Arestio pedwar wedi i brotestwyr achosi difrod i adeilad
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio wedi i ddifrod gael ei achosi i adeilad yn ystod protest yn Llanandras ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod "nifer fawr o heddlu" yn delio gyda'r brotest ar safle diwydiannol yn y dref, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Cafodd y llu eu galw i adroddiadau fod rhywun wedi torri i mewn i adeilad ar Barc Busnes Broadaxe toc wedi 06:30 fore Gwener.
Fe gafodd dwy fenyw, 41 a 65 oed, eu harestio ar amheuaeth o ladrad, ac roedd dau arall wedi dringo ar do yr adeilad.
Cafodd y ddau - dyn 34 oed a menyw 39 oed - eu harestio wedi iddyn nhw ddod i lawr oddi ar y to am tua 10:45.
Mae'r pedwar yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Cyngor Powys fod y brotest wedi cael effaith ar gampws John Beddoes yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, sydd ger y stad ddiwydiannol.
Ychwanegon nhw nad oes unrhyw un yn cael gadael yr ysgol am y tro "er mwyn cadw disgyblion a staff yn ddiogel".