Rhybudd am adeiladu tai 'diangen' yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Plasdŵr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 7,000 o dai newydd yn cael eu codi yng ngogledd Caerdydd fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr

Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y gallai tai diangen gael eu hadeiladu ar gaeau gwyrdd yng Nghaerdydd yn y dyfodol.

Yn ôl ffigyrau newydd, mae cyngor y ddinas wedi goramcangyfrif twf ym mhoblogaeth y brifddinas o dros 18,000 yn eu Cynllun Datblygu Lleol, a gafodd ei greu yn gyntaf yn 2006.

Fe fyddan nhw'n ymgynghori ar gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd yn y flwyddyn newydd, a fydd yn siapio faint o dai fydd yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd am y 15 mlynedd nesaf hyd at 2036.

Roedd datblygiad Plasdŵr, lle bydd 7,000 o dai newydd yn cael eu codi yng ngogledd Caerdydd, yn rhan fawr o'r Cynllun Datblygu Lleol.

'Dwy flynedd a hanner hunllefus'

Mae'n ddatblygiad anferth, sydd heb gael llawer o groeso gan rai o'r trigolion sy'n byw gerllaw, fel y ddarlledwraig adnabyddus Beti George, sy'n byw gyferbyn â rhan o'r datblygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Beti George ei bod wedi cael "dwy flynedd a hanner hunllefus" o waith adeiladu gerllaw

"Fe wnaethon nhw benderfynu ailgyfeirio'r ffordd heibio i fy ngardd i, ac felly roedd yn ddwy flynedd a hanner hunllefus... gyda'r sŵn a'r holl beth," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fe gollais i ddau haf. O'n i'n methu mynd mas i'r ardd achos, wrth gwrs, roedd y sŵn yn ormod.

"Dwi yn derbyn bod angen tai, neu mi oedd angen tai, ond y ffordd maen nhw'n mynd ati - mae Cyngor Caerdydd yn brolio 'ein dinas werdd' - wel mae'n jôc o'n safbwynt ni fan hyn yn Radur.

"Mae'r cloddiau i gyd wedi cael eu chwalu, mae'r coed wedi cael eu torri, mae'r gwyrddni i gyd dan goncrid."

Faint o dai sydd wedi eu codi?

O ran y targedau yn y Cynllun Datblygu, mae adeiladu o fewn y brifddinas mewn gwirionedd ar ei hôl hi.

740 o dai sydd wedi'u gorffen ym Mhlasdŵr, ond yn ôl y cynllun, fe ddylai 2,879 gael eu codi erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae gan y cyngor darged i adeiladu 6,646 o dai fforddiadwy dros y ddinas erbyn 2026. 1,797 sydd wedi'u codi hyd yma, sef llai na 25% o'r targed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Plasdŵr yn ddatblygiad anferth, sydd heb gael llawer o groeso gan rai o'r trigolion sy'n byw gerllaw

Mae'r arafwch, ynghyd â ffigyrau diweddaraf y cyfrifiad ar dwf mewn poblogaeth, yn ddigon o reswm dros beidio adeiladu mwy ar fannau gwyrdd, yn ôl un grŵp ymgyrchu.

"Ar hyn o bryd maen nhw'n gweithio ar ffigyrau sy'n 10 mlwydd oed," meddai'r cynghorydd cymuned Allan Cook o grŵp datblygu Radur.

"Dyw'r ffigyrau diweddaraf ddim byd yn debyg. Er enghraifft, roedd Caerdydd yn honni mai nhw oedd y ddinas oedd yn tyfu fwyaf ym Mhrydain ar y pryd.

"Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, Caerdydd ydy'r 168fed o ran tyfiant."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Allan Cook fod ffigyrau'r cyfrifiad yn ddigon o reswm dros beidio adeiladu mwy ar fannau gwyrdd

Ond mae Huw Onllwyn, sydd hefyd yn aelod ar Gyngor Cymuned Radur, yn dweud nad oes problem ganddo gydag adeiladu mwy o dai.

"Mae'n ddinas lwyddiannus. Mae'n grêt bod pobl eisiau byw yma," meddai.

"Mae'n ddinas sy'n tyfu ac os wyt ti'n cael dinas sy'n tyfu, ti'n cael y math o adnoddau mae pobl moyn.

"Felly dylen ni ddim cwyno bod angen tai newydd. 'Da ni gyd yn byw yn rhywle lle oedd unwaith cae gwyrdd.

"Os yw pobl eisiau cartrefi fe ddylen ni eu hadeiladu nhw, a dyna yw'r flaenoriaeth."

Disgrifiad o’r llun,

"Dylen ni ddim cwyno bod angen tai newydd," medd Huw Onllwyn

Mae Helen Lloyd Jones, sy'n gynghorydd Llafur ar Radur a Phentre-Poeth, yn apelio ar ei phlaid ei hun i beidio â chaniatáu rhagor o adeiladu ar safleoedd gwyrdd.

Mae'n pryderu dros un ardal werdd rhwng Radur a Phentyrch, lle mae'n debyg mae diddordeb datblygu.

"Mae rhywun, a dim y council - dyw'r council ddim ar fai - developer neu rywun, wedi awgrymu efallai y byddai'n syniad i adeiladu tai yma," meddai.

"Mae hwn yn ardal green belt. Dwi ddim eisiau colli e. Mae 'na goedwig arbennig o dda, mae'n ardal naturiol, prydferth.

"Yn y pendraw, bydd y penderfyniad yn dibynnu ar bwy sy'n rheoli'r cyngor ar y pryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Lloyd Jones yn pryderu dros ardal werdd rhwng Radur a Phentyrch, lle mae'n debyg mae diddordeb datblygu

Dweud eu bod nhw wedi, ac yn, ymgysylltu gyda'r cyhoedd fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol mae llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

Dywedodd yr aelod cabinet dros drafnidiaeth a chynllunio strategol, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Rydym yn parhau i asesu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar dwf aelwydydd, gan gynnwys data'r Cyfrifiad, ynghyd â'r angen am gartrefi fforddiadwy ledled y ddinas.

"Byddwn hefyd yn ystyried yr ymrwymiadau datblygu tai presennol yn y ddinas cyn paratoi Strategaeth a Ffefrir y CDLl Newydd ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn newydd.

"Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun wedi'i seilio ar sylfaen dystiolaeth gadarn ac wedi'i lywio gan y tueddiadau a'r dystiolaeth ddiweddaraf."