Aur i Gymro ym Mhencampwriaethau Para Syrffio'r Byd
- Cyhoeddwyd

Mae Llywelyn Williams yn gobeithio cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn 2028
Mae'r Cymro Llywelyn Williams wedi ennill aur ym Mhencampwriaethau Para Syrffio'r Byd yn Nghaliffornia.
Roedd Williams, 27, yn cystadlu yn y categori penlinio ar Draeth Pismo.
Hwn yw'r pedwerydd tro iddo gyrraedd y rownd derfynol mewn chwe blynedd. Daeth yn agos i gipio'r aur yn 2021.
"O ddim ond colli yn y tri munud olaf i gipio fo'r tro hwn, mae'n anghredadwy," meddai.
Dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd para-syrffio yn cael ei gynnwys yn y Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028.
Mae disgwyl cyhoeddiad am hynny fis nesa.
Roedd Llywelyn Williams yn 16 oed yn 2011 pan gafodd ei daro gan gar tra ar fwrdd sglefrio - skateboard.
Bu mewn uned gofal dwys am chwe wythnos a chollodd ei goes dde.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021