Page: 'Defnyddio siom Qatar i gyrraedd mwy o dwrnamentau'

  • Cyhoeddwyd
Robert PageFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rheolwr Cymru, Rob Page wedi dweud bod angen defnyddio'r "boen" a'r "siom" yng Nghwpan y Byd i sicrhau bod y tîm yn parhau i gyrraedd twrnamentau rhyngwladol.

Fe gyrraeddodd Cymru Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 eleni, ond roedd eu perfformiadau yn Qatar yn siomedig.

"Wnaethon ni ddim cyrraedd y disgwyliadau... a dyna pam mae e wedi cymryd mor hir i fi siarad, mae'n brifo," meddai Page yn ei gyfweliad cyntaf ers dychwelyd.

Ond fe gadarnhaodd y rheolwr ei fod yn disgwyl i Gareth Bale ac Aaron Ramsey barhau i chwarae rhan allweddol yn y garfan.

'Cymryd cyfrifoldeb'

Fe gyfaddefodd Page fod ganddo "emosiynau cymysg" wedi i'w dîm adael y gystadleuaeth heb ennill gêm, a sgorio dim ond un gôl.

"Dwi'n falch o fod wedi cyrraedd ac eisiau diolch i'r holl gefnogwyr wnaeth yr ymdrech i fynd, ond mae gen i siom hefyd," meddai.

"Edrych pa mor bell 'dyn ni wedi dod. Rhaid adeiladu ar hynny nawr. Mae'n rhaid dysgu o beth wnaethon ni yn Qatar ac adeiladu at y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robert Page gyda'i ben yn ei ddwylo yn ystod colled Cymru o 3-0 yn erbyn Lloegr

"Roedd e just yn teimlo fel bod ni'n hapus i fod yna, ac fel grŵp byddwn ni'n edrych ar hwnna wrth i ni symud ymlaen.

"Wnaethon ni ddim cyrraedd y lefelau 'dyn ni'n gwybod allwn ni, sy'n siom. Rydw i'n cymryd cyfrifoldeb llawn am hynny."

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney eisoes wedi mynegi "ffydd lawn" yn Page, wrth i ymgyrch Cymru i gyrraedd Euro 2024 ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Ar ôl cael ei benodi fel olynydd Ryan Giggs - dros dro i ddechrau - fe sicrhaodd Page ddyrchafiad i Adran A Cynghrair y Cenhedloedd am y tro cyntaf erioed, cyn cyrraedd rownd 16 olaf Euro 2020 ac yna sicrhau lle Cymru yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd.

Ond eleni fe orffennodd Cymru ar waelod eu grŵp yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd, cyn colli i Iran a Lloegr yng Nghwpan y Byd yn dilyn y gêm gyfartal agoriadol yn erbyn yr UDA.

'Angen gwaed newydd'

Cyn Cwpan y Byd fe arwyddodd Page gytundeb newydd nes 2026, a bydd nawr yn ceisio dysgu'r gwersi o Qatar ar gyfer yr ymgyrchoedd i ddod.

"Wrth gwrs bod gwersi i'w dysgu, allen ni fod wedi mynd gyda mwy o goesau ffres o'r dechrau? Mae'n hawdd dweud hynny nawr wrth edrych yn ôl," meddai.

"Mae'n rhaid cael y grŵp nesaf o chwaraewyr i ddod drwyddo nawr. Fe welson ni athletiaeth rhai o'r timau yng Nghwpan y Byd, a dyna beth sydd ei angen arnom ni i'n cadw ni ar y lefel yna.

"Mae angen egni a chyflymder yn y tîm. Rydyn ni eisoes yn y broses o wneud beth sydd ei angen er mwyn ein gwneud ni'n gystadleuol.

"Rydyn ni'n gwybod fod angen gwaed newydd, ffres yn yr ystafell newid, a bydd newidiadau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Aaron Ramsey na Gareth Bale ar eu gorau yn Qatar, a'r ddau heb chwarae'n rheolaidd i'w clybiau cyn hynny chwaith

Ond dyw hynny ddim yn golygu diwedd gyrfaoedd rhyngwladol Bale, 33, a Ramsey, 31.

Mae Bale, sydd bellach wedi ennill mwy o gapiau a sgorio mwy o goliau nag unrhyw un yn hanes y tîm, eisoes wedi dweud y bydd yn parhau i chwarae "mor hir ag y gallai".

"Pan chi'n siarad am y chwaraewyr hŷn, pobl fel Aaron [Ramsey], Gareth [Bale] a Joe [Allen], mae ganddyn nhw dal ran enfawr i ni wrth symud ymlaen," meddai Page.

"Falle byddwn ni'n defnyddio nhw mewn ffordd ychydig yn wahanol, ond mae ganddyn nhw dal ran enfawr i'w chwarae dros bêl-droed Cymru."