Ehangu cymorth trochi yn y Gymraeg ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y cynllun trochi ar gyfer disgyblion sy'n ymuno ag addysg Gymraeg yn hwyr yn ehangu ledled Cymru.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd wyth o siroedd yn cynnig y ddarpariaeth am y tro cyntaf.
Bydd y buddsoddiad o £2.2m hefyd yn cefnogi dysgwyr a allai fod wedi colli amser dysgu hanfodol neu rai o'u sgiliau iaith yn ystod y pandemig.
Mae'r cynllun yn cael ei weithredu ar y cyd ag awdurdodau lleol.
Mae darpariaeth trochi hwyr yn helpu dysgwyr sy'n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach a disgyblion nad oedd y Gymraeg yn rhan o'u bywyd bob dydd.
'Cyfleoedd da'
Fe agorodd uned trochi Ysgol Gwent Is Coed ym mis Medi. Cyn hynny roedd disgyblion yn teithio i Gaerdydd i gael eu trochi yn yr iaith.
Un a wnaeth hynny yw Salman - mae ef bellach yn 16 oed a newydd ddechrau yn y chweched dosbarth.
"Mae'r naid o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn anodd beth bynnag ac mae ychwanegu iaith hollol newydd yn heriol iawn ond dwi'n gwerthfawrogi y ffaith bo' fi wedi cael aros ac wedi mynd trwy'r adeg yna achos mae cyfleoedd dwi'n cael nawr o'r gymuned Cymraeg yn arbennig o dda."
Rhiannon England yw athrawes cefnogi iaith Ysgol Gwent Is Coed a dywed bod sawl rheswm pam bod rhieni yn dewis i'w plant gael addysg Gymraeg.
"Er nad oedd eu plant wedi dechrau eu haddysg drwy gyfrwng yr iaith mae pobl yn newid oherwydd doedden nhw ddim yn ymwybodol fod 'na system Gymraeg, doedden nhw ddim yn gwybod bod nhw yn gallu symud eu plant nhw ac maen nhw'n gweld yr ysgol yn llwyddiannus," meddai.
"'Dan ni yn ysgol agos iawn gyda chymuned arbennig - ac felly maen nhw'n gweld hynny ac eisiau hynny i'w plant ac eisiau iddyn nhw fod yn ddwyieithog."
O ran y broses dywed mai mater o fagu hyder yw hi.
"Pan mae'r disgyblion yn cyrraedd blwyddyn 7, maen nhw'n treulio'r rhan fwyaf o amser gyda fi yn y dosbarth lle 'dan ni ddim ond yn dysgu Cymraeg.
"'Dan ni'n chwarae gemau, 'neud lot o ganu ac actio fel bo nhw'n clywed cymaint o Gymraeg ag sy'n bosibl.
"Maen nhw yn mynd i wersi addysg gorfforol a Saesneg fel bo nhw'n dechrau gwneud y cysylltiadau newydd yna ond fel arall mae nhw fan hyn gyda fi lle 'dan ni'n dysgu pob math o bethau drwy weithgareddau traws-gwricwlaidd.
"Mae'r ddealltwriaeth yn dod yn llawer cynt na'r llafar.
"O fynd o ddeall mae nhw'n adeiladu brawddegau. Mater o fagu hyder yw hi o fan hyn ymlaen dwi'n meddwl a deall eu bod nhw yn gallu siarad Cymraeg, bo nhw yn gallu byw yn y Gymraeg - dim dim ond astudio'r Gymraeg."
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd ehangu'r rhaglen drochi yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac o gynyddu'r defnydd a wneir o'n hiaith bob dydd.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd, a dw i wedi ymrwymo i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni amcanion strategaeth 'Cymraeg 2050' ac i helpu mwy ohonom i ddysgu a defnyddio ein hiaith.
"Mae'r ceisiadau a ddaeth i law gan awdurdodau lleol ledled Cymru am gymorth trochi hwyr yn dangos gwir frwdfrydedd dros ehangu'r rhaglen hon.
"Dwi wrth fy modd â'r ymrwymiad gwirioneddol ym mhob cwr o'r wlad i gefnogi ein dysgwyr i ymuno ag addysg Gymraeg, hyd yn oed os yw hynny'n digwydd yn ddiweddarach, a'u helpu i ddatblygu sgiliau byw dwyieithog."
Yr wyth sir a fydd yn cynnig darpariaeth trochi hwyr newydd am y tro cyntaf yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Torfaen, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Powys, a Bro Morgannwg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021