Y Senedd o blaid gostwng cyflymder gyrru i 20mya erbyn Medi 2023

  • Cyhoeddwyd
arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Senedd wedi pasio deddf newydd i ostwng cyfyngiadau cyflymder mewn ardaloedd adeiledig o 30mya i 20mya yng Nghymru.

Cafodd ei gefnogi gyda 39 pleidlais o blaid, 15 yn erbyn yn Senedd Cymru nos Fawrth.

Cefnogwyd y gyfraith gan Lafur a Phlaid Cymru ond fe'i gwrthwynebwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywed gweinidogion y bydd y newidiadau y flwyddyn nesaf yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau mewn ardaloedd preswyl a chwtogi ar sŵn traffig.

Ond mewn ardaloedd lle mae cynlluniau peilot eisoes wedi eu cynnal, mae rhai gyrwyr wedi dweud eu bod yn anhapus gyda'r bwriad.

Maen nhw'n dadlau y bydd yn arwain at fwy o dagfeydd a siwrnai hirach.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno deddf o'r fath - ac mae disgwyl i'r Alban gyflwyno rheolau tebyg yn 2025.

Mae'r data diweddaraf gan yr heddlu yn dangos fod hanner y 5,570 o bobl gafodd eu hanafu mewn gwrthdrawiadau yng Nghymru wedi digwydd ar ffyrdd lle'r oedd yna gyfyngiad o 30mya.

Mewn dros 40% o'r gwrthdrawiadau hyn, cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol.

Dywed ymgyrchwyr fod rhywun sy'n cael ei daro gan gar yn gyrru ar 20mya yn hytrach na 30mya hyd at saith gwaith yn fwy tebygol o oroesi.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rydym yn gwybod fod parthau 20mya yn lleihau damweiniau yn enwedig damweiniau gyda phlant."

Nawr bod y mesur wedi cael ei gymeradwyo, fe fydd y cyfyngiadau newydd o 20mya - ar gost o £33m - yn dod i rym ym Medi 2023.

Honnai Llywodraeth Cymru y bydd newidiadau yn gwella diogelwch ar y ffyrdd gan arwain at arbedion o £58m i'r gwasanaeth iechyd. Bydd hyn oherwydd y byddai llai o alw ar gymorth brys a thriniaeth ysbyty.

Ond mewn ymgynghoriad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, roedd mwy o bobl yn gwrthwynebu'r newid nag oedd o'i blaid.

Un o'r rhai sy'n gwrthwynebu yw Adie Drury o Fwcle yn Sir Y Fflint. Fe wnaeth hi gasglu deiseb gyda mwy na 12,500 o lofnodion yn gwrthwynebu ar ôl cynllun peilot yn y gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Adie Drury gasglu dros 12,500 o enwau yn gwrthwynebu'r cynllun

"Does gan bobl ddim problem gyda chyfyngiadau o 20mya lle mae'n angenrheidiol a lle mae'n ddiogel fel y tu allan i ysgolion, canolfannau iechyd a stadau tai," meddai.

"Cefais fy magu ar stad gan chwarae pêl-droed yn y ffordd pan oeddwn i'n blentyn, ac mae'n dda o beth i weld y gymuned yn gallu ei ddefnyddio [y ffordd] - ond mae'n rhaid i hyn fod pan yn briodol."

Byddai'r cyfyngiadau o 20mya ar gyfer ffyrdd sydd eisoes â chyfyngiadau, mewn ardaloedd preswyl, lle mae goleuadau stryd lai na 200 llath ar wahân.

Gallai unrhyw un sy'n goryrru wynebu dirwy o o leiaf £100 gan dderbyn tri phwynt ar eu trwydded.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rob Mackey y bydd pobl yn elwa ac ei bod yn amhosib plesio pawb

Rob Mackay yw cadeirydd y clwb rhedeg lleol ym Mwcle ac mae ef o'r farn y byddai'r cyfyngiad o 20mya yn buddio'r gymuned.

"Byddai'n well ar gyfer rhedwyr, y rhai sy'n cerdded, pobl â chŵn a seiclwyr," meddai.

"Os ydych yn byw ar stryd, yr arafach mae traffig yn gyrru heibio eich tŷ yna mae'n well ar gyfer yr amgylchedd.

"Mae'n rhannol yn ymwneud ag ansawdd yr aer ond hefyd llygredd sain. Mae llawer mwy dyrys na dim ond traffig yn arafu a thagfeydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynlluniau peilot eu cynnal yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a siroedd Caerfyrddin, Penfro a'r Fflint

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd hefyd yn ceisio hybu teithio cynaliadwy - fel seiclo neu gerdded - ar ôl i Gymru gyhoeddi argyfwng hinsawdd yn 2019 - gyda'r nod o fod yn garbon sero erbyn 2050.

"Byddan nhw'n hoffi i ni roi'r gorau i ddefnyddio ceir... ond dyw'r is adeiladwaith ddim yma i wneud hynny," meddai Adie.

"Mae'r diwydiannau yn y dinasoedd a threfi mawrion a dyna le mae'n rhaid teithio, gallwch chi ddim teithio 15 neu 20 milltir bob ffordd ar feic pan mae'n rhaid mynd â'r plant i'r ysgol.

"Mewn llefydd gwledig dyw hynny ddim yn bosib, ac mae angen cydnabod hynny.

"Ein neges i'r llywodraeth cyn iddynt geisio hyn ar dref arall yw i wella'r is adeiladwaith ac i gynnwys y gymuned.

"Rhowch i ni lwybrau seiclo yn gyntaf, fel bod yna ddewis arall i'r car."

'Ydy hyn yn ddefnydd da o arian?'

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod na fydd y cyfyngiadau o 20mya yn addas ar gyfer bob man, ac mae modd i awdurdodau lleol ganiatáu eithriadau - heblaw am y tu allan i ysgolion.

"Rydym yn unedig yn ein barn y bydd y newid yma yn lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a'u difrifoldeb, tra'n creu mwy o gyfleoedd i gerdded a seiclo yn ein cymuned," meddai Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth."

Yn ôl y Ceidwadwyr does ganddynt ddim gwrthwynebiad i osod cyfyngiadau cyflymder o 20mya y tu allan i ysgolion, meysydd chwarae, llefydd addoli a'r stryd fawr, ond fod y cynllun dan sylw yn rhy eang ac anhyblyg.

Dywedodd llefarydd y blaid ar drafnidiaeth Natasha Asghar AS: "Gyda chost o £32m, ydy hyn yn ddefnydd da o arian pan ddylai'r Llywodraeth Lafur fod yn ffocysu ar y materion pwysig fel costau byw?

"Dylai cyfyngiadau o'r fath gael eu penderfynu gan gynghorau yn lleol, nid gorchymyn gan weinidogion Llafur. Mae angen rho'r grym i bobl dros eu cymunedau, y bobl sy'n nabod eu ffyrdd orau."