Swyddi cyntaf i barc busnes Bangor wedi 20 mlynedd?
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gwmni offer adeiladu o'r gogledd greu y swyddi cyntaf ar barc busnes sydd wedi bod yn segur am dros 20 mlynedd.
Bwriad cwmni Huws Gray yw symud o un o'u safleoedd ar Stad Ddiwydiannol Llandygai i leoliad mwy ym Mharc Busnes Bryn Cegin ar gyrion Bangor.
Mae cais y cwmni o Fôn i adeiladu safle o'r newydd mewn datblygiad gwerth £3m yn addo darparu'r swyddi cyntaf ar y parc gafodd ei sefydlu dros ddau ddegawd yn ôl.
Ddydd Llun, pleidleisiodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn unfrydol o blaid y cynllun.
Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y parc busnes, a gafodd ei adeiladu gyda'r bwriad o ddenu cannoedd o swyddi'n lleol.
Ond tra'n croesawu'r datblygiad diweddaraf, dywedodd yr Aelod o'r Senedd lleol ei fod yn "sgandal" ei fod wedi cymryd cyhyd i ddod ag unrhyw swyddi i'r parc.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i weithio gyda Chyngor Gwynedd i ddenu busnesau i'r safle, ac yn trafod gyda nifer o fusnesau ynglŷn â phlotiau unigol.
Roedd agor Parc Busnes Parc Bryn Cegin yn destun gobaith economaidd ar droad y ganrif, gyda sôn am adeiladu sinema, bwytai a chanolfan bowlio.
Cafodd y safle, a'i sefydlwyd yn 2000, ei hysbysebu fel un a allai gynnal hyd at 1,600 o swyddi dros safle 70,000 metr sgwâr.
Ond dros 20 mlynedd yn ddiweddarach nid oes unrhyw fusnesau yn masnachu yno, er gwaethaf sawl addewid o ddatblygiad a dros £11m yn cael ei wario arno.
Yn gynharach eleni fe roddwyd caniatâd i adeiladu safle storio nwy Bio-CNG er mwyn darparu tanwydd gwyrdd i loriau.
Ond er yn cynnig cyfle pwysig i gwmnïau loriau lleol i ddatgarboneiddio, does ddim disgwyl i'r datblygiad hwnnw greu yr un swydd barhaol.
Bydd cynlluniau Huws Gray yn debygol o ddenu 20 o swyddi parhaol i'r safle.
Roedd swyddogion y cyngor wedi argymell cymeradwyo'r cais 2,405 medr sgwâr, gyda'r adran economaidd yn nodi gobaith o "greu mwy o ddiddordeb yn y safle a buddsoddiadau eraill gan y sector breifat."
Er hynny, dim ond tri o'r rhain fyddai'n swyddi newydd, gyda 17 yn symud o safle presennol y cwmni ar Stad Ddiwydiannol Llandygai.
Ond yn ôl y cwmni gall y datblygiad fod yn sbardun i ddenu mwy o fuddsoddiad i'r parc.
"Gall y datblygiad arfaethedig ddarparu'r swyddi newydd cyntaf ar y parc busnes a gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad pellach," dywedodd y datblygwyr fel rhan o'r cais cynllunio.
"Mae'r ffaith bod Parc Bryn Cegin yn parhau heb ei datblygu dros 10 mlynedd wedi caniatáu'r cais cynllunio amlinellol, yn dangos yn glir y diffyg galw am ddefnydd... ar y safle dros y blynyddoedd.
"Hyd nes fod datblygiad yn cael ei gyflwyno i roi hwb i'r defnydd o'r safle, mae'n bosibl iawn y bydd yn wag am flynyddoedd i ddod eto.
"Gan fod y safle yn wag yn bennaf, mae cyfleoedd digonol ar gyfer busnesau... eraill i ddatblygu ar y safle.
"Byddai'r cynnig yn cynrychioli buddsoddiad o tua £3m gan gwmni lleol sy'n dymuno ehangu ei safle ym Mangor, yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol i bobl leol, y rhan fwyaf o'r rheiny yn Gymry Cymraeg."
Yn siarad â Cymru Fyw dywedodd yr Aelod o'r Senedd lleol fod y gobaith o swyddi newydd i'w croesawu, ond ei bod yn "sgandal" ei fod wedi cymryd cyhyd.
Dywedodd Siân Gwenllian, yr aelod dros Arfon: "Dwi yn gobeithio fod hyn yn ddechrau rŵan ar weld y parc yn llenwi, hefo swyddi o ansawdd yn cael eu creu yno.
"Mae wedi bod dros 20 mlynedd ers i'r parc gael ei sefydlu ac mae'n sgandal fod y lle yn dal yn wag, ond mawr obeithio rŵan fydd pethau'n gallu symud ymlaen.
"Mae 'na gynllun lleol ar y gweill ar hyn o bryd, mae 'na hefyd gynllun yn rhan o Gynllun Twf y Gogledd fyddai'n gallu golygu fod unedau parod yn cael eu creu ar y safle.
"Felly mae pethau yn dechrau symud o'r diwedd."
Ychwanegodd: "Un o'r problemau da' ni wedi'i glywed gan gwmnïau lleol a busnesau sydd isio cychwyn arni ydy fod nhw methu fforddio adeiladu uned ar gyfer eu gweithgareddau nhw.
"Drwy'r cynllun twf y gobaith ydy fydd 'na unedau parod ar gael, ond mae rhywun yn mawr obeithio fod ni o'r diwedd yn gweld y parc yn dechrau llenwi.
"Mae [y parc] wedi'i esgeuluso i bob pwrpas yn fy marn i. Gobeithio mai hyn ydy'r dechrau arni o ran dod â gwaith i Barc Bryn Cegin."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor Gwynedd i ddenu busnesau i'r safle, ac rydym yn trafod gyda nifer o fusnesau ynglŷn â phlotiau unigol.
"Rydym hefyd yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i sicrhau buddsoddiad a chyfleoedd swyddi ar y safle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2022