pontypridd wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a dynladdiad.

Ond gyda'r achos ar fin dechrau yn Llys Y Goron Caerdydd, fe blediodd yn euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei dedfrydu ar 20 Ionawr.

Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd heddlu tu allan i gartref Steven Davies yn Rhodfa'r Garth yng Nglyn-coch

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn bod dibyniaeth alcohol difrifol McGuinness wedi "amharu ar ei gallu i reoli ei hun".

Clywodd y llys dystiolaeth feddygol ac adroddiadau seicolegol a oedd yn atgyfnerthu'r farn honno ac fe wnaeth yr erlyniad ollwng y cyhuddiad o lofruddiaeth yn ei herbyn.

Mewn teyrnged adeg ei farwolaeth, cafodd Steven Davies, oedd yn cael ei alw'n Hagi, ei ddisgrifio fel "dyn â chalon aur oedd yn helpu unrhyw un cyn meddwl am ei hun".

Dywedodd ei fam, Donna bryd hynny ei fod "wastad ag amser i unrhyw un" a'i fod "yn ddyn ifanc cwrtais a boneddigaidd".

Pynciau cysylltiedig