'Dagrau a llawenydd' wrth i blant Wcráin ddysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Natalia, Danylo a Sofiia o Wcráin wedi dysgu Cymraeg mewn 12 wythnos

Maen nhw gannoedd o filltiroedd o'u cartrefi ac wedi gweld eu bywydau yn newid dros nos oherwydd y rhyfel yn eu mamwlad.

Ond mae grŵp o blant o Wcráin wedi cael croeso twymgalon yn eu cymunedau ar Ynys Môn ac wedi dysgu Cymraeg wrth setlo i'w bywyd newydd.

Mae eu gafael ar yr iaith mewn ychydig wythnosau wedi cael ei ddisgrifio yn "anhygoel".

Gyda'r llawenydd, mae eu siwrne hefyd wedi dod â dagrau wrth i'r plant siarad gyda'u cyd-ddisgyblion am eu teuluoedd 'nôl adre'.

'Wrth fy modd efo Cymraeg'

Ers mis Medi mae Soffia, 8, Natalia, 9, a Danylo, 11, wedi bod yn mynd pob dydd i uned drochi arbenigol yn Ysgol Moelfre.

Yn cael hwyl wrth ddysgu'r iaith, maen nhw hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd ymhlith y disgyblion a'r staff.

Yn ôl Soffia, sy'n dod o Kryvyi Rih - tref enedigol yr Arlywydd Volodymyr Zelensky - mae hi wedi mwynhau pob agwedd o ddysgu Cymraeg.

"Rydw i'n hoffi ysgrifennu, darllen a dipyn bach o ganu," meddai. "Rydw i'n siarad Cymraeg efo ffrindiau yn yr ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Sofiia, Danylo a Natalia 12 wythnos yn yr uned drochi ym Moelfre er mwyn dod yn rhugl yn y Gymraeg

Mae Natalia, sy'n dod o Odesa - dinas sydd wedi gweld peth o'r brwydro mwya' ffyrnig - bellach bron yn rhugl ar ôl dim ond 11 wythnos.

"Rydw i wrth fy modd efo Cymraeg," meddai. "Rydw i'n dysgu anifeiliaid, gwisgo, tywydd, bwyta, ffrwythau.

"Rydw i eisiau dysgu Cymraeg achos mae'n helpu fi."

Mae'n dweud mai ei hoff air Cymraeg ydy "archfarchnad" oherwydd yr ynganiad, sy'n dod â gwen fawr i'w hwyneb.

'Chwarae pêl-droed yn Gymraeg'

Mae Danylo yn dod o bentre' o'r enw Bronytsia, yn rhanbarth Lviv, ac mae'n dweud ei fod yn hoffi siarad Cymraeg efo'i ffrindiau.

"Rydw i'n hoffi chwarae pêl-droed efo ffrindiau a dwi'n gwneud hynny yn Gymraeg," meddai.

Mae gan Ynys Môn bolisi iaith sy'n golygu bod pob un o ysgolion cynradd y sir yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Er mwyn cael mynediad i addysg cyn eu bod nhw'n 11 oed, mae'n rhaid i blant fod yn gallu rhywfaint o'r iaith.

Mae gan yr ynys ddwy uned drochi arbenigol i ddysgu plant sy'n dod i Gymru o wledydd eraill yn gyflym - un ym Moelfre, ble mae'r plant o Wcráin wedi cael eu dysgu, ac un arall yng Nghaergybi.

Unwaith mae eu cwrs 12 wythnos yn yr uned wedi'i gwblhau, mae'r plant yn dychwelyd i'w hysgolion cynradd ac yn gallu parhau gyda'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae gweld y daith mewn 12 wythnos yn anhygoel," meddai Nesta Davies, yr athrawes sy'n arwain yr unedau iaith ym Môn.

"'Sa 'na rywun yn gofyn i fi ddysgu iaith mewn 12 wythnos, fyswn i ddim yn medru.

"Ond mae'r plant bach yma fel sponges, yn amsugno bob un dim."

'Lot o emosiwn'

Mae un arall o'r athrawon, Eira Owen, yn esbonio eu bod nhw'n gwneud gweithgareddau fel chwarae gemau, actio, rapio a chanu er mwyn sicrhau bod y plant yn "llwyddo".

Ond dydy pethau ddim o hyd yn hawdd, ac mae'r dosbarth wedi clywed hanesion trist iawn gan y plant am y sefyllfa yn Wcráin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plant yn mwynhau'r profiad "anhygoel", meddai Eira Owen, ond mae tristwch weithiau hefyd wrth drafod y sefyllfa 'nôl yn Wcráin

"Mae 'na gyfnodau 'da chi'n gweld eu bod nhw'n bell," meddai. "Ond mae gynnon ni'n ffyrdd - mae 'na apiau yn yr oes yma.

"Os 'dan ni wir angen gwybod be' sy'n mynd ymlaen, mae 'na apiau sy'n cyfieithu o'r famiaith i ni fedru dallt yn union be' sy'n mynd ymlaen, ac mae 'na swyddogion lles wrth gwrs sydd yn gweithio'n agos efo ni.

"'Da ni 'di colli dipyn o ddagrau yn ystod y tymor yn clywed hanesion o sut maen nhw 'di ffoi - a fel maen nhw'n sôn am dad, neu gyfnither neu gefnder sy'n dal yn Wcráin, ac am deuluoedd sydd yn nyrsio yno a ballu a sydd 'di methu ffoi.

"Mae 'na lot o emosiwn ynghlwm â'r profiad."

Mae'n ychwanegu bod y teuluoedd yn hynod gefnogol o'r hyn mae'r uned drochi yn ei chyflawni.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Natalia yn gweld eisiau treulio'r Nadolig yn Wcráin eleni

"'Dan ni'n sôn am athrawon, pobl sy' 'di dod o swyddi proffesiynol lle mae addysg yn bwysig iawn i'w plant nhw," meddai.

"'Dan ni'n gwybod wrth gyfathrebu yn ystod y tymor pa mor bwysig a pha mor falch ydyn nhw o'u plant.

"Mae'r swyddogion lles yn galw yn y tai ac maen nhw 'di dotio fel mae'r plant 'ma yn siarad, yn canu ac yn actio, ac eisiau dangos bob dim maen nhw 'di dysgu yma.

"Felly mae'n wych, mae'r holl brofiad yn rhywbeth positif iawn."

Dyfodol unedau trochi

Mae Natalia yn esbonio pam ei bod weithiau'n dawel yn y dosbarth.

"Rydw i'n drist iawn - mae gen i gefnder a chyfnither yn Wcráin," meddai. "Cyfneither fach o'r enw Nastja a chefnder mawr o'r enw Jarosláv.

"Dwi'n drist achos dydw i ddim yn Wcráin dros Nadolig - ond rydw i'n saff yng Nghymru."

Yn ôl Nesta Davies, mae'n nhw'n lwcus ym Môn gan bod yna ganolfannau iaith wedi bod ar yr ynys ers blynyddoedd a'u bod wedi gallu manteisio ar gyfleon grantiau yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nesta Davies yn galw am fwy o sefydlogrwydd ariannol i unedau trochi fel y rhai ar Ynys Môn

Ond mae hi'n galw am fwy o sefydlogrwydd ariannol i unedau trochi ar draws Cymru.

"Wrth gwrs, mae grantiau yn wych ond amser penodol ydy grant hefyd," meddai.

"Mi fyddai'n braf os fasa'r llywodraeth yn pennu mwy o arian yn rheolaidd yn hytrach na bod ni'n mynd o ddwy flynedd i ddwy flynedd yn ddibynnol ar grantiau."

'Cyllid ar gael'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "dal i fod yn benderfynol ynghylch cyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".

"Rydym yn parhau i fuddsoddi yn yr iaith Gymraeg, ac mae hynny'n cynnwys ymrwymiad gwerth £6.6m i ddarpariaeth trochi yn y Gymraeg tan ddiwedd tymor hwn y Senedd," meddai.

Ychwanegodd bod y "dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru" ac mai'r "awdurdodau lleol sy'n penderfynu sut i ddefnyddio'r cyllid sydd wedi'i neilltuo iddyn nhw".

"Mae Cyngor Ynys Môn wedi cael £310,000 i barhau i ariannu eu darpariaeth trochi hwyr dros y dair blynedd nesaf," meddai.

"A bydd y cyllid hwnnw'n talu am ddau athro trochi hwyr arbenigol."