Galw am gefnogi siopau lleol ar drothwy'r Nadolig
- Cyhoeddwyd
Gyda dyddiau'n unig tan y Nadolig mae arweinwyr siopau bach Cymru yn galw ar gwsmeriaid i gefnogi lle bo modd.
Mae ffigyrau'n dangos bod nifer y bobl sydd wedi bod yn y siopau ar y stryd fawr wedi gostwng dros 12% o'i gymharu â 2019, cyn y pandemig, wrth i gostau byw gynyddu.
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi croesawu cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â threthi busnes.
Ond mae 96% o fusnesau Cymru a holwyd yn parhau i ddweud eu bod yn poeni am gostau ynni, gyda rhai yn dweud bod streiciau diweddar hefyd i weld yn cael effaith.
'Electrig wedi mynd fyny'
Wrth ymweld â Phorthmadog yn ystod misoedd yr haf mae'r siopau a'r strydoedd yn aml yn orlawn.
Ond ychydig ddyddiau cyn y Nadolig eleni mae perchnogion busnes yn dweud bod y cyfnod yn wahanol i flwyddyn ynghynt.
Mae siop Paula Lesley, Toy Bocs Teganau, ar y stryd fawr yn lliwgar ac yn llawn teganau i blant.
"Mae electrig ni... mae o 'di mynd fyny deirgwaith i be' oedd o flwyddyn ddiwethaf felly ti'n gwatshad pan ti'n rhoi heater mlaen... mae bob dim yn adio," meddai.
"Does 'na'm gymaint yn dod mewn, ond pan ma' nhw yn, ma' nhw'n gwario, ond dwi'n meddwl fod lot yn siopa ar-lein.
"Mae'r siopau mawr yn tynnu prisiau i lawr cyn y Nadolig a ma'n cael effaith ar siopau bach fel ni."
Yn ôl Ms Lesley mae'n anodd i "siop fach ym Mhorthmadog" allu cystadlu gyda phrisiau tebyg.
Streic yn cael effaith
Wrth bwyntio at focs ar lawr y siop, mae'n dweud bod y streiciau diweddar wedi golygu oedi hir am stoc hefyd.
"Mae 'di bod yn ofnadwy, 'dwi di archebu 'hein gan y cwmni ers pythefnos," meddai.
"Fel arfer 'sa chi'n ordro fo a 'sa fo yma'r diwrnod wedyn ond ma' hwn di bod yn bythefnos.
"Saith parsel - ddoth un, wedyn streic, yna ddoth pum bocs arall ac wedyn heddiw ma' hwn yn dod. Mae o gyd yn cael effaith."
Mae arweinwyr y sector wedi disgrifio'r sefyllfa fel y storm berffaith gyda chyfuniad o dywydd gwael, costau byw a streicio yn cael effaith ar faint o gwsmeriaid sy'n mentro siopa'n lleol cyn y Nadolig.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos fod 'na ostyngiad o 12.4% yn y nifer fu'n siopa ar y stryd fawr yng Nghymru'r wythnos ddiwethaf o'i gymharu â 2019.
Yn ôl y data roedd y niferoedd 2.8% yn llai na'r llynedd.
Ar draws y ffordd i Toy Bocs Teganau mae Isabella Elliot Jones-Morris yn rheoli siop goffi a nwyddau Pendragon Cafe Emporium a agorodd tua diwedd yr haf.
"Mae pobl yn dod mewn ond mae pobl yn gwneud eu siopau Nadolig yn gynt y flwyddyn yma - yr wythnos ddiwethaf mae 'di bod yn dawel iawn," meddai.
"Mae 'di bod yn gyfnod interesting to say the least.
"Mae 'di bod yn anodd gweld y prisiau yn mynd i fyny a thrio cadw nhw'r un fath i'r cwsmer."
Ychwanegodd fod nifer o gwsmeriaid yn siopa yn wahanol eleni, yn "safio pres a budgetio", sy'n gwneud cynllunio yn anodd.
"Mae pobl yn ofalus o beth maen nhw'n cael a faint ydy o, a ma'n anodd i ni wybod pryd mae am fod yn brysur."
Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru fod arolwg diweddar yn dweud fod hyder busnesau ar ei isaf erioed, ar wahân i gyfnodau clo y pandemig.
"Mae 89% o fusnesau yn adrodd fod cost gwneud busnes wedi cynyddu," meddai'r corff.
"Mae 96% o fusnesau yn poeni am gostau byw gyda 44% yn dweud bod eu prisiau unai wedi dyblu neu dreblu."
Croeso i gymorth treth
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorth ychwanegol i dreth busnesau Cymru ac fe gafodd hynny ei groesawu ar draws y sector.
Tra bod chwyddiant wedi gostwng ychydig, mae cwsmeriaid yn dal i ddweud bod y cynnydd mewn costau yn gallu gwneud cefnogi busnesau lleol yn anodd.
Ar stryd fawr Porthmadog roedd nifer yn dweud ei bod hi'n bwysig cefnogi'n lleol, wrth gydnabod ei bod hi'n anodd mewn cyfnod mor heriol.
Fe ddywedodd un siopwr wrth BBC Cymru Fyw ei bod hi'n "bwysig cefnogi busnesau lleol", ond yn ei dagrau dywedodd fod yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol yn ddigalon ac yn "sobor o anodd" i bobl ifanc.
Wrth i fusnesau bach ledled Cymru edrych tuag at 2023, mae nifer yn dweud eu bod yn edrych ymlaen ond hefyd yn bryderus, gan bwysleisio pwysigrwydd cefnogi busnesau bach Cymru dros y Nadolig os oes modd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022