'Ges i wybod bod angen colli pwysau er mwyn beichiogi'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sydd wedi bod yn ceisio beichiogi am dros ddwy flynedd yn dweud bod meddyg wedi dweud wrthi am adael clinig ffrwythlondeb a pheidio dychwelyd tan iddi golli pwysau.
Yn ôl Rachel Rowlands chafodd hi ddim cymorth na chyngor ynglŷn â'r ffordd orau i ostwng mynegai màs ei chorff (BMI).
Fe wnaeth y profiad, medd y fenyw 33 oed o Ffos y Gerddinen ger Caerffili, ei dryllio'n llwyr.
Dywed Llywodraeth Cymru y dylai pob gweithiwr iechyd gefnogi teuluoedd sy'n dygymod â phroblemau ffrwythlondeb.
Mae Rachel Rowlands yn derbyn fod rhaid iddi golli pwysau cyn cychwyn ar driniaeth ffrwythlondeb, ond dywedodd bod angen cymorth a chyngor arni i ddelio gyda'i phroblemau iechyd hir dymor - cyflyrau sy'n gwneud hi'n anodd iddi golli pwysau.
Mae'r darlithydd prifysgol yn gwisgo dillad maint 16-18 ac mae'n dioddef o lid y famog, neu endometriosis yn ogystal â chyflwr poen pelfig cronig.
Fe gafodd ei chyfeirio at glinig ffrwythlondeb ar ôl methu beichiogi'n naturiol.
Ar ôl clywed fod ei BMI yn 36, mae Ms Rowlands yn siomedig am y ffordd y gwnaeth staff y clinig siarad gyda hi.
Mae'n cofio cerdded mewn i ystafell i weld doctor, a chyn iddi hyd yn oed eistedd i lawr mae'n honni i'r meddyg ddweud wrthi "rhaid i chi golli pwysau, ry'ch chi dros eich pwysau a'r peth cynta' sydd rhaid i chi wneud yw mynd adre' a cholli pwysau, ac wedyn dod nôl atom".
'Angen cymorth arbenigol'
Mae canllawiau NICE yn dweud y dylai menywod gael gwybod gan feddygon y dylai eu BMI delfrydol fod rhwng 10 a 30 cyn dechrau ar driniaeth ffrwythlondeb, gan fod ffigwr is neu uwch yn lleihau'r siawns o lwyddiant.
Yn ôl Dr Sean Watermeyer, obstetregydd ymgynghorol a gynaecolegydd, os yw menyw â BMI o fwy na 30 yn beichiogi mae siawns uwch iddi naill ai golli'r babi, i'r babi gael ei eni'n farw neu i'r babi gael ei eni gydag annormaledd cynhenid (congenital abnormailities).
Mae ymgyrchwyr yn dadlau y dylai cleifion gael gwybod lle i gael cymorth arbenigol oherwydd bod "menywod sy'n anobeithio yn medru gwneud penderfyniadau gwael".
"Chefais i ddim cynnig unrhyw fath o gymorth proffesiynol neu gyngor," meddai Rachel Rowlands.
"Dwi yn gwybod sut i golli pwysau, ond mae problemau pwysau yn dibynnu ar sawl ffactor, a dyw e ddim mor syml â mynd i ffwrdd a bwyta llai o fwyd, neu wneud mwy o ymarfer corff.
"Mae 'na sawl peth sydd yn effeithio ar bwysau rhywun, ac mae angen edrych ar rheiny hefyd."
Yn y cyfamser mae Ms Rowlands wedi cael diagnosis o anhwylder bwyta.
"Dwi eisiau i nyrsys a doctoriaid feddwl yn galed am y ffordd maen nhw'n delio gyda materion rheoli pwysau gyda phobl sy'n cael trafferthion ffrwythlondeb, ac i ddelio gyda'r bobl yma mewn ffordd fwy caredig," meddai.
Mae'r elusen Triniaeth Deg i Fenywod yn credu nad yw profiad Ms Rowlands yn un unigryw.
'Gofal wedi'i deilwria i'r unigolyn'
"Yn aml mae yna dybiaethau pan fod gan fenyw gorff mawr," meddai Dee Montague-Coast o'r elusen.
"O be' da' ni'n glywed gan ein haelodau maen nhw yn aml iawn yn byw gyda chyflyrau cymhleth a chronig sydd yn cael effaith fawr ar eu lefelau egni, eu gallu i ymarfer corff yn ogystal â'u gallu i fwyta yn dda.
"Mae menywod sy'n anobeithio yn medru gwneud penderfyniadau gwael.
"Maen nhw yn mynd ar ddeiets sydyn, yn gwneud gormod o ymarfer corff ac fe all hyn fod yn niweidiol i'w hiechyd, felly beth sydd ei angen yw gofal sydd wedi ei deilwria i'r unigolyn."
Mae'r elusen yn awgrymu y dylai cleifion gael eu harwain at gymorth iechyd meddwl pan fo'i angen, a chael eu cyfeirio at gynlluniau bwyta'n iach ac ymarfer corff.
Yn y flwyddyn newydd bydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn lansio gwasanaeth rheoli pwysau i gleifion.
Nid yn ardal Cwm Taf Morgannwg y cafodd Rachel Rowlands ei thrin.
Mae Dr Sean Watyermeyer wedi "cyffroi" o glywed y bydd yna wasanaeth ar gael iddo gyfeirio cleifion ato.
"Mae ganddon ni feddyg yno all gynghori, sydd â phrofiad yn y maes, ac mae ganddon ni seicolegydd - patrymau ymddygiad yn aml sydd angen eu newid ymhlith y cleifion yma sydd eisiau colli BMI."
Ychwanegodd fod ffisiotherapydd a dietegydd hefyd yn rhan o'r gwasanaeth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru y nod yw creu Cymru hafal lle bo unrhyw un sydd eisiau magu teulu yn medru cael y cymorth clinigol sydd ei angen i wireddu'r freuddwyd honno.
Dywedodd llefarydd: "Dylai pob clinigwr gefnogi teuluoedd sydd â phroblemau ffrwythlondeb, a'u cyfeirio tuag at gymorth arbenigol pan fo hynny'n addas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2020