Gatland 'ddim am dderbyn unrhyw esgusodion'

  • Cyhoeddwyd
GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland yn gadael clwb y Chiefs yn Seland Newydd ac yn dychwelyd i hyfforddi Cymru

Dywed Warren Gatland ei fod am weithio mewn amgylchedd o "beidio derbyn esgusodion" wrth iddo ddechrau ar ail gyfnod fel hyfforddwr Cymru.

Dywed y dyn o Seland Newydd mai fel yna mae o wedi gweithredu yn y gorffennol a dyna beth mae am ei wneud eto wrth geisio efelychu llwyddiant y cyfnod hwnnw.

O dan ei arweiniad rhwng 2007 a 2019 llwyddodd Cymru i gipio pedwar teitl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, tair Camp Lawn ac fe wnaethon nhw ymddangos ddwywaith yng ngemau cyn-derfynol Cwpan y Byd.

Y tro hwn mae'n etifeddu tîm sydd ond wedi ennill tair o'r 12 gêm o dan y cyn-hyfforddwr Wayne Pivac, gan gynnwys colli i'r Eidal a Georgia.

Bydd Gatland yn gadael clwb y Chiefs yn Seland Newydd i ddychwelyd i hyfforddi Cymru.

"Sut rydych yn creu amgylchedd o beidio derbyn esgusodion?" meddai Gatland.

"Dyna be rwyf wedi ei wneud yn y gorffennol, ac felly pan mae chwaraewyr yn cyrraedd y grŵp mae modd cael y gorau ohonynt.

"Yr her yw gwneud hynny yn yr wythnosau sydd i ddod fel bod chwaraewyr wedi eu cyffroi am wisgo'r crys a rhoi popeth ar y cae o ran perfformiadau a chanlyniadau."