Galw i ddiogelu ffyrdd Corwen wedi damwain ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alwadau i wella diogelwch ffyrdd mewn tref yn Sir Ddinbych ar ôl damwain ddifrifol yno ddechrau'r mis.
Fe darodd nifer o geir i mewn i adeilad ger sgwâr y dref yng Nghorwen, oriau'n unig ar ôl i bobl a phlant fod yn canu carolau yno.
Mae gwleidyddion lleol am i gamerâu cyflymder ac arwyddion amlycach gael eu gosod i geir a lorïau sy'n teithio trwy ganol y dref ar hyd priffordd yr A5.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n monitro'r sefyllfa ac y gallai mesurau pellach gael eu cyflwyno os oes angen.
Tarodd car i mewn i gerbyd arall a safle bws ar nos Sadwrn, 3 Rhagfyr.
Cafodd y cerbyd arall ei wthio gymaint nes iddo daro yn erbyn siop ger y sgwâr.
Doedd 'na ddim anafiadau difrifol, ond ychydig oriau'n gynharach, roedd y sgwâr yn llawn pobl a phlant yn canu carolau.
Mae'r cynghorydd sir lleol, Gwyneth Ellis, yn cefnogi galwad Cyngor Tref Corwen am gamerâu cyflymder.
"Mae pobl sy'n byw yng nghanol Corwen, mae rhywbeth fel 'na yn tynnu sylw at y peth, ond maen nhw'n byw efo traffig trwm yn gyson," meddai.
"'Den ni ar yr A5 yn fan hyn, sef un o briffyrdd y gogledd ac mae pobl yn gyrru, yn enwedig yn y nos, pan mae'n dawelach.
"Mae pobl yn dueddol o anwybyddu'r cyflymder o 30 milltir yr awr maen nhw i fod i'w wneud trwy'r canol."
Cyflymder o 20 milltir yr awr fyddai'n "ddelfrydol" dywedodd.
"Strydoedd cul, ceir yn parcio ar ddwy ochr y lôn, pobl yn croesi'r stryd i'r siopau ac yn y blaen... yn sicr mae isio stopio pobl rhag goryrru yma."
Un arall sy'n cefnogi galwad y Cyngor Tref ydy'r aelod lleol o'r Senedd, Ken Skates A.S.
"Mae 'na drafferthion wedi bod yng Nghorwen ers peth amser," dywedodd.
"Ond yr hyn dwi'n weld yn ddiweddar ydy bod pobl wedi dod yn fwy pryderus y bydd digwyddiad difrifol.
"Mae pobl yn gofyn 'Ai mater o "pryd", nid "os", ydy hyn?' A dyna sy'n fy mhryderu i - ein bod ni'n gwybod y gallai rhywbeth difrifol iawn ddigwydd oni bai bod 'na weithredu."
Dywedodd bod angen "rheoli cyflymder a gwell mesurau diogelwch mor fuan â phosib."
'Mesurau ychwanegol os oes angen'
Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, fe aeth tîm argyfwng i Gorwen ar noson 3 Rhagfyr yn dilyn y ddamwain.
"Fe wnaeth y tîm yr ardal yn ddiogel gan osod rhwystrau o amgylch yr arhosfan bws," dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor.
"Cafodd yr ardal ei glanhau ymhellach ar 9 Rhagfyr.
"Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio atgyweirio'r ardal yn dilyn difrod."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i fonitro cofnodion yr heddlu o wrthdrawiadau ar y rhan hon o gefnffordd yr A5 a allai roi mesurau ychwanegol ar waith os oes angen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018