Galw ar y gwasanaeth ambiwlans 'yn fwy na'i allu i ymateb'
- Cyhoeddwyd
Roedd y galw ar wasanaeth ambiwlans Cymru yn "fwy na'i allu i ymateb" dros y penwythnos.
Cafodd llinell ffôn 111 y gwasanaeth iechyd y diwrnod prysuraf erioed ddydd Sadwrn wrth ymateb i fwy na 10,000 o alwadau.
Roedd cynnydd hefyd yng ngalwadau 999 - gyda mwy na 200 o alwadau sy'n peryglu bywyd wedi eu hateb.
Mae'r gwasanaeth wedi ymddiheuro am amseroedd aros hwy na'r arfer.
Fe gyhoeddodd y gwasanaeth "ddigwyddiad o barhad busnes" - sy'n golygu eu bod wedi cyflwyno mesurau i geisio rheoli'r galw.
Dywedodd eu cyfarwyddwr gweithredol fod hynny'n ddigwyddiad "prin".
Dywedodd Lee Brooks bod rhai cleifion oedd angen ambiwlans wedi aros, ac yn parhau i aros am "oriau lawer".
Ychwanegodd fod y tywydd gwael wedi effeithio ar eu gallu i ymateb, yn enwedig ar hyd yr M4, Blaenau'r Cymoedd ac yn y de orllewin.
Fe ychwanegodd fod cynnydd yn nifer y galwadau gan rieni am achosion posib o Strep A ymhlith eu plant.
Mae trefniadau arbennig wedi eu cyflwyno gan y gwasanaeth i reoli'r galw, dywedodd, gan gynnwys gofyn i rai cleifion ddod o hyd i'w ffordd eu hunain o gyrraedd yr ysbyty.
Mewn datganiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Lee Brooks: "Anaml y byddwn yn datgan digwyddiad o barhad busnes ac nid ydym yn gwneud y penderfyniad ar chwarae bach.
"Mae tywydd eithafol, ynghyd â nifer uchel o alwadau yn canolbwyntio ar gwympiadau a phroblemau anadlu dros nos, wedi cyfyngu ar ein gallu i ymateb yn ddiogel ac yn amserol."
Strep A
Ychwanegodd ei bod yn "ddealladwy bod rhieni'n ofalus pan fydd plant yn dangos symptomau posibl Strep A".
"Y lle gorau i ddechrau os ydych chi'n bryderus yw ein gwefan, dolen allanol lle mae gwybodaeth am symptomau a beth i'w wneud," dywedodd.
"Mae 111 yn brysur iawn ac mae'r galw am wasanaeth i rai dan 12 oed yn uchel iawn. Byddwch yn amyneddgar gan y byddwn yn cyrraedd y galwadau hyn cyn gynted ag y gallwn."
Ond, fe ddywedodd y dylai rhieni ffonio 999 os yw'r achosion yn ddifrifol, ac yn gyffredinol, dim ond mewn argyfwng sy'n bygwth bywyd.
Yn y datganiad, fe ymddiheurodd i bobl sydd wedi gorfod aros dros y penwythnos.
"Ry'n yn ymddiheuro i bawb sydd wedi gorfod aros yn hirach i'w galwadau gael eu hateb, ac wedi hynny aros yn hirach i ambiwlans gyrraedd.
"Ni allaf ddiolch digon i'n staff a'n gwirfoddolwyr am wneud popeth o fewn eu gallu mewn cyfnod heriol."
Yn y cyfamser fe rybuddiodd Heddlu De Cymru ar eu cyfrif trydar bod "yr amodau ar ffyrdd de Cymru yn beryglus. Mae yna rew cudd mewn sawl man ar yr M4 ac mae eira wedi effeithio ar nifer o ffyrdd," medd llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022