Cynrychioli Cymru'n un o gystadlaethau tenis mwya'r byd

  • Cyhoeddwyd
AwenFfynhonnell y llun, Tennis Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' fe jyst yn anhygoel bo fi'n cael y cyfle yma," meddai Awen

Mae merch o Gaerdydd yn cymryd rhan yn un o bencampwriaethau tenis mwya'r byd yn Florida, sydd wedi gweld rhai o fawrion y gamp fel Steffi Graf, Monica Seles a Maria Sharapova yn cystadlu yn y gorffennol.

Mae Awen, sy'n 12 oed, yn rhan o gystadleuaeth y Junior Orange Bowl ym Miami.

Mae'r gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal tan 20 Rhagfyr, yn cynnwys 800 o ferched a bechgyn dan 12 a dan 14 o 76 o wledydd gwahanol.

Dywedodd Awen bod hi'n fraint cael chwarae yn erbyn pobl o bob math o wledydd gwahanol.

"Ers oedran ifanc iawn fi wastad wedi eisiau chwarae yn y twrnament yma," meddai.

"Fi'n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y byd a ma' fe jyst yn anhygoel bo fi'n cael y cyfle yma - alla i ddim diolch digon i Mam a Dad."

'Moment rili prowd'

Nid Awen yw'r unig chwaraewr o Gymru sy'n cymryd rhan yn y bencampwriaeth.

"Mae ffrind eitha' agos i fi, Niall, yma hefyd a ma' fe'n cystadlu yng nghystadleuaeth y bechgyn dan 12, felly mae'r ddau ohonon ni'n cynrychioli Cymru," meddai.

Cyn dechrau'r cystadlu fe fu'r ddau yn cymryd rhan mewn gorymdaith yn y ddinas.

"O'n i'n dal baner Cymru yn mynd trwy strydoedd Miami ac oedd e'n brofiad anhygoel bod pawb yn gwybod bo fi'n Gymraes prowd.

"Odd e'n foment rili prowd i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Y nod yw chwarae yn broffesiynol yn y pen draw, er bod Awen yn sylweddoli pa mor anodd gall hynny fod

Mae cyrraedd y Junior Orange Bowl yn benllanw blynyddoedd o baratoi i Awen.

"Dwi wedi bod yn chwarae tenis am eitha' hir nawr," meddai.

"Nes i ddechre pan o'n i'n bedair blwydd oed, ac alla i byth rili dychmygu bywyd heb tenis ar y foment, achos mae fe literally yn bopeth i fi

"Mae llawer o enwogion yn y byd tenis wedi chwarae yn y twrnament 'ma - mae Andy Murray wedi ennill e', a mae fe jyst yn 'neud i fi feddwl alla i fod yn un o'r rheina 'fyd."

Chwarae'n broffesiynol yw'r nod

Y nod yw chwarae yn broffesiynol yn y pendraw, er bod Awen yn sylweddoli pa mor anodd gall hynny fod.

"Dyna'r goal ar hyn o bryd, ond os fi ddim yn cyrraedd yna mae'n fine - does dim lot o bobl yn cyrraedd yna - ond dyna'r goal yn sicr."

A'u gobeithion ar gyfer y gystadleuaeth hon yn Miami?

"I ennill rili! Mae jyst y profiad o fod fan hyn yn anhygoel, ond wrth gwrs y goal yw i ennill y twrnament, ond mae e'n fraint i fod yn Miami nawr."

Pynciau cysylltiedig