Dringo'r Wyddfa 22 gwaith er cof am Dad

  • Cyhoeddwyd
mike a kenFfynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mike yn fachgen ifanc ar ysgwydda ei dad, Ken. Roedd Ken yn athro celf yn Ysgol y Moelwyn.

Y Nadolig hwn mae hi'n 10 mlynedd ers i Mike Pierce golli ei dad, Ken. Bu farw Ken yn sydyn ac annisgwyl yn dilyn trawiad ar y galon.

Er mwyn codi arian er cof amdano mae Mike, sy'n wreiddiol o Minffordd ger Porthmadog ond bellach yn byw yn Llanrug, wedi penderfynu gwneud sialens arbennig.

Bu farw Ken ar 22 Rhagfyr, ac felly mae Mike wedi penderfynu dringo'r Wyddfa 22 gwaith ym mis Rhagfyr er mwyn hel arian i elusen clefyd y galon.

"'Nath o farw ar 22 Rhagfyr, 2012, felly dyna pam dwi'n gwneud y sialens yn arwain at hynny.

"Nes i ddechrau ar Rhagfyr 1. Mae 'di bod yn oer ac da ni 'di cael gwynt mawr a glaw. Fysa well gen i fynd fyny yn yr eira na glaw! Yn amlwg mae hi'n oer ar y topia' ar y funud ond dwi'n trio peidio aros o gwmpas rhy hir pan dwi fyny 'na."

Disgrifiad,

Mike ar Yr Wyddfa

Mae Mike wedi bod yn cael cwmni wrth gerdded y Wyddfa, gyda ffrindiau a theulu'n ymuno ag ef ar y daith.

"Ers i mi gael pobl yn dod fyny efo fi mae 'di gallu bod yn anodd gwneud o'n gyflym ac aros yn gynnes. Wythnos yma dwi 'di bod yn mynd fyny gyda'r nos ar ôl gwaith, a 'di cal cwmni Twm Morgan sydd 'di rhedeg lot o rasus ultras ag ati."

"Mae fy mrawd i, Steve, wedi bod yn cerdded efo fi, ac hefyd bois o gwaith a fy nai.

"Chwarae teg ma' pawb yn trio helpu a bod yna i fi o ran diogelwch hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mike (ar y chwith) gyda'i frawd, Steve, sydd wedi bod yn ei helpu gyda'r sialens.

Cwblhau y sialens yn saff yw'r nod, gyda'r gobaith o hel gymaint o arian â phosib.

"Fyswn i wedi licio rhoi pwyslais ar amseroedd wrth fynd fyny ond oherwydd bo' fi 'di bod yn ei wneud gyda pobl eraill 'dwi ddim wedi eisiau rhoi pwysau arnyn nhw chwaith. Er enghraifft heddiw es i fyny a lawr mewn pedair awr a hanner, ac mae hynny dros dwbl be 'dwi 'di bod yn gwneud ar ben fy hun.

"Dwi'n ddiolchgar bod nhw 'di dod efo fi, ond o ran eu iechyd nhw o'n i ddim eisiau pwsho nhw - mae wedi bod reit anodd i ddal nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mike gyda'i frawd hynaf, Graham.

Gyda'r tywydd oer mae amodau'r her wedi newid dipyn i Mike ers dechrau ar Rhagfyr 1.

"Mae pethau 'di newid o ran y cerdded ers mi gychwyn - 'nes i gychwyn yn gwisgo shorts, ond wedyn daeth y thermals a'r trowsus allan.

"Dwi'n ddiolchgar i Twm a Steve sydd wedi dod efo fi yn nos, achos dwi ddim yn mountaineer, ac mae'n dipyn o her mynd fyny yn y tywyllwch!"

"Dwi 'di dilyn yr un llwybr o Llanberis bob tro. Efallai os fyswn i'n neud o eto fysa'n neis gwneud llwybrau gwahanol, ond o ran diogelwch ag ati oedd o'n well ei wneud ar yr un llwybr. O ran diogelwch nes i hefyd greu account Strava fel bod pobl yn gallu cadw trac o lle dwi ar y mynydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mike gyda'i wraig, Nia Gwawr.

Dywed Mike bod y mynydd dipyn prysurach tra mae'n cerdded ar y penwythnosau, ond pan mae'n mynd ar ôl gwaith mae'n cael llonydd i gerdded - dim sôn am giwio ar y copa fel mae hi yn ystod tymhorau twristiaeth.

"Pan ti'n mynd fyny yn nos ym mis Rhagfyr ti bia'r mynydd mewn ffordd. Mae'n deimlad od bod yr unig bobl ar y top uwchben pawb arall yng Nghymru gyda'r nos, oedd hynna'n sbeshial. Weithiau awn ni fyny gyda'r nos a gweld neb arall yr holl ffordd fyny a lawr, sy'n neis."

Be bynnag fydd yr amodau a'r tywydd mae gan Mike ddigon o gymhelliad ar gyfer y cerdded: "Oedd Dad yn athro yn Ysgol Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a dwi'n hapus o'r ffaith fod gan llawer o bobl lot o feddwl ohono fo. Roedd o'n foi caredig iawn."

"Dwi isio diolch o waelod calon i bawb sydd wedi fy noddi, ac i fy nheulu a ffrindiau sydd wedi fy nghefnogi, yn enwedig fy ngwraig, Nia - hebddi hi fyswn i ddim 'di gallu gwneud hyn."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig