'Up the Town' - portread o gefnogwyr pêl-droed Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Jan Robinson, 61. "Dechreuais wylio Wrecsam yn 8 oed. Oni'n mynd gyda fy nhad a fy mrodyr ac roedden ni gyd yn arfer sefyll yn y KOP. Mae gallu cadw atgofion o ban roeddwn yn arfer dod gyda fy nhad yn rhywbeth gwerthfawr... maen nhw'n ddyddiau nad ydych yn anghofio."
Wrth weld y newyddion y byddai cynghrair 'Super League' newydd yn cael ei gyflwyno yn y byd pêl-droed llynedd, penderfynodd y ffotograffydd Carwyn Rhys Jones fod angen rhoi llais i gefnogwyr ei glwb lleol.
Mi fyddai'r gynghrair newydd wedi gweld y gêm yn cael ei drawsnewid yn aruthrol gan roi platfform ar wahân i'r timau cefnog gan ddiystyru'r timau llai.
Ond wrth i gefnogwyr ar draws y byd wneud safiad yn ei erbyn, atgyfnerthwyd y ffaith mai'r bobl sydd yn berchen ar bêl-droed mewn gwirionedd.
Mae hyn yn wir am dref Wrecsam, a thrwy brosiect 'Up the Town' gan Carwyn Rhys Jones o Landwrog cawn ddod i ddeall pwysigrwydd clwb pêl-droed i gymuned.

Mannie Thomas, 15. "Fy mrawd, Will, oedd y drymiwr o'm blaen ac ar un adeg wnaeth o adael i mi roi cynnig arni. Roedd fy ngêm gyntaf yn erbyn Dagenham & Redbridge ar 14/4/2018. Ers hynny, wedi bod yn cefnogi'r bechgyn cymaint â phosib."
'Perthyn i'r cefnogwyr'
"Nes i gael y syniad ar ôl gweld y syniad o'r Super League 'ma ar y newyddion. Nes i sylwi faint o outrage oedd yna," meddai Carwyn Rhys Jones, oedd yn byw yn Wrecsam ar y pryd.
"Yn fy marn i mae pêl-droed yn perthyn i'r cefnogwyr. Dydi pêl-droed ddim yn bodoli heb gefnogwyr. Nes i feddwl... maen nhw yn haeddu deud eu stori nhw.
"Dwi wedi dysgu pa mor bwysig ydi pêl-droed i bobl. Yn amlwg mae cefnogwyr yn cefnogi tîm, ond mae o yn fwy na jest hynna."

Martin Davies, 56. "Wrecsam fydd fy nghalon a fy nghartref bob amser. Roedd y Kop wirioneddol yn ail gartref i lawer ohonom ni gefnogwyr hŷn."
Un person waeth Carwyn ei gyfarfod oedd cefnogwr o'r enw Dean Chadwick ac mae ei stori yn dweud cyfrolau am gryfder cymunedol pêl-droed.
"Blynyddoedd yn ôl roedd o'n ddigartref a'r unig ffordd wnaeth o gael oddi ar y stryd oedd wrth werthu Big Issue yn y dref," meddai Carwyn. "Ond roedd cefnogwyr bob tro yn rhoi £10 ychwanegol iddo fo er mwyn cael o yn ôl ar ei draed.
"Ddudodd o mai'r unig beth oedd yn stopio fo fynd i yfed neu gymryd cyffuriau oedd cefnogwyr yn prynu ticed pêl-droed iddo. Erbyn rŵan mae ganddo fo'i fusnes ei hun, tŷ ei hun, ac mae o wedi sortio ei fywyd.
"Oni'n meddwl, waw, mae pethau yn ddyfnach na jest pêl-droed yn fa'ma - mae 'na gymdeithas reit gryf yn Wrecsam ac maen nhw yn helpu ei gilydd a mond isio'r gorau i'r dref."

Dean Chadwick, 34. "Y Clwb a'r gemau sydd yn dod gyntaf yn fy mywyd. Dw'i wedi teithio i lefydd gwallgof i wneud yn siŵr mod i ddim yn methu gêm. Fe wnes i hyd yn oed archebu ein gwesty ar gyfer ein noson briodas i fod yn union drws nesaf i faes AFC Wimbledon ar gyfer gêm y noson honno!"
Drwy'r prosiect mae Carwyn wedi dod i ddeall y trawsdoriad sydd yn bodoli ymhlith y cefnogwyr o ran eu hoed a rhyw ac mae eu straeon yn creu darlun o glwb sy'n galon cymuned.
"Mae un o'r bobl yn 98 oed, sef ffan hynaf Wrecsam, Arthur Macey. Mae ganddo fo fricsan tu allan i gae Wrecsam ac mae 'na dair cenhedlaeth yn ei deulu sydd wedi bod yn cefnogi'r clwb," meddai Carwyn.

Arthur Massey, 98. "Es i i fy gem gyntaf yn 1931. Fedra' i ddim cofio pwy oedd y tîm arall ond roeddwn i'n sefyll ar waelod y 'gangway' oedd yn mynd o'r balconi yn y Turf Hotel i'r cae. Roedd y timau yn arfer newid yn ystafelloedd gwely'r Turf Hotel ac yna'n dod lawr i'r cae."
"Ges i hefyd cyfweliad gyda Kerry Evans - hi ydi liaison anabledd y clwb. Ma hi di 'neud lot i wneud yn siŵr fod 'na lefydd i bobl anabl yno. Mae o mor bwysig a ma' hi yn gwneud gwaith ofnadwy o bwysig.
"Nes i hogyn bach o'r enw Macey hefyd - fo ydi'r drymar."

Kerry Evans, 46. "I gael swydd lle gallwch weld y newidiadau cadarnhaol yr ydych yn eu gwneud yn cael effaith mor anhygoel ar gefnogwyr ag anableddau, mae'n eich sbarduno i fod eisiau gwneud mwy. Mae gen i'r swydd orau yn y byd ac rydw i wedi cyfarfod teuluoedd anhygoel."
Cymuned
Breuddwyd yn unig fyddai cyrhaeddiad eu perchnogion newydd, yr actorion Rob Mcelhenney a Ryan Reynolds, wedi bod ym meddyliau pobl Wrecsam.
Ac er eu bod yn hanu o fyd disglair Hollywood mae eu cyfraniad i'r dref yn amlwg, meddai Carwyn.

Paul Dunn, 56. "Dyma fy mhlentyndod hyd at fy oedolaeth. Mae'n gofeb werthfawr, rwy'n hynod angerddol am glwb pêl-droed Wrecsam. Mi fyddwn yn gefnogwr am fy oes."
"Dwi'n meddwl fod morale y dref wedi mynd fyny gymaint. Mae o mor dda fod y perchnogion rŵan yn rhoi eu hamser i achosion lleol.
"Roedd 'na berson sydd gydag anabledd drwg yn y dref oedd angen bathroom newydd a wnaethon nhw dalu amdano fo yn syth.
"Maen nhw wedi investio yn y bobl. A dyna sydd yn bwysig am bêl-droed a chwaraeon. Mae o mor berthnasol ei fod o yn fwy na gwylio dy dîm yn sgorio - mae 'na gymuned yna a mae pobl yna i gefnogi ei gilydd."

Paul Jones, 68. "Dw'i wedi bod yn gefnogwr ers 60 mlynedd, dw'i eisiau gweld ni yn ôl yn y Gynghrair, dw'i eisiau credu yn Rob a Ryan. Dw'i eisiau gweld y stadiwm yn ysgwyd. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld gemau cwpan ac Ewropeaidd enfawr. Gobeithio y caiff cefnogwyr ifanc heddiw atgofion fel y rheini a hynny ar Gae Ras."
Mae Rob Mcelhenney eisoes wedi dangos ei ddiddordeb yn 'Up the Town' a bydd Amgueddfa Wrecsam yn ogystal ag Amgueddfa Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, sydd ar ei ffordd yno, yn dangos y gwaith.
"Dwi'n falch fod pobl Wrecsam yn gwerthfawrogi'r lluniau. Mae lot wedi dod ata'i a deud eu bod nhw yn falch o ddeud eu stori nhw ag ei fod o'n bwysig bod cefnogwyr yn cael sylw."
Gallwch wrando ar Carwyn Rhys Jones yn trafod y prosiect ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru yma.