Sefydlu cwmni ynni adnewyddadwy cyhoeddus yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Lleihau biliau ynni a chreu elw i fuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus, dyna fwriad Llywodraeth Cymru wrth sefydlu cwmni ynni cyhoeddus newydd.
Bydd y llywodraeth yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i godi ffermydd gwynt ac fe fydd yna gyfleoedd i gymunedau lleol fod yn berchen ar dyrbinau.
Wrth i lywodraethau tramor wneud elw o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, "fe ddylen ni fanteisio ar ein hadnoddau naturiol," meddai Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James.
Y gobaith yw lansio'r cwmni ynni adnewyddadwy cyhoeddus ymhen blwyddyn, meddai'r gweinidog.
Darn o dir yn Sir Gaerfyrddin, safle 'Brechfa Dau', sydd wedi ei glustnodi ar gyfer tyrbinau cyntaf y cwmni cyhoeddus newydd.
"Rydyn ni'n gobeithio datblygu fferm wynt sydd â choedwig dda o'i hamgylch a bioamrywiaeth dda," meddai Ms James.
"Bydd y cynllun yn fenter ar y cyd â phartner arall a bydd gan y gymuned leol gyfle i berchen ar rai o'r tyrbinau - felly bydd gan bobl yr ardal gyfranddaliadau yn y prosiect.
"Dyma'r math o fodel rydyn ni'n gobeithio ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru.
"Gobaith arall yw cysylltu pobl sy'n byw oddi ar y grid ar hyn o bryd â'r tyrbinau, os yn bosib."
Elw sylweddol yn mynd i Sweden
Ar hyn o bryd mae rhai o ffermydd gwynt mwyaf Cymru yn eiddo i gwmnïau tramor ac mewn rhai achosion llywodraethau tramor - ac mae'r elw yn ariannu eu gwasanaethau cyhoeddus nhw.
Fferm wynt Pen y Cymoedd yw'r mwyaf yng Nghymru a Lloegr gyda 76 o dyrbinau. Cwmni Llywodraeth Sweden - Vattenfall - sy'n gyfrifol am y safle.
Mae 15% o dai Cymru yn cael eu trydanu gan tyrbinau Vattenfall. Mae'r cwmni wedi buddsoddi £300m yng Nghymru, meddai Rahel Jones o'r cwmni.
Er gwaethaf hynny, mae swm sylweddol o elw y cwmni yn mynd yn ôl i Sweden.
Mae Vattenfall yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, meddai Ms Jones.
"Mae cystadleuaeth yn beth da. Rydyn ni'n cystadlu ar draws Ewrop gyda gwahanol gwmnïau a gallen ni gydweithio gyda'n gilydd gan greu systemau ynni ry'n ni eu hangen i fynd i'r afael â newid hinsawdd," meddai.
Ynni cymunedol
Mae prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol wedi bodoli yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach.
Ond mae'r broses i sefydlu cwmni ynni cymunedol yn gallu bod yn broses araf, medd cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, David Clubb.
Er nad oes sicrwydd ar hyn o bryd pa effaith fydd cwmni ynni cyhoeddus yn cael ar brosiectau ynni lleol mae yna obaith y gallen nhw weithio ochr yn ochr er lles cymunedau Cymru.
"Rydyn ni wedi dechrau'r broses o helpu ynni cymunedol yng Nghymru a dwi'n gefnogol o hyn," meddai Mr Clubb.
"Hoffwn i weld lot mwy. Yn bersonol, dwi'n cefnogi'r syniad o gael rhywbeth sy'n berchen i'r llywodraeth ond sy'n rhydd i weithio fel cwmni preifat yn gyntaf yng Nghymru a wedyn yng ngweddill y byd."
'Ddim am gystadlu â'r llywodraeth'
Mae Ynni Padarn Peris yn gynllun ynni adnewyddadwy cymunedol yn Llanberis, Gwynedd, sy'n defnyddio ynni hydro i greu trydan.
Y boblogaeth leol sy'n elwa o'r prosiect sy'n defnyddio dŵr o'r Afon Goch.
Bwriad Ynni Padarn Peris yw trydanu cartrefi a busnesau lleol, cadw costau ynni i lawr ac ail-fuddsoddi'r elw mewn prosiectau lleol eraill.
Dywedodd ysgrifennydd cwmni Ynni Padarn Peris, Dr Paula Roberts: "Mae'r system fychan yma yn rhoi swp go lew o arian yn ôl i fewn i'r gymuned leol bob blwyddyn ac mae'n mynd yn uniongyrchol i'r gymuned sydd wedi prynu cyfranddaliadau yn y system.
"Mae o'n targedu'r prosiectau hynny mae'r gymuned ei hun eisiau eu gweld yn datblygu."
Wrth drafod bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni, ychwanegodd Dr Roberts mai ei gobaith yw y bydd unrhyw gwmni ynni cenedlaethol newydd yn gefnogol o brosiectau ynni lleol fel Ynni Padarn Peris.
"Ydyn ni'n mynd i fod mewn cystadleuaeth fel cwmni cymunedol efo'r llywodraeth am yr asedau yma neu beidio? Ai'r bwriad ydy cydweithio efo ni?
"Dydy hynny ddim yn hollol glir o beth rydw i wedi'i ddarllen ym mwriadau'r llywodraeth," meddai.
Mae Dyfan Lewis o Ynni Cymunedol Cymru eisiau sicrhau bod penderfyniadau am wariant yn cael eu gwneud yn lleol.
"Os oes gyda chi fferm gwynt, cynllun hydro neu solar, rydyn ni eisiau gweld bod yr arian sy'n cael ei greu yn mynd i fentrau cymunedol ac yn helpu pobl sy'n wynebu tlodi tanwydd," meddai.
"Wedyn nhw sydd â'r dewis o le mae'r arian yn cael ei wario."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021