Bron i 20% o alwadau am ambiwlans yn amhriodol

  • Cyhoeddwyd
ambiwlans

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n gofyn i'r cyhoedd ymatal rhag gwneud galwadau 999 oni bai bod wir angen wrth i'r tywydd poeth barhau.

O'r 19,517 o alwadau i'r gwasanaeth rhwng 4-18 Gorffennaf, roedd bron i 20% ohonyn nhw'n alwadau nad oedd yn hanfodol.

Roedd y rhesymau dros alw'n cynnwys bwyta pryd cyw iâr amrwd, cael hylif golchi dillad yn y llygad, bys wedi chwyddo, pigyn clust a cholli dant.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, fe wnaethpwyd 16 o alwadau ffug, gan gynnwys un yn honni bod ci wedi cael ei drywanu.

Ddechrau'r wythnos fe gafodd y tymereddau uchaf erioed eu cofnodi yng Nghymru yn ystod deuddydd o wres eithafol pan fu rhybudd ambr mewn grym.

Trafferthion anadlu oedd y prif reswm dros ffonio am ambiwlans ddydd Mawrth, pan gofnodwyd tymheredd uwch na 40C am y tro cyntaf erioed yn y DU.

Roedd yna hefyd gynnydd yn nifer y galwadau am gymorth wedi i unigolion fynd i drafferthion mewn dyfroedd, neu ddioddef effeithiau'r gwres.

Er bod tymereddau wedi dechrau gostwng, mae disgwyl i'r tywydd braf barhau ac yn sgil hynny mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn apelio ar bobl i ddilyn y cyngor i ofalu am eu hunain a defnyddio'r gwasanaeth 999 yn briodol.

"Mae ein gwasanaeth ambiwlans yn bodoli i helpu pobl sy'n sâl neu wedi eu hanafu'n ddifrifol ble mae yna fygythiad i'w bywyd," meddai Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans, Lee Brooks.

"Gall amser sy'n cael ei dreulio ar alwadau nad sy'n hanfodol fod yn amser ar gyfer helpu rhywun mewn sefyllfa ble mae bywyd yn y fantol."

"Mae pobl â phigyn clust neu bysedd wedi chwyddo yn dal angen cymorth clinigol, ond mae galw 999 yn yr achos yna'n annoeth pan fo gymaint o ffyrdd eraill i gael help mwy priodol.

"Mae galwadau ffug yn fater hollol wahanol oherwydd mae rhywun wedi mynd i drafferth yn fwriadol i wastraffu ein hamser, sydd, a bod yn onest, yn ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gwasanaeth yn apelio ar y cyhoedd i gysylltu â gwefan 111 y GIG yn y lle cyntaf i chwilio am gyngor a gwybodaeth.

Gyda'r disgwyl y bydd y tymheredd yn parhau yn yr 20au canol am y diwrnodau nesaf, dywed y gwasanaeth bod angen i bobl barhau i gymryd pwyll.

"Er y tymheredd is, mae perygl gwirioneddol o hyd i'n hiechyd, yn arbennig os oes gyda chi gyflwr fel asthma neu angina.

"Mae cydweithwyr clinigol hefyd wedi siarad â llawer o gleifion sydd heb yfed digon o ddŵr, felly mae'n bwysig iawn i yfed digon o hylifau."

Cyfeiriodd Mr Brooks at y "pwysau eithafol" sy'n parhau ar y gwasanaeth ambiwlans yn sgil oedi cyn trosglwyddo cleifion i ysbytai, nifer uwch o alwadau brys 'coch' ac absenoldebau staff oherwydd Covid.

"Yn y pen draw, rydym eisiau i bawb fwynhau'r tywydd braf ond plîs gwnewch hynny'n synhwyrol ac yn ystyriol er mwyn osgoi galwad 999," meddai.

"Hoffwn ddiolch ein staff a gwirfoddolwyr sy'n wastad yn gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd."

Pynciau cysylltiedig